Ddydd Gwener 4 Hydref, bu cydweithwyr o’r diwydiant o bob cwr o’r DU mewn digwyddiad yng Nghaerdydd gan y Grŵp Gweithredu ar gyfer Canser a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Dyma bwrpas y digwyddiad:
- Lansio Fforwm cyntaf y Diwydiant Canser yng Nghymru
- Cyflwyno’r cefndir yn barod ar gyfer y digwyddiad ‘Her Arloesi Canser’ ar 28 a 29 Tachwedd
- Rhoi cyfle i ddiwydiant gynnig gweithio gyda Gwasanaeth Sgrinio’r GIG
Cyflwynwyd y digwyddiad gan yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, a ddywedodd ‘Mae canser yn brif flaenoriaeth i Gymru. Rydyn ni ar agor ar gyfer busnes ac yn edrych ymlaen at weithio gyda diwydiant i helpu i sbarduno arloesi.’
Roedd y sesiynau yn ystod y dydd yn cynnwys; Grŵp Gweithredu Cymru yn cyflwyno’r cefndir, astudiaethau achos arloesi canser, sefydlu Fforwm y Diwydiant Canser a lansio Her Arloesi Canser Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Y cydweithwyr yn y diwydiant oedd yn bresennol oedd; Fujifilm Medical Systems, CanSense, Siemens, Roche Diagnostics, Olympus, Janssen by Johnson and Johnson a llawer mwy.
“Roedden ni wrth ein bodd o weld criw mor frwdfrydig o’r diwydiant yn y digwyddiad ddydd Gwener. Grêt gweld cymysgedd mor dda o sefydliadau o Gymru a ledled y DU yn dod at ei gilydd i helpu i sbarduno arloesi wrth ddarparu gofal canser. Diolch arbennig i’n cydweithwyr ni yn y grŵp Arloesi Canser a oedd yn allweddol wrth roi’r digwyddiad yma ar waith. Mae llawer i’w wneud ond rydyn ni’n hyderus, gyda'r bobl iawn, y gallwn ni wneud byd o wahaniaeth i bobl Cymru” Dee Puckett, Pennaeth Ymgysylltu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Hoffai Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ddiolch yn arbennig i gôr anhygoel Gofal Canser Tenovus a helpodd i gloi ein digwyddiad ni, gan adael pawb yn teimlo’n gadarnhaol ac wedi’u hysbrydoli ar gyfer beth sydd i ddod…
Beth nesaf?
- Ymunwch â Fforwm y Diwydiant Canser: Anfonwch eich cais ar e-bost i Tracey.Hill@wales.nhs.uk.
- Cofiwch y dyddiad: Bydd digwyddiad nesaf y Fforwm Diwydiant yn cael ei gynnal ar 27 Chwefror 2020.
- Her Arloesi Canser: 28 a 29 Tachwedd, mwy o fanylion i ddilyn.