Helen Northmore, Rheolwr Darparu Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru

 

Machine Learning

Mae gwella iechyd a llesiant cleifion yn un o’r prif gymhelliant i bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd. Heddiw, mae pwysau enfawr ar y system iechyd yng Nghymru ac mae defnyddio technoleg ddigidol yn cynnig y posibilrwydd o drawsnewid y ffordd rydyn ni’n darparu gofal i gleifion yn ogystal â beth yw ystyr gofal cleifion. Mae rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn helpu’r sector gofal iechyd i ddefnyddio dysgu peirianyddol, sef un o’r mathau o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) sy’n cynnig y posibilrwydd o ryddhau staff rheng flaen ym maes gofal iechyd yng Nghymru.  Mae dysgu peirianyddol yn gwella effeithlonrwydd, canlyniadau cleifion, amgylchedd gwaith a bodlonrwydd yn y gwaith, ond yn bwysicach efallai mae hefyd yn creu chwyldro yn y ffordd rydyn ni'n cyfathrebu, yn hysbysu, yn ymgysylltu ac yn ysgogi.

Beth yw Dysgu Peirianyddol?

Nid proses ddirgel yw deallusrwydd artiffisial. Yn hytrach, ffordd o raglennu peiriannau fel nad ydynt yn ailadrodd yr un weithred eto ond yn ymaddasu’n ddeallus. Mae algorithmau dysgu peirianyddol yn gallu dysgu o brofiadau blaenorol a data newydd, gan wella'n awtomatig. Mae Deallusrwydd Artiffisial yn seiliedig ar gyfres o reolau syml sy'n cael eu defnyddio’n sylfaenol gan organebau byw, megis adnabod lliwiau a dod i gasgliadau ohonynt. Manteision dysgu peirianyddol yw'r cyflymder mae’n gallu dadansoddi cronfeydd mawr o ddata ac yna’n dysgu ac yn dadansoddi'r set data mawr hwnnw ymhellach. Mae dysgu peirianyddol yn galluogi tasgau anodd a sbardunir gan ddata i gael eu cwblhau’n gyflymach a gyda llai o ymdrech.

Mae Phillip Wardle, Cyfarwyddwr Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru (NIAW) a Radiolegydd Ymgynghorol, yn dangos y manteision sy'n dod i radioleg o ganlyniad i ddysgu peirianyddol. Cafodd Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru ei sefydlu yn 2018 fel cyfleuster pwrpasol ar gyfer delweddu diagnostig, i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o Radiolegwyr a phobl broffesiynol yn y maes delweddu. “Mae ein tîm o hyfforddeion wedi paru deallusrwydd artiffisial gydag arbenigedd ar ddelweddu i geisio gwneud llawer o arbedion effeithlonrwydd ym maes gofal i gleifion” meddai.

“Mae gennym ddau brosiect cyffrous ar weinydd Intel yn yr Academi, a allai ddarparu datblygiadau mewn radioleg i wella canlyniadau cleifion trwy gyfrwng techneg ddelweddu gyflymach a mwy cywir. Mae grŵp ASPIRE (sef cywaith rhwng Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Phrifysgol Caerdydd) yn paru radioleg soffistigedig gyda dysgu peirianyddol drwy ddefnyddio rhwydwaith niwral troellog i gynllunio radiotherapi wedi’i deilwra ar gyfer claf.  Mae LineSafe yn brosiect yn yr Academi i wneud triniaethau meddygol arferol yn fwy diogel,” meddai Phillip.

LineSafe - Cadarnhau safle cywir tiwb nasogastrig                           

Mae tiwbiau Nasogastrig yn cael eu gosod ar gyfer bwydo, gweini cyffuriau neu ddraenio cynnwys y stumog. Rhaid sicrhau bod y tiwb nasogastrig wedi’i leoli’n iawn cyn ei ddefnyddio, yn enwedig cyn bwydo. Cyhoeddodd yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion bod 11 o bobl wedi marw rhwng 2003 a 2005 oherwydd bod tiwbiau wedi’u lleoli’n anghywir.

“Mae LineSafe yn system awtomataidd ar gyfer canfod bod y tiwb Nasogastrig wedi’i leoli'n gywir ac yn ddiogel yn y corff. Mae algorithmau dysgu dwfn yn galluogi dadansoddiad radiograffig, drwy ddysgu'r anatomi a safle cywir y tiwb mewn perthynas â hynny.  Bydd yr amser sy’n cael ei dreulio ar wirio bod y tiwb yn y safle cywir yn cael ei leihau’n sylweddol. Gellir leihau llawer ar gamgymeriadau posibl sy’n cael eu gwneud yn sgil methu dehongli pelydr X neu ddryswch oherwydd amrywiadau o ran anatomeg,” eglura Phillip.

Gofal canser sy’n cynnig cysur

Mae Dr Phil Webb, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio, Perfformiad ac Arloesi yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn defnyddio dysgu peirianyddol i wella gofal personol sy'n canolbwyntio ar y claf drwy RiTTa (Realtime information Technlogy Towards Activation) “Mae’n bwysig canolbwyntio a’i ddylunio ar sail cleifion – mae’r rhaglen hon o ddysgu peirianyddol yn defnyddio NPL (prosesu iaith naturiol). Mae’n ymwneud â defnyddio technoleg i ysgogi ac ymgysylltu â phobl, i’w cefnogi i fyw bywydau, gwella ei dealltwriaeth o’u cyflwr a’u helpu i dreulio llawer llai o amser yn rhedeg o gwmpas y gwasanaeth iechyd yn chwilio am atebion i’w cwestiynau,” meddai Phil.

Mae’r Rita go iawn, sy’n sail i’r system hon, yn cefnogi cleifion drwy ateb cannoedd o gwestiynau gan gleifion bob dydd. Er ei bod hi’n ymroddedig, nid yw hi ar gael am 365 diwrnod y flwyddyn, nac am 24 awr bob dydd o’r wythnos. Fodd bynnag, mae cleifion sy’n byw â chanser yn aml yn meddwl am gwestiynau pwysig y tu allan i’r oriau gwaith swyddfa arferol.

“RiTTa yw’r cynorthwyydd rhithiol cyntaf yn y byd sydd wedi cael ei hyfforddi mewn oncoleg. Mae hi’n gallu rhoi atebion i lu o gwestiynau cyffredin mewn amser real ac ar unrhyw adeg o’r dydd. Yn bwysicach, mae’r rhain yn sgyrsiau gydag atebion sydd wedi’u teilwra, nid dim ond cyfeiriadur gwybodaeth. Os yw’r cwestiynau’n mynd yn fanwl iawn mae RiTTa yn trosglwyddo’r awenau i Rita. Ond mae’r system hon yn gam cyntaf pwysig, llawn cysur pan fo angen atebion cyflym,” meddai Phil.

Mae Debbie Murphey, sy’n derbyn triniaeth ar gyfer canser, wedi helpu i ddod â safbwynt y claf i ddatblygiad RiTTa, ac mae hi’n sôn am brif fantais y system. Mae cwmnïaeth gefnogol yn hynod o bwysig: “Teimlo fel pe bawn i’n cael sgwrs â rhywun pan oeddwn i wir angen hynny. Cysylltu â rhywun. Teimlo’n llai ofnus a llai unig, a theimlo’n llai bregus,” meddai. “Mae’r sgyrsiau â RiTTa yn gallu grymuso cleifion. Mae’n eu galluogi i ymgysylltu’n well â’u diagnosis a’u triniaeth ac yn y pen draw yn gallu rhoi profiad mwy cadarnhaol i gleifion o fyw gyda diagnosis o ganser.”

Mae dysgu peirianyddol sy’n gysylltiedig â RiTTa yn rhoi’r ateb i gwestiynau “Beth os” gan helpu i gleifion deimlo’n llai unig. “Trwy ein partneriaeth a’n defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial, gallwn ni, ynghyd â’n cleifion a’n staff, greu rhywbeth gwahanol, a deall anghenion ein cleifion a'n staff yn well. Bydd hyn yn caniatáu i ni ail-ddehongli ac ail-lunio gofal iechyd a phrofiadau o safon i gleifion,” meddai Phil.

Gwella swyddi yng ngofal iechyd

Mae arloesi digidol ar draws gofal iechyd yn dynodi newidiadau mawr yn ein dull o gyflawni anghenion cleifion yn well.  Mae’r holl hanes system ddatblygu RiTTa yn dangos hyn, ac fe’i gwelir yn y fideo isod. Ni fydd dysgu peirianyddol yn cael gwared â swyddi, fel mae rhai erthyglau papur newydd yn ei honni. Yn hytrach, bydd yn gwella bywyd gwaith pobl ym maes gofal iechyd gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar y tasgau pwysig maent wedi cael eu hyfforddi i’w gwneud, gan roi mwy o amser iddynt roi eu sgiliau, eu profiad a’u brwdfrydedd ar waith wrth ofalu am gleifion.

Partneriaethau Digidol

Mae partneriaeth yn sail i hyn oll. Cafodd RiTTA ei chreu yn sgil partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre, Pfizer ac IBM Watson. Roedd LineSafe ac Aspire yn gydweithrediad rhwng Radiolegwyr, Llywodraeth Cymru ac Intel.

Rhaid cael fframweithiau (eu prif strwythurau data), hyfforddi systemau a dilysu model fel bod Deallusrwydd Artiffisial yn effeithiol. Mae cydweithio a rhannu arferion gorau ar draws disgyblaethau amrywiol o ddatblygwyr i glinigwyr yn bwysig er mwyn llwyddo ym maes arloesi digidol. Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru'n rhaglen o gydweithio rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n chwarae rhan bwysig yn helpu i ddod â rhanddeiliaid ar draws y gymuned iechyd digidol at ei gilydd er mwyn chwalu rhwystrau, arddangos yr arfer gorau a threialu systemau a dulliau newydd o weithredu a allai gael effaith fawr ar ddarparu gofal iechyd effeithlon sy’n canolbwyntio ar y claf ledled Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.digitalhealth.wales