Sut y cefnogodd Hwb Gwyddorau Cymru y prosiect
Cafodd y gwaith hwn ei ysgogi gan gyllid a dderbyniodd Healthy.io gan Gronfa Datrysiadau Digidol Llywodraeth Cymru, menter a sefydlwyd yn ystod camau cychwynnol y pandemig er mwyn helpu i gyflawni datrysiadau digidol yn gyflym.
Bu Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (cydweithrediad rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru) yn cydlynu’r broses o wneud cais a dethol ar gyfer y gronfa hon. Roedd hyn yn golygu ein helpu i gysylltu datblygu syniadau arloesol llwyddiannus gyda’r rhannau o wasanaeth iechyd Cymru a allai elwa ohonynt.
Yna darparwyd cefnogaeth rheoli prosiect a logisteg er mwyn dechrau’r prosiectau. Ym Mae Abertawe roedd hyn yn golygu arwain cyfarfodydd wythnosol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect a datrys unrhyw heriau a wynebwyd gan y tîm, a chydlynu’r broses o adrodd i Lywodraeth Cymru a chyfathrebu gyda hwy.
Beth nesaf?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn datblygu cynnig i sicrhau cyllid ar gyfer integreiddio'r ap clwyfau yn barhaol o fewn y Nyrsys Ardal a Chlinig Clwyfau Cymunedol. Mae'r tîm Nyrsio Ardal hefyd yn cydweithio â Microbioleg, gan roi mynediad darllen yn unig iddynt i'r ap clwyfau i helpu i leihau presgripsiynau gwrthfiotig. Yn ogystal, mae gan y Gwasanaeth Atal ac Ymyrraeth Briwiau Pwysedd fynediad darllen yn unig, gan ganiatáu iddynt gynnig cyngor arbenigol amserol i leihau amser gwella clwyfau.
Gwaddol ehangach ar draws Cymru
Mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect gwerthuso bychan wedi arwain at waith ar raddfa llawer mwy i edrych ar sut y gall technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) helpu i reoli clwyfau ledled Cymru, gydag ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru, Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru a byrddau iechyd eraill yng Nghymru.
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi hwyluso treial yr offeryn digidol arloesol hwn ym Mae Abertawe. Etifeddiaeth hirdymor y prosiect hwn yw’r sgyrsiau mwy sydd bellach yn digwydd ledled Cymru am reoli gofal clwyfau yn well a sut y gallai mabwysiadu’r math hwn o dechnoleg yn genedlaethol helpu.’"
Kate Coombs, Pennaeth Cyflenwi Rhaglenni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Wrth gefnogi’r prosiect gwreiddiol, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi dod ag ystod eang o unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn rheoli clwyfau ynghyd. Datblygodd hyn i fod yn grŵp rheoli sy’n ystyried yn ehangach y posibilrwydd o ddatblygu llwybr ar gyfer rheoli clwyfau yng Nghymru, yn ogystal ag anghenion hyfforddiant a thechnoleg.
Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd i edrych ar yr opsiynau gorau ar gyfer offer rheoli clwyfau i’w mabwysiadu ledled y wlad. Bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn bwydo i mewn i hynny, ochr yn ochr â gwaith pellach ar ddadansoddi’r farchnad (edrych ar gynnyrch rheoli clwyfau a ddefnyddir ar draws y DU ac yn rhyngwladol), gwerthuso offer amgen a chymharu canlyniadau a dadansoddiadau budd o ran costau.
O ganlyniad i'r prosiect, mae rhwydwaith a fu’n anweithredol yn y gorffennol ar gyfer nyrsys hyfywedd meinwe ac eraill sy'n gweithio gyda rheoli clwyfau hefyd yn cael ei adfywio gyda chyfarfodydd rhithwir rheolaidd wedi'u cynllunio. Byddwn yn parhau i gynnig cymorth ac adnoddau parhaus i gefnogi hyn yn y dyfodol.