Sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r rhaglen
Wrth i’r broses o recriwtio rheolwr gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth newydd, nid oedd gan dîm y prosiect yr adnodd i reoli’r gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth. Ymunodd ein Harweinydd Prosiect â’r tîm i ddarparu cefnogaeth bwrpasol, gan helpu i gynnal y momentwm yn absenoldeb rheolwr gwasanaeth. Roedd cwmpas y gefnogaeth yn cynnwys:
- Cefnogi’r gwaith o ddylunio strwythurau llywodraethu
- Ymchwil a dadansoddiad o wasanaethau rheoli pwysau a gynigir gan fyrddau iechyd eraill ledled Cymru.
- Datblygu dogfennaeth gan gynnwys y Ddogfen Cychwyn Prosiect ar gyfer y gwasanaeth.
Golyga’r gefnogaeth hon y gallai Maria Cole, y rheolwr gwasanaeth newydd a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Hydref 2022, ddechrau’n gyflym yn ei rôl newydd:
“Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru cyn i mi ddechrau yn fy swydd yn ddefnyddiol iawn a oedd yn fy ngalluogi i wneud dechrau cadarn ar y gwaith. Y budd mwyaf allweddol oedd sefydlu cysylltiadau da gyda byrddau iechyd eraill a’r ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd ar sut yr oedd y byrddau iechyd eraill yn cynnal eu gwasanaethau rheoli pwysau i oedolion. Gallwn gysylltu’n syth â’m cyfoedion yn y byrddau iechyd eraill ar y dechrau. Roedd y ffaith bod llawer o’r ddogfennaeth wedi’i datblygu eisoes, gan gynnwys y Ddogfen Cychwyn Prosiect, wirioneddol wedi fy nghynorthwyo i ddeall pethau fel ffrydiau ariannu a beth oedd y sefyllfa recriwtio gyfredol.”
Maria Cole, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaeth Rheoli Pwysau BIP CTM
“Ar ôl cefnogi camau cynnar y gwaith o gynllunio a sefydlu gwasanaeth rheoli pwysau Cwm Taf Morgannwg, rwy’n falch iawn o’i weld ar waith. Mae’n wasanaeth hanfodol i breswylwyr yr ardal, a bydd yn creu buddiannau gwirioneddol i bobl a darparwyr gofal iechyd fel ei gilydd. Mae’r tîm wedi mabwysiadu agwedd arloesol at gefnogaeth seicolegol a phartneriaeth, felly bydd gennyf ddiddordeb mewn gweld sut mae’r gwasanaeth yn tyfu ac yn datblygu.”
Hannah Crocker, cyn Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd bellach yn Rheolwr Rhaglen Canlyniadau Cynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch (ATMP), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Beth Nesaf?
Mae’r gwasanaeth yn derbyn hunangyfeiriadau ar lefel un yn awr, ac mae’n gweithio tuag at hunangyfeiriadau ar gyfer pobl sydd angen cymorth lefel dau a thri.
Mae’r galw yn uchel am gymorth lefel tri, ac mae’r gwasanaeth yn gweithio drwy restr aros helaeth o gleifion. Mae pobl sy’n aros am y gwasanaethau hyn yn cael eu cyfeirio at opsiynau cymorth eraill wrth iddynt aros.
Mae’r gwasanaeth yn cynnal trafodaethau gweithredol hefyd gyda darparwyr masnachol ar gyfer mabwysiadu datrysiad arloesol ar sail ap er mwyn ehangu’r dewis o wasanaethau sydd ar gael.