Cydweithiodd y Gwasanaeth Endocrinoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyda KeepMeWell Ltd i gynnal treialon ar ddefnyddio’r ateb digidol sy’n gweithio drwy gyfrwng ap, i helpu i osgoi’r broblem a geir pan fydd cynnyrch cyffuriau hydrocortison brys cleifion wedi dyddio, gan fod y cynnyrch hwn yn hanfodol yn ystod argyfwng adrenal.
Nodau’r Prosiect
Roedd y Gwasanaeth Endocrinoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn awyddus i ddefnyddio ateb digidol i sicrhau bod pob claf sydd â diffyg hormonau adrenal yn gallu cael gafael ar becyn chwistrellu hydrocortison brys cyfredol, gyda phresgripsiwn i gael cyflenwad newydd yn cael ei roi’n brydlon pan fydd bron â dod i ben. Mae hyn mewn ymateb uniongyrchol i Hysbysiad Diogelwch Cleifion Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru.PSN057/Mehefin 21) i ddiogelu cleifion sydd â diffyg hormonau adrenal; roedd yr hysbysiad yn datgan y dylai pob claf gael mynediad at gynnyrch cyffuriau hydrocortison brys cyfredol.
Dechrau’r prosiect
Cyfarfu’r tîm clinigol a chwmni KeepMeWell Ltd i drafod amlinelliad cychwynnol y prosiect. Fe wnaeth y tîm gwblhau gwerthusiad mewnol o’r gwasanaeth, creu holiadur i gleifion, gan amlinellu nodau’r prosiect a gofynnodd hefyd am gymeradwyaeth i gael cyllid. Cwblhawyd dogfennau Llywodraethu Gwybodaeth priodol, cytundebau diogelu data a ffurflenni diogelwch yn y cwmwl. Gwnaed taflen wybodaeth i gleifion ynghyd â thaflen gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r platfform. Aeth y tîm Clinigol ati i dderbyn cleifion ar y prosiect a chasglwyd data ac adborth.
Heriau’r prosiect
Bu’n rhaid diweddaru’r daflen gyfarwyddiadau gychwynnol drwy roi mwy o ddelweddau arni i helpu cleifion nad oeddent yn gyfarwydd iawn â dyfeisiau digidol. Y prif bwynt dysgu oedd ceisio cyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd mor glir a chryno â phosibl ar gyfer defnyddwyr y platfform.
Canlyniadau’r prosiect
Ar gyfer y grŵp oedran 18-40 oed, roedd gan 55.6% gyflenwad cyfredol o hydrocortison brys. Ar gyfer y grŵp oedran 41-65 oed, roedd gan 33% gyflenwad cyfredol o hydrocortison brys ac ar gyfer y grŵp 66 oed a hŷn, roedd gan 60% gyflenwad cyfredol o hydrocortison brys. Roedd pob claf yn fodlon derbyn y platfform sy’n gweithio drwy ap a theimlent ei fod yn achubiaeth iddynt. Derbyniwyd y prosiect i’w gyflwyno yng Nghymdeithas Endocrinoleg Prydain ym mis Tachwedd 2022. Roedd y tîm clinigol a’r cleifion o’r farn bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi mabwysiadu’r platfform i’w ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer eu Gwasanaeth.
Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar Gleifion gan eu bod yn cael eu hysbysu pan fydd eu meddyginiaeth yn dod i ben. Mae’r Tîm Clinigol hefyd yn cael gwybod pan gaiff presgripsiwn rheolaidd ei roi i’r claf. Mae hyn, felly, yn arbed amser ac adnoddau i’r tîm clinigol, yn ogystal ag yn sicrhau gwell diogelwch i gleifion o safbwynt eu meddyginiaeth.
Hyd yma, mae 70 o gleifion wedi dechrau defnyddio’r ap gyda 50 o bresgripsiynau adnewyddu eisoes wedi’u rhoi. Yr adborth mwyaf cyffredin gan gleifion a nyrsys endocrin yw ei fod yn ‘achubiaeth’.
Cyllid ar gyfer y prosiect
Y Gwasanaeth Endocrinoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a ariannodd y cynllun peilot.
Partneriaid a thîm y prosiect
-
Dr Andrew Lansdown, Arweinydd Clinigol ac Endocrinolegydd Ymgynghorol.
-
Prif Nyrs Janet Lewis, Nyrs Arweiniol Endocrin
-
Uwch Nyrs Stacey Hughes.
-
Seetal Bhabra – Prif Swyddog Gweithredol KeepMeWell Ltd.
Y camau nesaf
Defnyddio Device-Link yn fwy eang ar gyfer amrywiaeth eang o gynhyrchion fel cofrestru dyfeisiau sy’n cael eu mewnblannu, hormonau twf, pennau inswlin a llawer o chwistrellwyr awtomatig/cynhyrchion dyfeisiau meddygol eraill. Felly, y camau nesaf yw ei fabwysiadu a’i ehangu ar gyfer cynhyrchion eraill ledled Cymru a thu hwnt.
Am ragor o wybodaeth: info@device-link.com