Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Unwaith eto, roedd ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad anhygoel eleni! Fe wnaethon ni fwynhau gwneud cysylltiadau â phartneriaid o’r un anian â ni yn fawr iawn a thrwytho ein hunain mewn ystod amrywiol o drafodaethau ysbrydoledig a chraff ar hyrwyddo canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r blog hwn yn bwrw golwg ar y prif uchafbwyntiau a’r hyn a ddysgwyd o’r digwyddiad gwych. 

Life Sciences Hub Wales staff stood next to their stand at NHS Confed

“Mae gan bob syniad, cysylltiad a chydweithrediad y potensial i arwain at welliant mewn ofal iechyd.” 

Geiriau Amanda Pritchard, Prif Weithredwr y GIG yn Lloegr, a bwysleisiodd pwysigrwydd gwneud pethau’n wahanol a chydweithio. Roedd hyn yn taro tant o ran y gwaith rydyn ni’n ei gyflawni fel cysylltwyr, hwyluswyr ac ysgogwyr. Roedd y sgyrsiau a’r cyfleoedd rhwydweithio a gafwyd yn pwysleisio’n gryf rôl hanfodol cydweithio ac arloesi wrth ysgogi gwelliannau yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.  

Gwnaeth y digwyddiad yn glir bod cydweithredu ac arloesi yn hanfodol i feithrin newid positif, gan roi cipolwg gwerthfawr i ni ar effeithlonrwydd a syniadau ynglŷn â gweithredu arloesedd gwyddorau bywyd ar draws rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol. 

Rhoi cleifion a defnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd gofal cymdeithasol  

Soniwyd am rymuso cleifion a phrofiadau cleifion drwy gydol y rhan fwyaf o’r sesiynau, gan gynnwys Matthew Taylor, Prif Swyddog Gweithredol Conffederasiwn y GIG, a bwysleisiodd yr angen i rymuso pobl ac i gael partneriaeth ddwy ffordd gyda’r cyhoedd. 

Ond beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol? Yn y panel ‘Arloesi a gwerthuso cyflym yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd’, clywyd am bwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth yn y gymuned a darparu ar gyfer anghenion a gwerthoedd pobl. Enghraifft o hyn oedd rhaglen a gafodd ei theilwra'n ddiwylliannol i helpu i reoli diabetes o fewn cymunedau ethnig lleiafrifol. Cafodd y cyfranogwyr eu recriwtio i helpu i gyd-gynllunio’r prosiect gyda gwaith allgymorth cymunedol sylweddol, gan ddefnyddio profiadau bywyd i lywio’r cynllun. 

Mae hefyd yn golygu cadw gofal yn y gymuned. Yn yr un panel, clywyd am lwyddiannau Unedau Asesu a Thriniaeth Cymunedol (CATUs) i bobl hŷn yng nghefn gwlad Cernyw. Maen nhw’n darparu gofal yn nes at y cartref, tra'n annog penderfyniadau cyflym ac i leddfu cyfyngiadau adnoddau ar ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans. 

Arloesedd ddigidol i bawb 

Cafwyd cryn dipyn o bwyslais ar gynhwysiant digidol hefyd. Mae llu o ddatblygiadau digidol arloesol cyffrous yn dod i’r amlwg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Tynnwyd sylw at nifer o’r rhain ar draws y sgyrsiau, gan gynnwys monitro o bell i reoli cleifion methiant y galon yn y cartref a defnyddio wardiau rhithwir ar gyfer gofal. Serch hynny, gall trawsnewid o'r fath waethygu anghydraddoldebau. 

Tynnodd panel Google Health sylw at sut gallwn daclo’r bwlch technoleg ddigidol ac ymddiriedaeth drwy gynlluniau cynhwysol. Yn draddodiadol, mae pobl yn cael mynediad at ofal iechyd drwy sgyrsiau, boed hynny’n sgyrsiau gyda’r meddyg teulu neu arbenigwr ymgynghorol, felly mae ymgorffori hyn wrth greu cynnyrch yn helpu. Mae Ufonia yn un enghraifft o hyn, gan gyfuno AI a thystiolaeth glinigol i awtomeiddio ymgynghoriadau ffôn arferol. 

I’r gwrthwyneb, mae angen llawer mwy ar bobl sy’n well ganddyn nhw ddefnyddio technoleg ddigidol yn eu bywydau bob dydd. Yn hanesyddol, mae gofal iechyd ar ei hôl hi o’i gymharu â sectorau a diwydiannau eraill o ran symud oddi wrth brosesau papur. Mae hyn yn newid, gyda mentrau fel y Gronfa Arloesi Systemau Fferyllol Cymunedol sy’n cyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig yng Nghymru, ond mae angen i ni barhau i fabwysiadu arloesedd ddigidol sy’n adlewyrchu llwybrau gofal iechyd pobl ar hyn o bryd. 

Yn wir, pwysleisiodd sesiwn banel ‘Cyflawni trawsnewidiad y GIG drwy rymuso cleifion’ fod tri chwarter y bobl yn chwilio am wybodaeth ynglŷn â’u hiechyd cyn mynd at feddyg. Mae gwir angen am wybodaeth gredadwy sy’n cael ei chyflwyno mewn ffordd hygyrch i atal camwybodaeth ac i gefnogi siwrnai claf y mae nifer eisoes yn ei chymryd.   

Atal, ymyrraeth gynnar a diagnosis 

Rydyn ni’n sbarduno arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i’r rheng flaen er mwyn stopio pobl rhag mynd yn sâl ac annog diagnosis a thriniaeth gynharach o'r clefyd. Roedd hi’n wych gweld ein bod yn cyd-fynd â phartneriaid eraill sydd hefyd yn blaenoriaethu’r gwaith hanfodol hwn. 

Un o’r uchafbwyntiau oedd sesiwn llawn gwybodaeth ar dreial NHS-Galleri, sy’n archwilio prawf gwaed arloesol sy’n gallu canfod arwyddion cynnar o wahanol fathau o ganser. Y gobaith yw y gallai fod yn rhan o broses sgrinio i ganfod canser cyn i symptomau ddatblygu, gan annog diagnosis a thriniaeth gynharach. Roedd yn galonogol clywed y canlyniadau cychwynnol a sut maen nhw’n  bwriadu datblygu’r treial yn gyflym i werthusiad ar raddfa fwy o 2024 os yn llwyddiannus.  

Gall ymyrraeth gynnar ac atal hefyd helpu i gyfyngu ar glefyd cardiofasgwlaidd drwy fentrau fel y Rhaglen Optimeiddio Pwysedd Gwaed a lansiwyd gan Rwydwaith AHSN. Clywsom sut y mae'n bwriadu trawsnewid atal drwy optimeiddio gofal clinigol a hunan-reoli pobl â phwysedd gwaed uchel. Caiff hyn ei wneud drwy bennu lefel risg, monitro o bell ac ymgynghoriadau rhithwir, addasu llwybrau i anghenion yr ardal leol a defnyddio'r gweithlu gofal iechyd ehangach yn fwy effeithiol.  

Ysgogi integreiddio  

Mae agwedd holistig at iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i wella canlyniadau cleifion ac effeithlonrwydd gwasanaethau. Mae’n rhan sylfaenol o’r hyn a wnawn; gweithredu fel integreiddiwr i greu ac i ddyfnhau cysylltiadau rhwng partneriaid traws-sector. 

Fe wnaeth Richard Meddings, Cadeirydd y GIG yn Lloegr, adleisio pwysigrwydd hyn drwy drafod yr angen i gydlynu gofal rhwng y GIG ac awdurdodau lleol. Mewn sesiwn grŵp ryngweithiol a ganolbwyntiodd ar gydweithio, clywsom hefyd adborth ar lawr gwlad gan gynrychiolwyr a soniodd am sut y dylem fod yn “rhwygo’r seilo” i wella’r gwaith a'i wneud yn fwy cyd-gysylltiedig. 

Fe wnaethon ni fynychu sgwrs wych ar arloesedd mewn gofal cymdeithasol a gyflwynwyd gan Jon Glasby, Cyfarwyddwr IMPACT, a siaradodd am agwedd pedair gwlad sefydliadau o fynd i’r afael â phroblemau ac atebion cyffredin ar draws sector tameidiog. Trafododd sut mae angen i ofal cymdeithasol gael ei ddeall yn well gan gydweithwyr gofal iechyd os ydyn ni eisiau gwir integreiddio. Mae’n gallu cael ei weld fel rhywbeth sy’n agos i’r GIG ac yn canolbwyntio ar ryddhau o’r ysbyty a phobl hŷn. Mae’n rhaid i ni gyd fod yn fwy gwybodus am y tirlun cymdeithasol, gan gynnwys ei weithlu, ei ddiwylliant a’i brosesau caffael. Gall gweithio'n agos gyda sefydliadau fel IMPACT a Gofal Cymdeithasol Cymru helpu gyda hyn.  

Cymru: gwlad ddelfrydol i arloesi a buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol 

Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig i weld presenoldeb Cymreig cryf yn y digwyddiad! Cawsom gyfle i gysylltu â phartneriaethau gwerthfawr o fyrddau iechyd, cyrff hyd braich eraill yng Nghymru a chwmnïau eithriadol o Gymru fel Concentric Health

Fe ges i’r fraint o gadeirio panel ar y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth drwy Gymorth Robot yng Nghymru gerbron cynulleidfa lawn ym Mharth Arloesi AHSN. Fe wnaethon ni archwilio siwrnai’r rhaglen genedlaethol arloesol hon o Gymru sy’n cyflwyno llawfeddygaeth roboteg hynod fanwl i gleifion ar draws y genedl. Os wnaethoch chi golli’r sgwrs ac yn awyddus i glywed mwy, yna darllenwch ein crynodeb am fwy o wybodaeth. 

Dangosodd hyn bwysigrwydd arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae awydd gwirioneddol ymhlith partneriaid ar draws pob sector i wella’r profiad i gleifion, gwneud gwasanaethau’n well ac annog swyddi a thwf economaidd. Rydyn ni’n falch iawn o chwarae rhan yn hyn ac i greu yfory gwell ar gyfer pobl yng Nghymru a thu hwnt.  

Os na chawsoch chi gyfle i gwrdd â ni yn ConfedExpo y GIG ac eisiau dysgu mwy am sut gallwn eich cefnogi i ysgogi arloesedd yn rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, yna cysylltwch â ni drwy  

e-bostio hello@lshubwales.com.