Pan ofynnwyd iddynt beth yr oeddent ei eisiau fwyaf, dywedodd mwyafrif y cleifion mewn ysbytai ledled Cymru eu bod am fynd adref cyn gynted â phosibl. Mae'r GIG yn awyddus i gyflawni’r awydd hwn.

Arrows pointing upwards

Mae Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cari-Anne Quinn, wedi bod yn edrych ar sut mae diwydiant a byrddau iechyd yn gweithio gyda’i gilydd i wireddu’r awydd hwn. Yn ein cyfres podlediad ‘Healthy Thinking’ gallwch wrando arni wrth iddi archwilio datblygiadau mewn gofal orthopedig. Mae hyn yn lleihau'r amser y mae cleifion yn aros yn yr ysbyty yn sylweddol. Mae arloesi cydweithredol yn gwella effeithlonrwydd gan helpu i wneud cleifion yn well, a hynny yn gyflymach.

Mae hyn o fantais i bawb. Mae cleifion yn aros am gyfnod byrrach yn yr ysbyty ac yn gwella’n gyflymach ar ôl eu llawdriniaethau. Mae ysbytai'n gwella eu sgiliau clinigol ac yn gallu trin mwy o gleifion. Mae GIG Cymru yn gweithredu'n fwy effeithiol, gan leihau costau.

Galw mawr am lawdriniaeth ar y glun

Wrth i bobl yng Nghymru heneiddio mae eu cyrff yn gwisgo'n raddol. Yn aml, y cluniau a'r pengliniau sy'n teimlo'r straen mwyaf. Mae hyn yn gwneud gweithgareddau bob dydd, fel dringo grisiau neu fynd i siopa, yn heriol ac yn boenus. Y newyddion da yw bod yna wellhad. Mae'n cynnwys llawfeddygaeth sydd wedi dod yn llwyddiannus iawn. Mae llawfeddygaeth pen-glin a chlun yn dod â buddion sy'n newid bywyd, gan gael gwared ar boen ac adfer gweithrediad. Mae canlyniadau llwyddiannus yn esgor ar alw mawr. Mae amseroedd aros cleifion bellach yn ymestyn i lawer o fisoedd poenus. Mae ysbytai dan bwysau i leihau rhestrau aros. Maent hefyd yn ymdrechu i gadw'r amser y mae cleifion yn ei dreulio yn yr ysbyty mor fyr â phosibl.

Mae partneriaeth â diwydiant yn darparu arloesedd o fewn ysbytai Cymru i fedru cyflawni'r nodau hyn. Yn yr arena orthopedig mae gweithgynhyrchwyr mewnblaniadau a byrddau Iechyd Cymru wedi cyfuno eu sgiliau a'u profiad. Mae ‘Healthy Thinking’ yn tynnu sylw at sut mae dulliau arloesol mewn orthopedeg yn gwella effeithlonrwydd llwybrau triniaeth, gydag arbedion cysylltiedig a gwell canlyniadau i gleifion.

Gwella effeithlonrwydd llwybrau gofal

Mae'r llawfeddyg orthopedig ymgynghorol Tony Smith wedi bod yng nghanol prawf peilot yn Ysbyty Wrecsam Maelor, a edrychai ar y broses a brofodd claf cyn, yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth ar ei ben-glin neu ei glun. Gofynnai sut y gellid newid hyn i wella amseroedd aros cleifion a chyfundrefnau adfer ar ôl llawdriniaeth. “Cyn y prawf, ni ragrybuddiwyd y cleifion. Nid oeddent yn deall beth oedd yn mynd i ddigwydd cyn llawdriniaeth, nac unrhyw beth am eu harhosiad fel claf mewnol, nac ychwaith lefel yr adsefydlu a'r ymgysylltu a ddisgwylid, ” nododd Tony.

Roedd y prawf mewn partneriaeth â Biomet Connect Division sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac sy'n cynhyrchu mewnblaniadau orthopedig. Dangosodd y prawf peilot fod gwella prosesau'n gyson yn lleihau cost heb gyfaddawdu ar safon. Fe wnaeth leihau anghyfleustra i gleifion ac athreuliad staff. “Dim ond elfen fach o’r llwybr yw’r llawdriniaeth. Yn y gorffennol rydym wedi canolbwyntio ychydig yn ormodol ar fanylion yr hyn sy’n digwydd yn y theatr lawdriniaeth, â hithau’n debygol mai’r 90% sy’n digwydd oddi amgylch i’r driniaeth yn y theatr sydd bwysicaf,” meddai Tony. “Dro ar ôl tro pan wnaethom holi beth oedd pobl ei eisiau, mi ddywedon nhw eu bod eisiau mynd adref cyn gynted â phosib. Dyna oedd yr ysgogiad mawr iddyn nhw,” meddai Tony.

Yr allwedd i lwyddiant y prawf oedd tîm amlddisgyblaethol, o staff theatr i nyrsys ardal a thimau rheoli. Fe wnaethant haneru'r amser a dreuliwyd yn yr ysbyty cyn y prawf. Roedd cleifion yn mynd adref ar ôl tridiau heb gymhlethdodau clinigol. Ni chafwyd cynnydd yn y cyfraddau ail-dderbyn. “Mae astudiaethau achos a llenyddiaeth feddygol yn dangos bod cleifion sy’n symud yn gynharach yn gwella’n well, ac mae eu mewnblaniad newydd yn gweithio’n well iddyn nhw,” eglura Ruth Griffiths, sy’n arwain Adran Gyswllt Zimmer Biomet UK.

Ar hyn o bryd mae 700 o doriadau clun yng Nghymru bob blwyddyn sy'n costio £9.5 miliwn i GIG Cymru. Mae cleifion eiddil yn treulio 33 diwrnod yn yr ysbyty ar gost ychwanegol o £13,500 yr un. “Dim ond 15% o gost llwybr orthopedig claf yw’r mewnblaniad,” amcangyfrifa Ruth. “Mae'r 85% arall o daith y claf yn ymwneud â phrosesau eraill ar y llwybr hwnnw. Gallant fod yn aneffeithiol iawn, gan olygu cost i'r ysbyty a risg i'r claf. Felly mae edrych ar wella'r llwybr yn lleihau costau a risg.”

Mae'r prawf llwyddiannus yn golygu bod yr ysbyty yn awr yn gweithio ar welliannau pellach. Eu nod yw lleihau arosiadau cleifion sydd mewn ysbytai ar gyfer llawfeddygaeth pen-glin a chlun i un diwrnod yn unig. Sut? Dangosodd y prawf mai’r allwedd yw symleiddio taith y claf o ddiagnosis i gyfundrefnau iachâd ar ôl llawdriniaeth. Paratoi cleifion ymlaen llaw ar gyfer y llawdriniaeth yn seicolegol yw'r cam cyntaf. Nesaf, dileu protocolau ysbyty digyswllt cymhleth. Yna addasu anesthesia'r claf fel y gellid ei symud yn gynharach. Roedd cleifion prawf yn cerdded o fewn dim ond dwy i dair awr ar ôl llawdriniaeth. Yn olaf, rhoddir trefn rheoli poen i gleifion i barhau i wella eu symud gartref.

Buddion Cydweithredol

Ar draws GIG Cymru, mae cydweithio rhwng diwydiant a darparwyr gofal iechyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Gall byrddau iechyd ddarparu mwy gyda llai ac mae ansawdd y gofal i gleifion o Gymru yn gwella. Mae cydweithredu hefyd yn hybu diwydiant i arloesi. Yn bwysig, mae'n gwella canlyniadau cleifion trwy effeithlonrwydd llwybrau gofal ac yn helpu i wella ymgysylltiad a dealltwriaeth cleifion.

Tanysgrifiwch a gwrandewch heddiw!

Gallwch danysgrifio i’r podlediad ‘Healthy Thinking’ neu i’w fersiwn gyfatebol Gymraeg, ‘Syniadau Iach’, trwy’r gwasanaeth ffrydio a ffafrir gennych i sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw benodau yn y dyfodol.