Dr. Chris Subbe, Ymgynghorydd Meddyginiaeth Gofal Acíwt, Anadlol a Chritigol ac Uwch Ddarlithydd Clinigol yn ystyried sut y gallwn gynnwys arloesedd yn llwyddiannus mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Open diary with pencil

Yn ôl hen ddywediad, ‘arfer yw’r unig athro’. Boed hynny’n ddysgu i ganu offeryn cerddorol neu’n ddysgu ail iaith, drwy ymrwymo i wneud rhywbeth bob dydd, bydd yn dod yn haws. Mae dull gweithredu cyson yn atgyfnerthu mathau o ymddygiad ac yn eich helpu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen. 

Rwy’n credu bod hyn yn wir hefyd am arloesi llwyddiannus mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf wedi gweld hyn drwy gydol fy ngyrfa, mewn gwaith sy’n cwmpasu’r byd academaidd a gofal iechyd, ac yn aml mewn gwaith gyda phartneriaid mewn diwydiant i ddatblygu a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau arloesol sy’n gallu gwella canlyniadau i gleifion. 

Roeddwn yn gysylltiedig â datblygu’r Sgoriau Rhybudd Cynnar Cenedlaethol, sydd wedi’u mabwysiadu gan lawer ledled Ewrop. Mae’r rhain yn darparu dull safonol i dimau clinigol rheng flaen sy’n trin cleifion sydd â’u hiechyd yn dirywio, fel bod modd sylwi’n gynharach ar gyflyrau fel sepsis sy’n peryglu bywyd, a’u hatal yn gynt. Gweithiais mewn partneriaeth â Philips i greu cymhwysiad electronig o’r rhain lle’r oedd synwyryddion yn cael eu gwisgo am y corff i ddarparu gwybodaeth i dimau ymateb cyflym neu feddygon uwch. 

Fodd bynnag, mae’r profiad a gefais yn adlewyrchu’r consensws cyffredin bod cyflwyno arloesedd mewn gofal iechyd a’i ledaenu ar raddfa fawr yn gallu bod yn anodd – pa un a ydych yn gweithio mewn diwydiant, mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol neu yn y byd academaidd. Am bob 10 o brosiectau arloesi y byddwch yn gweithio arnynt, mae’n bosibl mai dim ond dau neu dri fydd yn llwyddo yn y tymor hir. Mae angen dyfalbarhad a chysondeb wrth weithredu ond, er mwyn sicrhau hynny, rhaid wrth bobl sy’n meddu nodweddion o’r fath.  

Byddai fframwaith a chymhellion ehangach i arloesi ar lefel yr unigolyn, y sefydliad a sectorau ar y cyd yn gallu ein helpu i droi hyn yn arfer. Dylai’r ymdrech i gyflwyno arloesedd a’i ledaenu ar raddfa fawr gael ei weld yn norm, yn waith pob dydd i bawb, yn hytrach na’i weld yn weithgarwch llawn risg. 

Cyfleoedd mewn sefydliadau 

Gall sefydliadau chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo hyn drwy gynnwys arloesedd ym mhob agwedd ar eu gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn dod yn arfer. Mae adroddiad newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar ‘Sicrhau Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ yn trafod ac yn crynhoi’r cyfoeth o lenyddiaeth, astudiaethau achos ac arferion gorau yn y maes hwn. Mae’n dangos bod cyd-destun y sefydliad yr un mor bwysig â chreu syniadau, a bod sefydliadau, drwy droi arloesi yn arfer, yn gallu ei ledaenu ar raddfa fawr. 

Fodd bynnag, gall nodweddion o’r fath fod yn brin mewn sefydliadau. Mae cwmnïau gwyddorau bywyd a thechnoleg o bob maint yn gallu bod yn amharod i fentro ym maes gofal iechyd oherwydd y canfyddiad nad yw arloesi’n flaenoriaeth ynddo. Mae prosesau fel caffael yn cael eu gweld yn rhai hir a chostus, fel y gallent effeithio ar hyfywedd y prosiect.  

Gellid cynnig cymhellion i hyrwyddo’r broses o wneud arloesi yn rhan annatod o ddiwylliant y sefydliad. Byddai modd neilltuo cyllid at y pwrpas penodol hwn. Gellid neilltuo cyllideb weithredol i roi cynnig ar bethau newydd lle byddai’r arian hwn yn cael ei golli os nad oedd prosiectau arloesi yn cychwyn. 

Mae’n bwysig bod y timau arwain mewn sefydliadau gofal iechyd yn rhoi blaenoriaeth i droi arloesi’n arfer drwy ddull system gyfan. Drwy osod esiampl a darparu cymorth, bydd arweinwyr yn gallu trawsnewid yr ymagwedd mewn adrannau cyfan at hwyluso arloesi. 

Rhwydweithiau 

Nid arweinwyr yw’r unig rai sydd â rhan allweddol i’w chwarae. Mae rhwydweithiau sy’n cynnwys swyddi o bob statws yn gallu chwarae rhan bwysig wrth helpu i droi arloesi’n arfer. Gallant ddarparu amgylchedd cymdeithasol sy’n hwyluso cydweithio – drwy gynnig cefnogaeth i gymheiriaid, cyfnewid gwybodaeth a chadw golwg manwl ar brosiectau, buddiannau a ffyrdd o weithio rhanddeiliaid eraill. Wrth gwrdd yn rheolaidd, byddant hefyd yn ffordd i gymell cymheiriaid i fabwysiadu’r arfer o arloesi. 

Dylai rhwydweithiau gwmpasu adrannau, sefydliadau a hyd yn oed sectorau os yw’n bosibl. Byddaf yn cydweithio’n agos â chwmnïau technoleg sy’n arloesi â dyfeisiau meddygol – maes sy’n dod yn fwyfwy cymhleth oherwydd materion yn ymwneud â diogelu data. Rwyf wedi awgrymu ffurfio rhwydwaith cefnogi cymheiriaid fel ateb i hyn. Mewn rhwydwaith o’r fath, gallai clinigwyr werthuso a pherchnogi data perthnasol er mwyn gwella gwasanaethau. Byddem yn rhannu’r rhain wedyn â darparwyr mewn diwydiant a fyddai’n darparu’r fframwaith ariannol i wireddu hyn. 

Allwch chi ddim chwarae gitâr yn Wembley Stadium ar ôl dim ond awr neu ddwy o ymarfer – mae’n cymryd amser i ddysgu i gyd-dynnu mewn band. Mae’r un peth yn wir am arloesi: nid mater o gael un ‘syniad mawr’ yw hyn, ond gwneud cynnydd fesul cam. Drwy roi mecanweithiau ar waith, gall fod yn haws i ni gadw at yr arfer hwn er mwyn gwella canlyniadau iechyd, gofal a lles yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae Adnodd Sicrhau Arloesi newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnwys dewis cynyddol o adnoddau i helpu arloeswyr i ddechrau cyflawni hyn drwy fecanweithiau o’r fath.