Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae prosiect Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth gyda phobl sy’n cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu treialu dyfais feddyginiaeth a gofal cofleidiol cysylltiedig i helpu pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr i aros yn annibynnol.

Local YourMeds user
  • Mae Age UK yn amcangyfrif bod tua dwy filiwn o bobl 65 oed a hŷn yn cymryd o leiaf saith math gwahanol feddyginiaethau sydd wedi’u rhagnodi bob wythnos. 

  • Mae prosiect newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gwerthuso’r potensial i gyflwyno dyfais i atgoffa defnyddwyr i gymryd eu meddyginiaeth. 

  • Cwblhaodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ymarfer sganio’r gorwel a oedd yn helpu i gadarnhau’r dewis o ddarparwr dyfais ddigidol arloesol, ac mae bellach yn rheoli’r ymarfer gwerthuso. 

Mae rheoli meddyginiaeth yn her gynyddol 

Mae anghenion meddyginiaeth cynyddol yn her sylweddol ym maes gofal cymdeithasol.  Mae Age UK yn amcangyfrif bod bron i ddwy filiwn o bobl 65 oed a hŷn yn cymryd o leiaf saith math gwahanol o feddyginiaethau sydd wedi’u rhagnodi bob wythnos. I unrhyw un sydd eisiau cynnal eu hannibyniaeth a byw yn eu cartref eu hunain, mae rheoli meddyginiaeth yn hollbwysig. Ond amcangyfrifir nad yw hyd at 50% o feddyginiaethau rhagnodedig yn cael eu cymryd fel y bwriadwyd. 

Mae nifer o ddyfeisiau atgoffa meddyginiaethau ar gael ar y farchnad i helpu pobl i gofio pryd i gymryd eu meddyginiaethau.  Un o’r heriau gyda llawer o’r dyfeisiau hyn yw bod angen eu hail-lenwi yn rheolaidd – er enghraifft gyda chyflenwad wythnos o feddyginiaeth.  Mae hyn yn rhoi straen ar deuluoedd i gefnogi’r broses hon a gall olygu nad yw’r ddyfais yn cael ei defnyddio os na fydd aelodau’r teulu ar gael ar yr adeg gywir.  

Gwendid arall gyda llawer o’r dyfeisiau sydd ar gael yw nad ydynt yn ddigidol, ac felly nid oes unrhyw ffordd o gofnodi data a allai helpu i asesu materion a thueddiadau.  

Grymuso pobl i barhau i fyw’n annibynnol 

Mae gwasanaethau Teleofal yn cynnig cymorth sy’n galluogi i bobl hŷn, pobl ag anableddau neu oedolion a phlant agored i niwed barhau i fyw’n annibynnol.  Gellir sbarduno synwyryddion a dyfeisiau gwisgadwy yn y cartref i alluogi pobl i godi rhybudd a chael cymorth pan fydd ei angen arnynt, er enghraifft ar ôl cwympo. Mae gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru fynediad at ganolfan derbyn larymau sy’n cynnig y cymorth hwn.  Mae gan rai fynediad hefyd at wasanaethau ymateb y gellir eu defnyddio pan fydd angen, gan leihau’r straen ar y gwasanaethau brys, teuluoedd a gofalwyr. 

Yn Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r tîm Fferylliaeth a Teleofal Bridgelink, y naill a’r llall yn rhan o’r Tîm Adnoddau Cymunedol, yn gweithio yn awr gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i werthuso dyfais arloesol sy’n helpu pobl i gymryd eu meddyginiaeth, ac sy’n galluogi i’r tîm teleofal gynnig mwy o gymorth pan fydd ei angen.  Bydd y prosiect yn gwerthuso effaith yr offer ar angen pobl am gymorth yn ogystal â darparwyr gofal, a bydd yn hysbysu’r defnydd hirdymor o’r offer a’r potensial i’w gyflwyno’n ehangach mewn rhannau eraill o Gymru. 

Yn ystod treial blaenorol o’r ddyfais, roedd Teleofal Bridgelink a’r tîm Fferylliaeth wedi cydweithio ac wedi gweld manteision dyfais feddyginiaeth lle byddai fferyllwyr cymunedol yn derbyn cefnogaeth i gyflenwi dyfeisiau wedi’u llenwi ymlaen llaw. 

Yn dilyn y treial hwn, a gyda rhestr gofynion wedi’i mireini, cysylltodd y ddau dîm â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ynglŷn â chymorth rheoli prosiect i werthuso dyfais newydd.  Cadarnhaodd yr ymarfer  sganio’r gorwel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mai YOURmeds oedd y datrysiad gorau ar gyfer y gwerthusiad. 

Mae £20,000 o gyllid gan Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ariannu’r ddarpariaeth o ddyfeisiau i 40 o breswylwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ar gyfer prosiect gwerthuso naw mis.  Mae cost y cymorth cofleidiol gwell a gynigir gan y tîm teleofal yn cael ei amsugno gan y gwasanaeth presennol. 

Cyflawniadau

Roedd sefydlu’r prosiect yn cynnwys:

  • Datblygu llwybr cyfeirio drwy’r gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol.
  • Datblygu llwybrau cyfeirio ar gyfer Fferylliaeth yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru, er mwyn cysylltu Teleofal a gwasanaethau fferylliaeth cymunedol.
  • Mwy o weithio integredig rhwng timau iechyd a gofal cymdeithasol.
Beth yw YOURmeds?

Ymhlith rhai o’r gofynion allweddol a nodwyd gan y tîm roedd: 

  • Dyfais ddigidol a fyddai’n atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth. 
  • Y gallu i anfon negeseuon, gyda chydsyniad, at aelodau’r teulu a’r ganolfan derbyn larymau pan fyddai meddyginiaethau yn cael eu methu neu eu cymryd yn anghywir. 
  • Dangosfwrdd data canolog a fyddai’n galluogi’r tîm i olrhain ymddygiad er mwyn iddynt allu ymateb yn fwy rhagweithiol i faterion. 

Roedd YOURmeds yn cyflawni’r rhan fwyaf o’r gofynion ac roeddynt yn barod i weithio gyda’r rhanddeiliaid i ddatblygu nodweddion ychwanegol eraill – y dangosfwrdd data yn benodol. 

Mae dyfais YOURmeds yn cynnwys pecyn pothell wedi’i rifo sy’n llithro i mewn i ddyfais ddigidol o’r enw tag.  Mae’r pecyn pothell yn cael ei lenwi gan fferyllwyr cymunedol a’u dosbarthu i ddefnyddwyr, sy’n golygu nad oes angen i deuluoedd gefnogi’r broses hon.  Mae’r tag digidol yn atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth ac mae synwyryddion yn y pecyn pothell yn nodi pryd y mae’r feddyginiaeth wedi’i chyrchu.  Os collir meddyginiaeth, gellir anfon neges at aelod o’r teulu a/neu’r ganolfan sy’n derbyn y larymau. 

Un o fanteision allweddol eich dyfais YOURmeds yw bod y ddyfais yn gweithredu gyda’i cherdyn SIM ei hun – mae hyn yn golygu nad yw’n ddibynnol ar gael ei chysylltu i ddyfais arall i weithio.  Mae’n rhaid cysylltu dyfeisiau eraill tebyg i ffôn clyfar (rhywbeth nad oes gan lawer o ddefnyddwyr), neu ddyfais yng nghartref y defnyddiwr (sy’n golygu na fydd yn gweithio y tu allan i’r cartref). 

Yn ogystal ag atgoffa defnyddwyr, mae’r gallu i anfon negeseuon at aelodau’r teulu a’r ganolfan sy’n derbyn y larymau yn golygu y gellir uwchgyfeirio materion sy’n ymwneud â meddyginiaeth i grŵp o gysylltiadau dewisol.  Os bydd angen, gall y gwasanaeth teleofal anfon uned ymateb symudol i gwblhau gwiriad llesiant ar y preswylydd. 

“Mae YOURmeds yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn sy’n cysylltu gofal iechyd a gofal cymdeithasol â rheoli meddyginiaeth yn y gymuned.  Rydym ni’n gyffrous i gael cyd-gynhyrchu’r dangosfwrdd data sy’n galluogi cefnogwyr i gael “ffenestr” rithiol anymwthiol i gartref defnyddiwr.  Mae hyn yn golygu bod y defnyddwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod ganddynt fynediad at y cymorth pan fyddant ei angen ond sydd hefyd yn eu galluogi i gynnal eu hannibyniaeth.” 

Priti Patel, Pennaeth Gwerthiannau, YOURmeds Limited 

Yr effaith ar breswylwyr

Yn seiliedig ar ganlyniadau eu treial blaenorol o ddyfais wedi’i llenwi ymlaen llaw, gyda chymorth gan y tîm ymateb symudol, mae tîm y prosiect yn disgwyl gweld manteision i ddefnyddwyr sy’n cynnwys: 

  • Gwell ymlyniad at feddyginiaeth, gan arwain at reoli cyflyrau iechyd yn well a llai o ddigwyddiadau megis codymau. 
  • Gallu darparu cymorth rhagweithiol 24/7, gyda gwiriadau llesiant yn cael eu cynnal ar bobl nad ydynt wedi cymryd eu meddyginiaeth. 
  • Mae mwy o bobl yn gallu aros yn eu cartrefi yn hytrach na symud i ofal preswyl. 
  • Llai o straen ar deuluoedd. 
Yr effaith ar ddarparwyr iechyd a gofal

Yn ogystal â chanlyniadau gwell i gleifion, rhagwelir y bydd y prosiect yn cefnogi: 

  • Llai o ymweliadau i adrannau damweiniau ac achosion brys oherwydd camgymeriadau gyda meddyginiaeth (credir bod tua 5-10% o dderbyniadau ysbytai yn gysylltiedig â meddyginiaeth, gyda diffyg ymlyniad yn cynrychioli 29% o’r derbyniadau hyn). 
  • Gallu rhyddhau cleifion o’r ysbyty yn gynharach drwy gymorth cymunedol gwell ar gyfer rheoli meddyginiaeth. 
  • Llai o wastraff meddyginiaeth. 
  • Llai o ymweliadau gofal cartref mewn person i gartrefi, gyda’r ymweliadau’n cael eu targedu ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.  Cyn y prosiect, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ariannu ymweliadau cartref mewn un ardal, a hynny er mwyn atgoffa pobl i gymryd eu meddyginiaeth yn unig. 
  • Proses well o rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal sylfaenol, er enghraifft fferyllwyr a meddygon teulu, diolch i’r dangosfyrddau data a ddatblygwyd gan YOURmeds. 

“Bydd gallu darparu ffyrdd arloesol newydd o gefnogi pobl i gymryd eu meddyginiaethau’n ddiogel yn helpu i wella iechyd a llesiant personol.  Mae’r agwedd monitro o bell yn bwysig oherwydd mae’n galluogi teuluoedd a gwasanaethau i gefnogi unigolion ymhellach ac atal derbyniadau ysbytai.” 

Tom Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol – Gwasanaethau cymunedol integredig Pen-y-bont ar Ogwr 

Sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r prosiect 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cwblhau ymarfer sganio’r gorwel i gadarnhau mai YOURmeds oedd y datrysiad gorau a oedd ar gael ar gyfer anghenion defnyddwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chymru. 

Rydym yn rheoli’r broses o gyflwyno a gwerthuso’r dull gweithredu hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn cadw golwg ar y manteision posibl y gallai hyn eu creu o’i gyflwyno ledled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys cydlynu mewnbwn gan randdeiliaid, cefnogi cyfathrebiadau ac adolygu potensial prosiectau tebyg mewn ardaloedd eraill. 

“Mae rheoli gwerthusiad fel hyn a mynychu ymweliadau a chefnogi heriau gwasanaeth rheng flaen o ddydd i ddydd yn anodd iawn i dimau gofal iechyd a gofal cymdeithasol eu rheoli.  Mae hyn yn aml yn atal arloesedd neu weithiau mae’n ei gwneud yn amhosibl i ni eu gweithredu.  Yma yn yr Hwb, gallwn gefnogi’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ddechrau syniad a gall rheoli prosiect fod yn rhan o’r cymorth hwn.  Mae’n helpu i dynnu’r pwysau oddi ar arweinwyr gwasanaeth ac yn caniatáu mwy o amser iddynt ystyried arloesedd.  Gall prosiectau cydweithredol fel hyn ein cynorthwyo i ganfod cyfleoedd newydd i gefnogi arloesi ehangach ledled Cymru gyfan.” 

Louise Baker, Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 

Beth nesaf? 

Ar ôl cwblhau’r prosiect gwerthuso, cynhelir gwerthusiad annibynnol gan Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, a fydd yn ymgorffori adborth gan bob un o’r rhanddeiliaid sy’n gysylltiedig â hyn, gan gynnwys defnyddwyr, teuluoedd, fferyllwyr a thimau gofal cartref a theleofal. 

Asesir llwyddiant y prosiect hwn, gyda’r bwriad o fabwysiadu’r ddyfais a’r gwasanaeth yn y tymor hwy, eu cyflwyno mewn rhanbarthau eraill (neu’n genedlaethol), yn ogystal â’r potensial i ddarparu cymorth tebyg ar gyfer mathau eraill o driniaethau, er enghraifft anadlwyr a diferion llygaid. 

Llinell amser y prosiect

Cysylltu â ni 

Rydym yma i helpu i ysgogi trawsnewidiadau ar draws y system gyfan!  Os hoffech fynediad at gymorth sy’n debyg i’r cymorth yn yr astudiaeth achos hon, yna rydym yn awyddus i glywed gennych chi. Cyflwynwch eich ymholiad heddiw drwy ein gwefan

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos YourMeds isod: