"...mae cydweithio rhwng gofal iechyd a diwydiant yn parhau i gynnig cyfleoedd ar gyfer atebion. Yn fwy nag erioed, rhaid i ni feithrin ymdrechion cydweithredol y sector gwyddorau bywyd. Ac mae gan y Deyrnas Unedig, a Chymru yn benodol, reswm i fod yn feiddgar ynghylch ein gallu i wneud hynny."

Cardiff Bay at Twilight

Mae hwn yn gyfnod cyffrous a deinamig i’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. 

Chwaraeodd y diwydiant ran enfawr yn y gwaith o fynd i’r afael â phandemig Covid-19 drwy ymateb yn gyflym, cydweithio ac arloesi mewn diagnosteg, triniaethau a brechlynnau. Yn ogystal, fe wnaeth y pandemig gyflymu’r symudiad tuag at ddefnyddio mwy ar dechnoleg drwy apiau, dyfeisiau y gellir eu gwisgo, ymgyngoriadau o bell a mwy – gan agor y llifddorau ar gyfer defnydd arloesol o dechnoleg a data iechyd.

Erbyn hyn, mae systemau gofal iechyd ledled y byd, gan gynnwys y GIG, yn wynebu eu cyfnod mwyaf heriol mewn cof, gyda gwasanaethau sy’n ei chael hi’n anodd, prinder gweithlu, cynnydd yn y galw ac anghydraddoldebau cynyddol. 

Ond, wrth i ni wynebu’r heriau hyn, mae cydweithio rhwng gofal iechyd a diwydiant yn parhau i gynnig cyfleoedd ar gyfer atebion. Yn fwy nag erioed, rhaid i ni feithrin ymdrechion cydweithredol y sector gwyddorau bywyd. Ac mae gan y Deyrnas Unedig, a Chymru yn benodol, reswm i fod yn feiddgar ynghylch ein gallu i wneud hynny.

Mae cryfder arloesi’r Deyrnas Unedig yn parhau i dyfu, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw at y ffigurau diweddaraf sy’n dangos sut mae Cymru yn hybu gweledigaeth gwyddorau bywyd y Deyrnas Unedig.

 

Cryfder y Deyrnas Unedig: buddsoddi mewn arloesi

Gyda’i gilydd, mae’r Deyrnas Unedig yn buddsoddi mewn arloesi ym maes gwyddorau bywyd. Mae ein hamgylchedd treth, ein systemau cymorth ariannol, ein blaenoriaethau buddsoddi – i gyd yn gwneud y Deyrnas Unedig yn un o’r lleoedd mwyaf deniadol yn y byd i ddatblygu busnes ym maes gwyddorau bywyd. 

Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ymrwymiad uchelgeisiol y Llywodraeth i wyddorau bywyd, fel y nodir yn y Weledigaeth ar gyfer Gwyddorau Bywyd yn y Deyrnas Unedig, sy’n canolbwyntio’n sylweddol ar arloesi, gan gynnwys cyllid a mynediad at gyllid ar gyfer busnesau newydd. Yn wir, yn y gyllideb y llynedd dyrannwyd £39.8 biliwn i gyllido ymchwil a datblygu ar draws pob sector yn y Deyrnas Unedig rhwng 2022 a 2025. Roedd dangosyddion cystadleurwydd gwyddor bywyd 2022 yn tynnu sylw at hyn ymhellach, gan roi’r Deyrnas Unedig yn y 3ydd safle ymhlith y prif wledydd am ei buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ym maes iechyd.

 

Safle unigryw o gryfder Cymru

Fel un o wledydd y Deyrnas Unedig, mae Cymru’n elwa ar yr amgylchedd cystadleuol hwn, ac ar yr un pryd mae’n wahanol ac yn unigryw i weddill y Deyrnas Unedig.

Tynnwyd sylw at gryfder Cymru yn y ffigurau a grybwyllais uchod. Roedd yr ystadegau diweddaraf a ryddhawyd gan y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS) yn dangos bod twf mewn incwm busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru yn well na thwf busnesau gwyddorau bywyd yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Roeddent yn dangos bod nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi mewn gwyddorau bywyd hefyd yn cynyddu ac yn cyd-fynd â gweddill y Deyrnas Unedig. 

Yn y cyfamser, mae’r ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru, a ryddhawyd tua diwedd y llynedd, yn dangos dylanwad byd-eang cynyddol gwyddorau bywyd Cymru. Roeddent yn dangos bod cynnyrch fferyllol ymhlith y pum cynnyrch gorau sy’n cael eu hallforio o Gymru, gyda gwerth blynyddol o £1.1 biliwn – cynnydd o 30%, o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Pan fydd pobl yn gofyn i mi am fy ymateb i’r canlyniadau trawiadol hyn, rwy’n tueddu i ddweud fy mod yn eu gweld yn rhai calonogol, ond nad ydynt yn syndod. Yng Nghymru, mae gennym nifer o gynhwysion sy’n cyfrannu at ein safle fel y pwerdy compact hwn ar gyfer gwyddorau bywyd.

Mae GIG Cymru yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Mae gennym un system iechyd gydgysylltiedig sy’n llawer haws ei defnyddio nag y gall nifer o ranbarthau eraill ei gynnig. Mae hyn yn gwneud Cymru’n eithriadol o ddeniadol i arloeswyr gofal iechyd, sydd â mynediad at boblogaeth cleifion o dros 3 miliwn o bobl, drwy un system iechyd gyda saith bwrdd iechyd sydd â chysylltiad agos â’i gilydd.

Ynghyd â hyn, mae gennym lywodraeth ragweithiol iawn yng Nghymru sydd wastad wedi cefnogi twf gwyddorau bywyd. Yn 2015, helpodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i gryfhau dull cydgysylltiedig o ymdrin ag iechyd, llesiant a llunio polisïau. Gan fynd yn ôl ymhellach, mae strategaeth y Llywodraeth i gefnogi’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru wedi bod yn ffocws ers 2010. Ac mae’r sector yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i gyflawni’r ymrwymiadau uchelgeisiol yn Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer 2021-26. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i annog a meithrin busnesau gwyddorau bywyd newydd sy’n ymsefydlu yng Nghymru ac rydym yn disgwyl y bydd y Strategaeth Arloesi sydd ar y gweill ar gyfer Cymru yn atgyfnerthu hyn ymhellach.

Y llynedd yn unig, gwelsom ddatblygiadau cyffrous i fusnesau fel Siemens Healthineers, a gyhoeddodd gynlluniau i uwchraddio ei gyfleuster yn Llanberis (ynghyd â chreu 100 o swyddi o ansawdd uchel), gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Dim ond un enghraifft yw hon o gwmni rhyngwladol mawr sy’n ehangu, ond yn ogystal â hyn, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi bod yn siarad â mwy o gwmnïau newydd o Gymru a syniadau am fusnesau sy’n deillio o brifysgolion nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn rhoi hyder mawr i mi y byddwn ni’n edrych ar ffigurau dros y blynyddoedd nesaf a fydd yn dangos twf cryfach fyth ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru.

 

Hwb ar gyfer sbarduno arloesi

Mae’n amlwg bod Cymru’n cynnig ecosystem gefnogol iawn i ffynnu ynddi, ond rydyn ni hefyd yn gwybod nad yw partneriaethau a chydweithrediadau llwyddiannus yn dod o unman. Mae cwmnïau arloesol yn dal i gael trafferth dod o hyd i bartneriaid priodol, ac yn aml nid oes gan ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yr amser, y sgiliau na’r adnoddau i chwilio am yr atebion diweddaraf i’w heriau.

Mae hyn wrth galon ein cenhadaeth yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Rydyn ni o’r farn bod cydweithio amlddisgyblaethol yn rhan allweddol o arloesi, ac o ran gallu’r genedl i ddiwallu anghenion gofal iechyd y dyfodol, a gallu busnesau gwyddorau bywyd i gyflawni eu potensial. 

Mae ein harbenigedd yn y maes hwn yn un ffordd yn unig rydym yn cyflymu arloesi yng Nghymru. Rydyn ni’n cydweithio ag iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid yn y diwydiant i gynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth wedi eu teilwra – o helpu i feithrin cysylltiadau, i ddarparu cymorth prosiect pwrpasol.  

Fel y dywedais, mae Cymru’n unigryw. Rydym bob amser wedi paratoi ein llwybr ein hunain fel cenedl ac mae ein sector gwyddorau bywyd yn gwneud yr un fath erbyn hyn.

Fel y gwelwyd yn yr ymateb unedig i Covid-19, rwyf wedi gweld diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru yn dod at ei gilydd o ddifri dros y blynyddoedd diwethaf. Mae busnesau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn cydweithio’n fwy effeithiol nag erioed i ddod o hyd i atebion i heriau iechyd a gofal go iawn, ac mae wedi bod yn gyffrous i ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gymryd rhan.

Rydyn ni’n falch o fod wrth galon ecosystem mor fywiog, ac o chwarae ein rhan i’w helpu i ffynnu. Felly, os ydych chi’n rhan o fusnes gwyddorau bywyd arloesol – yn fach neu’n fawr – a bod angen cymorth arnoch chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi