Astudiaeth achos: Educating RiTTA
Hyd y prosiect: 18 mis
Partneriaid: Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Watson IBM a Meridian IT UK
Trosolwg o’r prosiect:
Cynorthwyo cleifion canser, gofalwyr a theuluoedd mewn ffordd sy’n cynnig grym, cyngor ac annibyniaeth o ran eu dewisiadau gofal. Y meysydd gwella allweddol oedd diffyg adnoddau i ategu sgyrsiau o safon, unrhyw bryd ac yn unrhyw le.
Roedd cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn aml yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth ddefnyddiol o safon uchel i ategu eu dewisiadau a’u penderfyniadau am eu llesiant emosiynol, seicolegol a chorfforol. Drwy’r broses o feddwl am ddyluniad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, mae Felindre, ar y cyd â Pfizer Oncology ac IBM Watson, wedi datblygu cynorthwyydd rhithwir wedi ei alluogi gan ddeallusrwydd artiffisial cyntaf y byd, sydd wedi ei hyfforddi mewn oncoleg i brofi cysyniad.
Yng Ngham I, mae RiTTA wedi ei hyfforddi ar hyn o bryd i ateb nifer fach o fwriadau sy’n dangos ei allu. Mae bwriadau’n is-gategorïau lle gallai cwestiwn claf ddisgyn, a allai amrywio o ganser y fron, gwaith gweinyddol ymarferol, diffiniadau ac ati.
Cyfraniad Cyflymu:
Ar gyfer Cam II, mae Cyflymu yn ategu gwaith datblygu technegol, uwchraddio, defnyddio a gwerthuso RiTTA. Bydd hyn yn cynnwys neilltuo amser, gofal ac adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu setiau hyfforddi perthnasol i addysgu RiTTA i ateb amrywiaeth ehangach o bryderon a chwestiynau cleifion. Bydd RiTTA yn cael ei ddatblygu ar gyfer cynllun peilot mewn gofal y fron, yr ysgyfaint a gofal lliniarol yn seiliedig ar oddeutu 100 – 150 o fwriadau.
Bydd y bwriadau’n rhoi sylw i lawer o’r cwestiynau cyffredin mae cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn eu gofyn am fyw gyda chanser. Bydd clinigwyr, cleifion, academyddion a phartneriaid diwydiannol yn cyfrannu at y broses allweddol hon.
Dwedodd Phil Webb, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio Perfformiad ac Arloesi yn Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre.
“Mae Accelerate wedi rhoi llwyfan i ni gydweithio gyda chwmnïau lleol a Phrifysgolion ac mae’n darparu cymorth i fanteisio ar arbenigedd clinigol arbenigol sy’n hanfodol ar gyfer datblygu RiTTA. Yn y pen draw,dylai hyn alluogi’r GIG yng Nghymru i ddatgloi’r arloesi pwysig hwn a lledaenu mabwysiadu ar raddf aeang i weddnewid gwasanaethau
iechyd a gofal yng Nghymru.”
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.