Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cefais ddiwrnodau wrth fy modd yn ConfedExpo y GIG 2024 ym Manceinion! Roedd y digwyddiad yn gynulliad egnïol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisïau ac arloeswyr, a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau’r presennol ac yn rhagweld dyfodol mwy disglair i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

CMR Surgical and Life Sciences Hub Wales team standing on stand at NHS Confed Expo event.

Amlygodd yr Expo faterion sylweddol fel arweinyddiaeth a chydweithio, integreiddio technoleg, gofal canser, ac anghydraddoldebau iechyd, drwy rychwant amrywiol o sesiynau, areithiau a thrafodaethau. Mae’r blog hwn yn rhoi manylion uchafbwyntiau allweddol a’r pethau a ddysgais yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn.

Arloesi mewn gofal canser: datblygiadau arloesol a thriniaethau wedi eu personoli

Ym maes arloesi mewn gofal iechyd, yn benodol mewn gofal canser, dangosodd yr Expo gamau breision tuag at feddygaeth wedi ei phersonoli a diagnosteg lefel uwch. Un o'r datblygiadau arloesol, a drafodwyd gan Richard Meddings (Cadeirydd NHS England), oedd integreiddio genomeg i strategaethau trin canser. Mae Genomics England, mewn cydweithrediad â'r GIG, wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cynnal 800,000 o brofion genomeg gyda'r nod o ganfod hyd at 200 o wahanol fathau o ganser. Mae'r fenter hon yn nodi symudiad allweddol tuag at gynlluniau triniaeth sydd wedi eu targedu ac sy’n fwy effeithiol, wedi eu teilwra i broffiliau genetig unigol.

Daeth technoleg deallusrwydd artiffisial i’r amlwg hefyd mewn trafodaethau allweddol, gydag algorithmau sy’n cael eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn radioleg i ddadansoddi data delweddu cymhleth yn gyflym ac yn gywir. Mae enghreifftiau o’r gallu hwn nid yn unig yn cyflymu diagnosis, ond hefyd yn gwella manylder cynllunio triniaethau, gan arwain yn y pen draw at well prognosis i gleifion. Mae rôl deallusrwydd artiffisial yn dechrau ymestyn y tu hwnt i ddiagnosteg i dasgau gweinyddol mewn lleoliadau gofal iechyd, gan symleiddio gweithrediadau a gwneud y gorau o ddyrannu adnoddau.

Datblygiad nodedig arall a drafodwyd oedd datblygu brechiadau pwrpasol yn Lloegr, ar gyfer cleifion canser. Dangosodd treialon cynnar a gwaith ymchwil ganlyniadau addawol, gan awgrymu dyfodol lle gallai triniaethau canser ddod yn fwy personol ac effeithiol nag erioed o'r blaen.

Drwy ddatblygiadau mewn data iechyd y boblogaeth, biofeddygaeth a biodechnoleg, rydyn ni’n dechrau gweld triniaethau yn cael eu targedu fwyfwy, yn enwedig ar gyfer canser, gyda’r cyhoeddiadau diweddar am dreialon ar gyfer brechlynnau canser personol. Mae hyn yn gyffrous, ond dim ond dechrau’r chwyldro genomig sydd ar y gweill yw hyn.Prif Weithredwr, ConfedExpo y GIG.

Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â phwrpas

Tynnodd yr Expo sylw at rôl allweddol cydweithio a phartneriaethau wrth sbarduno arloesi ym maes gofal iechyd. Gwelsom enghraifft wych o hyn yn y ddarlith dan gadeiryddiaeth Lucy George (Pennaeth Oncoleg Arloesi Busnes, AstraZeneca), ar yr ymdrechion cydweithredol rhwng y GIG a’r cwmni fferyllol AstraZeneca. Mae’r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar drawsnewid llwybrau gofal canser, drwy fentrau ar y cyd ac atebion arloesol. Mae AstraZeneca wedi bod yn ymwneud â datblygu offer sy’n cael eu gyrru gan ddeallusrwydd artiffisial i wella radioleg a diagnosteg canser, gan chwyldroi’r ffordd mae canserau’n cael eu canfod a’u trin.

Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda’r ymateb gan gydweithwyr ar draws y system wrth i ni gloddio’n ddyfnach i mewn i’n hagenda i fynd i’r afael â chanser. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod gwella canlyniadau canser yn flaenoriaeth allweddol i Gymru. Roedd yn wych gwneud cysylltiadau – rhai hen a newydd - yn yr Expo, gyda sgyrsiau ysbrydoledig ynghylch datblygu arloesi ym maes canser yng Nghymru, a’r hyn y gellir ei gyflawni drwy bartneriaethau masnachol strategol.

Ar ben hynny, mae integreiddio o fewn yr ecosystem gofal iechyd ehangach wedi bod yn allweddol o ran datblygu atebion iechyd digidol. Pwysleisiodd Amanda Pritchard a Matthew Taylor hyn mewn prif sesiynau. Mae Ap NHS England, sydd â thros 34 miliwn o ddefnyddwyr, yn dangos sut gall offer digidol rymuso cleifion drwy roi mynediad at gofnodion iechyd, rheoli apwyntiadau a gwasanaethau presgripsiwn. Mae’r integreiddio hwn nid yn unig yn darparu profiadau cleifion, ond mae hefyd yn gwella effeithlonrwydd gweithredol o ran darparu gofal iechyd. Amlygodd y prif sesiynau hyn fod cydweithio’n ymestyn y tu hwnt i bartneriaethau diwydiant i gyd-fynd ag integreiddio’r llywodraeth a pholisi, a bod gan arweinwyr y GIG y sgiliau a’r ymrwymiad i drawsnewid gofal iechyd dros y degawd nesaf.

Ailgyfeirio tuag at atal yw’r unig ffordd o osgoi’r argyfwng iechyd a thlodi cynyddol. Ond y newyddion da yw hyn... Mae cyfleoedd yma, yn ogystal ag anghenion. Mae’r cyfuniad o fwy o gydweithio, polisi newydd, data, biodechnoleg ddigidol, a newid disgwyliadau’r cyhoedd, yn cynnig cyfle enfawr i ni wneud pethau’n wahanol ac yn well.Matthew Taylor Prif Weithredwr, ConfedExpo y GIG.

Dyfodol gofal iechyd: cofleidio trawsnewid digidol a gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion

Wrth edrych i’r dyfodol, cafodd dyfodol gofal iechyd ei amlygu mewn sawl sesiwn, wedi ei sbarduno gan arloesi digidol, ac ymrwymiad cadarn i ofal sy’n canolbwyntio ar y claf.

Pwysleisiodd Amanda Pritchard, Prif Weithredwr y GIG, fod technoleg a deallusrwydd artiffisial yn ei gwneud yn haws nag erioed i arloesi. Mae gennym gyfle unigryw i chwyldroi ein cymorth i gleifion, a dyma’r amser i feddwl ar raddfa eang ac yn radical.

Gydag ap ym mhoced 34 miliwn o bobl, rydym yn rhoi mwy o wybodaeth a dewisiadau ar flaenau eu bysedd. Mae pobl eisoes wedi edrych ar neu newid 7.7 miliwn o apwyntiadau gofal eilaidd ar-lein. O ymgynghoriadau ar-lein i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn gofal strôc hyper-aciwt, rydym yn adeiladu'r sylfeini ar gyfer gofal gwell drwy gofleidio'r chwyldro data a deallusrwydd artiffisial yn llawn. – Amanda Pritchard, Prif Weithredwr, GIG

Ar ben hynny, roedd y sesiwn “grymuso cleifion drwy flaenoriaeth i faterion digidol” yn arddangos arloesi digidol trawsnewidiol mewn gofal canser, gan bwysleisio ymgysylltu gwell â chleifion a llwybrau symlach o sgrinio i driniaeth. Mae’r prif gynlluniau’n cynnwys:

  • Rhaglen archwilio iechyd yr ysgyfaint wedi ei thargedu – gyda’r nod o ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar mewn poblogaethau risg uchel. Fe’i cyflwynir mewn lleoliadau cymunedol, ac mae’r rhaglen yn defnyddio strategaethau aml-sianel i hybu cyfranogiad.
  • Mae llwyfan digidol iPlato ar gyfer sgrinio serfigol yn personoli cyfathrebu cleifion digidol â meddygon teulu, gan awtomeiddio ymgysylltu, a lleihau anghydraddoldebau, a chynyddu’n sylweddol nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio gymaint â 109% (Dwyrain Lloegr) o’i gymharu ag ymgysylltu drwy lythyr yn unig.
  • Therapïau Gwrth-Ganser Systematig (SACT) sy’n canolbwyntio ar atebion gofal rhithwir fel Huma. Mae llwyfan Huma, a ddyluniwyd ar y cyd â'r GIG, yn gwella capasiti clinigol ac ymlyniad cleifion drwy alluogi monitro o bell a gofal rhithwir, lleihau teithio diangen, a gwella canlyniadau triniaethau.

Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod ConfedExpo y GIG 2024 wedi rhoi cipolwg cryf ar ddyfodol gofal iechyd, wedi ei ategu gan ddatblygiadau arloesol, cydweithio strategol, a gweithgaredd parhaus mewn gofal sy’n canolbwyntio ar gleifion. Wrth i ofal iechyd barhau i esblygu, mae’r datblygiadau hyn yn cynnig posibiliadau newydd ar gyfer gwella canlyniadau iechyd, a thrawsnewid bywydau ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Fel y soniodd Amanda Pritchard, daethom o’r digwyddiad hwn yn llawn ysbrydoliaeth a gobaith. Drwy wrando ar eraill, cysylltu a chydweithio ar syniadau ymarferol, a chreu sgyrsiau, rydyn ni’n cael yr egni i barhau i sbarduno arloesi ar y rheng flaen.

Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at fynd i Gynhadledd Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru ar 6 Tachwedd 2024. Bydd yn ddiwrnod llawn sesiynau ysbrydoledig, cyfleoedd i rannu gwersi a ddysgwyd ac annog arloesi, ynghyd â chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.

Os na wnaethoch chi gwrdd â ni yn ConfedExpo y GIG ac yr hoffech chi ddysgu mwy am sut gallwn ni eich cefnogi chi i sbarduno arloesi ar reng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, anfonwch e-bost at helo@hwbgbcymru.com.