Mae rhoi eich syniad arloesol ar waith a mynd ag ef i’r farchnad yn anodd. Yn y farchnad gofal iechyd mae tirwedd gymhleth sy’n cael ei rheoleiddio’n drylwyr. Oherwydd diffyg adnoddau, gall syniad a allai fod o fudd i ofal iechyd dreulio blynyddoedd yn cael ei ddatblygu a’i dreialu. Mewn rhai achosion, efallai na fydd y syniad byth yn cyrraedd y farchnad. Mae Cyflymu’n newid hynny.

Accelerate logo with a runner on a machine

Mae Cyflymu yn rhoi ffordd i fusnesau Cymru gael gafael ar arbenigedd a chyfleusterau i ddatblygu syniadau gofal iechyd arloesol. Trwy Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gall cwmnïau adeiladu timau sydd wedi’u teilwra i gyflymu’r broses arloesi ac er mwyn mynd i’r farchnad yn gynt. Rydyn ni’n edrych ar brofiadau rhai cwmnïau sy’n gweld eu syniadau arloesol yn dod yn fyw, cwmnïau sy’n tyfu eu busnesau, a chwmnïau sy’n helpu i wella canlyniadau cleifion.

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o raglen Cyflymu yn barod. Gofynnodd Health and Her Limited am gymorth gan Cyflymu i ddatblygu cyngor ar-lein am y menopos a chynnyrch pwrpasol yn y dyfodol. Mae Watson IBM a Meridian IT UK wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre i greu cymorth oncoleg o bell o’r enw RiTTA (Technoleg Gwybodaeth go iawn tuag at Weithredu) ar gyfer cleifion canser. Mae Cyflymu’n helpu i ddatblygu Deallusrwydd Artiffisial RiTTA gyda setiau hyfforddi perthnasol. Mae Innoture Limited wedi dechrau gweithio gyda Cyflymu i ddatblygu a phrofi prototeipiau o ddyfeisiau taenu ar gyfer ei gynnyrch micronodwydd. Mae Sugars for Health Limited wedi manteisio ar arbenigedd ymchwil gan ddefnyddio Cyflymu i astudio siwgr-imino sy’n gallu ail ddechrau’r system imiwnedd i frwydro yn erbyn canser. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu cynnyrch sy’n gallu cefnogi dulliau confensiynol o gemotherapi.

Y ffocws masnachol

Mae Cellesce Limited wedi bod yn gweithio gyda Cyflymu i ddatblygu system i brofi cyffuriau y gellir eu defnyddio i drin canser y colon a'r rhefr. Mae’r prosiect wedi bod yn datblygu meinwe, fersiynau symlach o organau, y gellir ei ddefnyddio i brofi’r cyffuriau arno. Mae’r meinwe hwn yn dynwared tiwmor go iawn a gellir ei gynhyrchu’n gyson. Nawr, gellir asesu effeithiolrwydd cyffuriau gwahanol yn gywir gyda phrawf safonol gan ddefnyddio’r meinwe hwn. Rhoddodd Cyflymu fynediad i Cellesce at arbenigedd a chyfleusterau ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Dr. Mark Treherne, sef Prif Weithredwr Cellesce, wedi’i blesio gan ffocws masnachol y rhaglen. “Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn dda â nodau Cyflymu drwy gyfuno arbenigedd academaidd gydag ymchwil fasnachol arloesol ac arloesedd mewn menter gyffredin. Nid yn unig ydyn ni’n disgwyl gwella canlyniadau cleifion, rydyn ni hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod gan organoid safle amlwg mewn canfod cyffuriau ar gyfer canser,” meddai.

Mae’r prosiect ar y cyd wedi bod o fudd i’r ddau sefydliad. Dywedodd yr Athro Julian Sampson, Prifysgol Caerdydd “Mae cymorth Cyflymu a Cellesce yn galluogi Grŵp Ymchwil Syndromau Tiwmor Wedi’u Hetifeddu Prifysgol Caerdydd i adeiladu ar enw da ei ymchwil canfyddiadau genetig a throsi’r canfyddiadau yn dreialon cyn y cam clinigol, a threialon clinigol o driniaethau newydd. Mae hyn yn gyfle gwych i wella gofal cleifion sydd â syndromau tiwmor wedi’u hetifeddu, ac i ddatblygu arloesedd mewn meddyginiaeth fanwl ymhellach yng Nghymru.” meddai’r Athro Hulian Sampson o Brifysgol Caerdydd.

Gwell adnoddau

Mae Cyflymu wedi bod yn cefnogi prosiectau mewn gofal eilaidd hefyd. Ym mis Rhagfyr 2019, roedd dros 115,000 o gleifion yn aros am brawf llygaid yn yr ysbyty ac roedd ganddynt risg o golli golwg yn ddi-droi’n-ôl os byddai eu hapwyntiad yn cael ei ohirio. “Mae’r 354 o optometryddion sydd ar y stryd fawr ledled Cymru yn anfon cleifion i’r ysbyty pan maent yn canfod arwyddion o glefydau bygythiol. Fodd bynnag, mae optometryddion wedi’u hyfforddi’n broffesiynol i allu rhoi diagnosis o’r cyflyrau hyn, eu rheoli a’u trin eu hunain,” dywedodd Sali Davis, Prif Weithredwr Optometreg Cymru.

Optometreg Cymru yw’r sefydliad ambarél proffesiynol ar gyfer yr holl optometryddion cymunedol, y practisau optometreg ac ar gyfer dosbarthu optegwyr ledled Cymru. “Mae Optometryddion ledled Cymru’n gallu rhoi mwy na phrofion llygaid a sbectol i’r cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf ar agor 7 niwrnod yr wythnos ac wedi’u lleoli ar y stryd fawr, felly mae’n hawdd ac yn gyfleus eu cyrraedd. Er eu bod wedi’u hyfforddi’n dda, mae eu telerau gwasanaeth wedi’u cyfyngu, felly ni allant ond atgyfeirio cleifion i ysbytai dan eu telerau gwasanaeth nhw. Dim ond gwasanaethau estynedig cenedlaethol fel Gwasanaeth Gofal Llygaid Cymru, sy’n caniatáu i optometryddion gynnig profion llygaid estynedig i gleifion sydd â’r risg o gyflyrau sy’n peryglu eu golwg neu ar gyfer gofal llygaid acíwt. Rydyn ni eisiau newid hyn, ond mae angen treial peilot cadarn â chryn dystiolaeth arnom ni. Gall hyn ddangos ein bod yn gallu cefnogi cleifion yn gyflym, lleihau’r baich ar yr ysbytai, lleihau amseroedd aros cleifion a chyflawni gwasanaeth sy’n fwy cost-effeithiol,” meddai Sali.

“Nid oedd gennym yr adnoddau i gynnal treial cadarn o’r fath ar ein pen ein hunain. Yna, daethom ar draws Cyflymu trwy ein Rheolwr Hyfforddi ac Achredu yng Nghanolfan Addysg Optometrig Ôl-raddedig Cymru, a gysylltodd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn y dechrau.  Roedden ni’n hynod falch eu bod yn deall y syniad ac yn frwdfrydig i sefydlu’r prosiect. Gwnaethant ein helpu ni i adeiladu tîm o arbenigwyr gyda’r sgiliau nad oedd gennym ni, fel economegwyr, timau ymchwil a hyd yn oed arbenigwyr cyfathrebu i ymgysylltu ag optometryddion.

Arbed swyddi

Arweiniodd cyfarfodydd cyntaf y prosiect ym mis Hydref at lansio cyfarfod ar gyfer y treial ym mis Chwefror, gyda chyfleoedd i optometryddion gwrdd â thîm y prosiect a holi cwestiynau. “Roedd yn bwysig bod yr optometryddion yn cymryd rhan a’n bod ni’n dweud wrthyn nhw sut roedden ni’n bwriadu cynnal y treial. Gwnaethom egluro y byddai’r treial yn seiliedig ar dystiolaeth ac y byddai’n gallu adeiladu hyder ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth newydd arfaethedig. Wrth i’r treial 12 mis ddechrau, roeddwn yn hapus iawn gyda natur gydweithredol y prosiect. Roedd yn braf gweld y tîm yn cymryd rhan. Fe wnaethom gynhyrchu syniadau ar y cyd ac roedd pob rhanddeiliad yn ymgymryd ag elfennau penodol o’r gwaith. Mae galwadau cynadledda rheolaidd i drafod ac asesu’r cynnydd wedi cadw’r treial ar y llwybr cywir,” meddai Sali.

Fel rhan o’r treial, mae 9,000 o gleifion yn derbyn profion gan optometryddion medrus mewn practisau cymunedol gan ddefnyddio technoleg ddelweddu o’r radd flaenaf, meddalwedd pwrpasol a chofnodion electroneg am gleifion. Gallai practisau ar y stryd fawr anfon data digidol at offthalmolegwyr gofal acíwt er mwyn cael diagnosis. “Ni fyddem wedi gallu gwneud hyn yn effeithiol heb gymorth Cyflymu. Rydyn ni angen dadansoddiad diduedd a chadarn o effeithiolrwydd y treial peilot. Gallai hyn arwain at y bwrdd iechyd yn caniatáu i’r holl bractisau ar y stryd fawr yn ardal Caerdydd a’r Fro gynnig y gwasanaeth hwn a fydd yn achub golwg. Mae hyn yn newyddion da i gleifion ond bydd hefyd yn gwella ffyniant economaidd yng Nghymru. Yn y pen draw, bydd y prosiect hwn yn diogelu bywoliaeth y 142 o optometryddion annibynnol sydd ar y stryd fawr. Nid yw busnesau sy’n dibynnu’n llwyr ar brofion llygaid a gwerthu sbectol yn gynaliadwy. Byddai’r gwasanaeth newydd hwn yn dod ag incwm sylweddol i bractisau sy’n gallu defnyddio sgiliau a hyfforddiant eu proffesiwn,” meddai Sali.

Cysylltu â ni

Mae rhaglen Cyflymu yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru. Mae’n helpu statws Cymru fel canolfan ragoriaeth ar gyfer arloesedd ym maes gofal iechyd, a’r lle i fusnesau fod. Os oes gennych syniad gofal iechyd arloesol, yna dewch i siarad â’r Tîm Cyflymu. Maent yn awyddus i helpu eich busnes yng Nghymru i ffynnu yn y farchnad technolegau iechyd.

Gallwch gysylltu â’r tîm Cyflymu yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar 029 2046 7030 (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg) neu anfon e-bost at accelerate@lshubwales.com i drafod eich syniad gofal iechyd arloesol diweddaraf.