Dros yr wythnosau diwethaf, mae diwydiannau wedi bod yn cydweithio i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn ffyrdd na ellid bod wedi dychmygu prin fisoedd yn ôl. Roedd hi’n arfer cymryd wythnosau neu fisoedd i ddod o hyd i atebion, ond bellach mae datrysiadau’n dod i’r fei mewn diwrnodau neu hyd yn oed oriau – mae gweld cymaint o ymrwymiad a phenderfyniad i fynd i’r afael â her COVID-19 yn ysbrydoliaeth.

Digital connectiveness

25 Mawrth 2020, cynhaliodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gynhadledd fideo gyda’r diwydiant a oedd yn cynnwys dros 200 o bobl o 150 o sefydliadau yn cynnig syniadau ar sut y gallen nhw gefnogi’r GIG ar yr adeg bwysig hon. Yn eu plith roedd enwau cyfarwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae camau ar y gweill mewn sawl maes gwaith allweddol o ganlyniad i’r cyfarfod

Cofiwch nad yw’n rhy hwyr os nad oeddech chi’n gallu ymuno yn y gynhadledd fideo

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cael ei benodi gan Lywodraeth Cymru fel y prif bwynt cyswllt rhwng y diwydiant a GIG Cymru. Rydym yn gweithio â chydweithwyr ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac yn cynnal diwydrwydd dyladwy ar bob cynnig cyn eu cyflwyno i adran gaffael GIG Cymru.

Allech chi helpu?

Rydym wedi nodi pedwar maes lle byddem yn dymuno cael cymorth gan y diwydiant:

  • Dyfeisiau meddygol
  • Rheoli haint
  • Atebion digidol
  • Arwahanrwydd cymdeithasol

Os ydych chi'n fusnes sy'n gallu helpu i gefnogi GIG Cymru trwy'r pandemig COVID-19 a bod gennych gynnig o gefnogaeth i'w gyflwyno, gwnewch hynny trwy ymweld â'n tudalen Galwad Diwydiant COVID-19.



Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl a busnesau fyddai’n gallu eich helpu i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru yn ystod y cyfnod o angen hwn.