Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Roedd y gyngres Therapïau Datblygedig yn ddigwyddiad rhagorol. Fe wnes i ymgolli mewn trafodaethau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio deinamig, yn ogystal â chynnal fy nghyfarfod bwrdd crwn fy hun.


 

Oliver - roundtable discussion

Gan ymgysylltu ag arbenigwyr o ddiwydiant, y byd academaidd, biotechnoleg, fferylliaeth, a thu hwnt, buom yn edrych ar strategaethau ac yn cynnal trafodaethau ar sut i oresgyn heriau a sbarduno cynnydd ym maes therapïau datblygedig. 

Yn nhirwedd gofal iechyd sy'n esblygu'n barhaus, mae therapïau datblygedig yn cynnig opsiynau triniaeth arloesol ar gyfer nifer o gyflyrau. Fodd bynnag, mae cyflwyno’r triniaethau arloesol hyn yn llwyddiannus yn aml yn cyflwyno set unigryw o heriau, sy’n galw am gydlynu a chydweithio di-dor ar draws gwahanol sectorau. Wrth gynnal trafodaeth bwrdd crwn a oedd yn edrych ar rôl hanfodol gwasanaethau cymorth o ran hwyluso’r gwaith o ddarparu therapïau datblygedig, codwyd nifer o bwyntiau trafod allweddol. 

Ymgysylltu rhwng Fferylliaeth a Chlinigwyr

Roedd un o’r themâu canolog yn ymwneud ag ymgysylltu gwell rhwng cwmnïau fferyllol a’r rheini sy’n ymwneud â darparu clinigol, fel fferyllwyr, logisteg, yn ogystal â nyrsys a meddygon yn y cam dylunio prosesau. Roedden ni’n cydnabod y cyfyngiadau o fewn lleoliadau’r GIG, fel adnoddau, gofod cyfyngedig, a chyfleusterau aseptig, sy’n achosi rhwystrau sylweddol wrth gyflawni prosesau cymhleth. Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn yn gofyn am gydweithio a deialog fwy rhagweithiol i wneud yn siŵr bod dyluniadau therapi yn ymarferol ac wedi’u teilwra i leoliadau clinigol yn y byd go iawn.

“Y prif beth i’w gofio yw cyfathrebu, a’r sgyrsiau cynnar hynny rhwng Diwydiant a’r GIG. Mae angen i’r diwydiant ddeall yn iawn beth yw goblygiadau’r ffordd y mae pethau’n gweithio yn y GIG, a rhoi hynny yn eu prosesau datblygu, a’r effaith y gall ei chael.” – Hannah Crocker rheolwr rhaglen canlyniadau Cynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Datblygedig, Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru 
 

Heriau hyfforddi

Mater pwysig arall a ddaeth i’r amlwg oedd yr her o hyfforddi staff y GIG yng nghanol adnoddau cyfyngedig a chyfyngiadau amser. Gyda llif gwaith a nifer o lwyfannau ar waith, daeth symleiddio prosesau hyfforddi i’r amlwg fel rheidrwydd hanfodol i rymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn effeithiol. 

Integreiddio llwyfannau digidol: 

Roedd pwnc allweddol a drafodwyd am y cwmni TrakCel, sef llwyfan digidol therapi celloedd a genynnau arloesol ar gyfer rheoli cadwyni cyflenwi therapi datblygedig, yn tynnu sylw at bwysigrwydd integreiddio'r systemau hyn i symleiddio prosesau. Drwy ddarparu ateb cynhwysfawr, mae TrakCel yn sicrhau bod gan gleifion fynediad at therapïau achub bywyd mewn ffordd ddiogel ac effeithlon. Mae’r llwyfan yn cynnig trywydd archwilio llawn o’r llwybr triniaeth, gan wella tryloywder ac atebolrwydd pob cam o’r broses.

Roedd yr adborth gan y rhai a oedd yn bresennol yn y trafodaethau bwrdd crwn yn tynnu sylw at y fantais o gael yr holl wybodaeth sylweddol wedi’i chanoli, symleiddio llif gwaith a gwella effeithlonrwydd. Mae nifer y trwyddedau meddalwedd sydd eu hangen yn aml yn cael eu hanwybyddu, ac wrth symud ymlaen mae angen i ni sicrhau bod gan yr holl staff dan sylw eu trwydded meddalwedd eu hunain. Mae TrakCel yn pontio'r bwlch rhwng cleifion, darparwyr gofal iechyd, a'r rhwydwaith o randdeiliaid sy'n rhan o daith y triniaethau arloesol hyn ac mae'n ased hanfodol wrth ddatblygu'r maes darparu therapi datblygedig.

“Mae’r trafodaethau heddiw wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rydyn ni wedi cael trafodaethau ynghylch sicrhau un porth ar gyfer treialon clinigol, a fyddai’n newid pethau os gellir cyflawni hyn ar gyfradd y gellir ei hehangu. Mae’n wych ei fod yn helpu i gyflymu prosesau, yn enwedig gyda’r cyfyngiadau o ran hyfforddiant, a pha mor gyflym mae’r llwyfan yn hyfforddi.” – Bahareh Armiloo, Fferyllydd Arweiniol Therapïau Datblygedig yn Ymddiriedolaeth Sefydledig Manceinion. 

Deialog agored ar fethiant

Cododd cwestiynau allweddol am yr angen i drafod methiant yn fwy agored. Meithrin diwylliant o ddeialog agored ynghylch dewis safleoedd treialon gan bwysleisio pwysigrwydd trafod methiannau ochr yn ochr â llwyddiannau. Dylai trafodaethau ynghylch methiant ddigwydd yn y GIG, gyda diwydiant a chyda rhaglenni sy’n benodol i ardaloedd fel Therapïau Datblygedig Cymru. Drwy fynd i’r afael yn agored â’r rhesymau pam nad yw rhai safleoedd yn addas ar gyfer treialon, gallwn nodi meysydd lle mae angen buddsoddi a gwella, gan wneud y gorau o’r broses gyflawni. 

Heriau a rhwystrau i’r defnydd

Daeth deall y broses weithgynhyrchu a’i chysoni â mewnbwn clinigol i’r amlwg fel ystyriaethau hanfodol. Roedd heriau fel prinder staff, a chyfyngiadau seilwaith mewn lleoliadau GIG yn tanlinellu’r angen am atebion arloesol i lenwi’r bylchau hyn. 


Nodwyd nifer o rwystrau i’r defnydd, gan gynnwys yr angen am fwy o ddigwyddiadau hyrwyddo a fforymau cydweithredol. Roedd yn amlwg bod meithrin diwylliant o gydweithio a rhannu gwybodaeth yn gam mawr tuag at oresgyn rhai o’r rhwystrau a sbarduno cynnydd yn y maes hwn.

Cydweithio a chyfathrebu

Mae cyfathrebu effeithiol rhwng rhanddeiliaid yn y diwydiant a darparwyr gofal iechyd yn hanfodol ar gyfer rhoi therapïau ar waith yn ymarferol ac yn llwyddiannus mewn lleoliadau yn y byd go iawn. Mae llywio drwy gymhlethdodau darparu therapi datblygedig yn gofyn am ddull pragmatig sy’n seiliedig ar gydweithio ac arloesi, a thrwy feithrin y partneriaethau cydweithredol hyn, gallwn ar y cyd sbarduno datblygiadau mewn darparu gofal iechyd.

I gloi, roedd y drafodaeth bwrdd crwn yn ein hatgoffa o’r heriau a’r cyfleoedd amlochrog sy’n hanfodol wrth ddarparu therapïau datblygedig. Drwy ymdrechion cydweithredol, ymroddiad ac ymrwymiad i arloesedd, gallwn adeiladu oes newydd o ddarparu gofal iechyd trawsnewidiol. 

Os ydych chi’n sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol sy’n awyddus i sbarduno arloesedd yn y rheng flaen, rydyn ni yma i helpu. Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni gydweithio a chael effaith sylweddol gyda’n gilydd. Cysylltwch â ni yma.