Dysgwch sut gwnaeth y Gronfa Datrysiadau Digidol (DSF) gefnogi’r rhaglen MedTRiM i addasu i ddarpariaeth ar-lein yn sgil COVID-19.

DHEW

Caiff lles staff ei gydnabod fel un o flaenoriaethau pennaf Arweinwyr Grŵp Arloesedd GIG Cymru. Gall yr amgylcheddau cyflym, llawn emosiwn a phwysau uchel y mae’r rheiny sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ynddynt arwain at ganlyniadau andwyol. Nid yn unig yw hyn yn effeithio ar les staff, ond hefyd ansawdd hirdymor y gwasanaethau clinigol.

Yn 2011, cydweithiodd DNA Definitive, fy sefydliad, gyda Dr Mark Stacey o Fentrau Newydd Deoniaeth Cymru (ac Anesthetydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) er mwyn addasu rhaglen o’r enw rheoli’r risg o drawma (TRiM) gafodd ei datblygu yn y gwasanaeth milwrol i gefnogi eu personél. Gyda chefnogaeth arbenigwyr TRiM o’r gwasanaethau milwrol, rydym wedi datblygu rheoli trawma meddygol a gwydnwch (MedTRiM) i helpu i fynd i’r afael â’r pwysau y mae staff clinigol yn ei wynebu.

Degawd yn ddiweddarach, mae MedTRiM bellach yn adnodd sefydledig a rhagweithiol sy’n cefnogi’r rheiny sy’n agored i brofiadau trawma yn y gweithle. Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), DNA Definitive a chydweithwyr y GIG sy’n rhedeg y rhaglen, sydd â’r nod o gynnig strategaethau rheoli clir a rhyngweithio a chefnogaeth ystyrlon rhwng grwpiau o gyfoedion. Agwedd werthfawr ar yr hyfforddiant yw y gall greu atmosffer sy’n annog pobl i siarad, gan gefnogi ei gilydd a chadw llygad ar sut mae cydweithwyr yn teimlo.

Cyflawni datrysiad digidol

Bu i bandemig COVID-19 atal darpariaeth y rhaglen ym mis Mawrth 2020 oherwydd y cyfyngiadau pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, daeth hyn ar adeg pan roedd yr angen i gefnogi staff a’u hyfforddi i fod yn wydn yn fwy nag erioed. Roedd niferoedd cynyddol o achosion COVID-19 a straen digynsail ar ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn golygu na wnaeth y galw am hyfforddiant MedTRiM ddod i ben, er bod y cyfleoedd addysgu wyneb yn wyneb wedi dod i ben.

Rhoddodd y DSF gyfle i addasu’r hyfforddiant i fformat darpariaeth ddigidol, a helpodd ni i barhau i gynnig cefnogaeth i staff drwy gyrsiau MedTRiM. Cafodd y fenter hon ei chydlynu gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW) a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Drwy’r rhaglen hon, cafodd pump o fentrau iechyd digidol gynnig o gyllid yn rhan o alwad am weithrediad gwerth £150,000, yn ceisio ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg i ymateb i COVID-19.

Ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Arweinwyr Grŵp Arloesedd GIG Cymru gydag AaGIC a DNA Definitive i helpu i wireddu hyn. Roedd MiMentor hefyd yn bartner allweddol yn y cydweithrediad, sef sefydliad sy’n cynnig platfform dysgu ar-lein arobryn.

Cafodd yr holl adnoddau dysgu ac addysgu eu haddasu’n gyflym i ddysgu digidol dan arweiniad personol. Cynhyrchwyd deunydd ychwanegol hefyd megis fideos addysgu i helpu i gefnogi’r fformat ar-lein. Yn ogystal, galluogodd y platfform MiMentor ni i wneud y cwrs digidol yn rhyngweithiol, gyda gwiriadau gwybodaeth parhaus a senarios dysgu ar hyd y ffordd.

Gwnaethom hefyd geisio cyfranogwyr newydd oedd yn adlewyrchu gwerthoedd MedTRiM o ran cadw cymorth ymwybyddiaeth o drawma ar lefel llawr gwlad. Roedd hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl, ymarferwyr rheoli trawma profiadol a’r rheiny oedd wedi rhoi MedTRiM ar waith yn eu sefydliad.

Mae’r prosiect DSF hwn hefyd yn cynnig etifeddiaeth bwysig o ran hyfforddi a chynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng digidol. Bu i adfywio MedTRiM yn wyneb COVID-19 ddangos sut gall cwrs ar-lein gefnogi staff o bell heb orfod teithio, yn ogystal â chyfrannu at dargedau amgylcheddol ehangach. Bydd ei effaith yn amlwg ymhell ar ôl y pandemig, gyda’r cwrs digidol yn dal i fod ar gael yn y dyfodol.

Pwy fyddai’n elwa ar hyfforddiant MedTRiM?

Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer MedTRiM. Mae ar gael yn rhad ac am ddim i bob gweithiwr proffesiynol, ar bob lefel, sy’n gweithio yn GIG Cymru. Ymhlith y staff sydd eisoes wedi elwa ar fynediad digidol at becyn cymorth sy’n cryfhau eu gwydnwch personol, cymdeithasol ac amgylcheddol mae:

  • Myfyrwyr ar gyrsiau meddygaeth a phynciau perthynol
  • Nyrsys
  • Seicolegwyr
  • Meddygon
  • Parafeddygon
  • Gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ategol

Pam ddylai gweithwyr proffesiynol gofal iechyd gofrestru ar gyfer MedTRiM?

Gwnaeth y DSF ein galluogi i barhau i redeg MedTRiM yn wyneb COVID-19, sydd wedi gwneud llawer ledled y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn agored i brofiadau trawma o bosib. Hyd yma, rydym wedi cynnig hyfforddiant MedTRiM digidol i oddeutu 200 o gydweithwyr.

Mae ein hyfforddiant wedi grymuso’r rheiny sydd wedi cofrestru gyda mynediad i fframwaith credadwy a chymorth gan gyfoedion i helpu i gryfhau staff clinigol wrth ymateb i reoli trawma. Mae’r agwedd ddigidol ar y cwrs hefyd wedi golygu ei fod yn fwy hygyrch, gan alluogi’r rheiny sydd wedi cofrestru i weithio drwyddo ar adeg ac mewn lleoliad sy’n gyfleus iddyn nhw a’u hamserlenni prysur.

Mae mynediad at y cwrs MedTRiM yn parhau, ac yn rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol gofal iechyd yng Nghymru. Gallwch gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant drwy gysylltu ag AaGIC ar HEIW.NewInitiatives@wales.nhs.uk.