Trydydd parti

Mae Dr. Maxamillian Moss, Swyddog Ymchwil Comisiwn Bevan yn ysgrifennu yn y blog gwadd hwn am fframwaith 'WASTES' Comisiwn Bevan.

A medical worker putting a used mask in a bin

Wrth drafod gwastraff o fewn gofal iechyd, mae'n hanfodol ehangu ein persbectif y tu hwnt i'r syniadau confensiynol o ddeunyddiau wedi'u taflu neu fwyd heb ei fwyta. Mae’r sbectrwm gwastraff yn ymestyn ymhell y tu hwnt i eitemau diriaethol i gwmpasu aneffeithlonrwydd mewn prosesau, defnyddio adnoddau a defnyddio ynni. Wrth i ni ymdrechu i wella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal a chynnydd tuag at niwtraliaeth carbon, mae’n hanfodol nodi a mynd i’r afael â’r mathau hyn o wastraff sy’n aml yn anweledig ac yn cael eu camddeall. Er mwyn ein galluogi i weld y sbectrwm gwastraff llawn, mae Comisiwn Bevan wedi datblygu fframwaith ‘WASTES’. Gellir rhannu’r acronym ‘WASTES’ fel a ganlyn: Gweithlu, Gweinyddiaeth, Gwasanaethau, Triniaeth, Ynni a Systemau (Workforce, Administration, Services, Treatment, Energy, and Systems).

Felly sut mae’r categorïau hyn yn berthnasol i ‘wastraff’ o fewn ymbarél gofal iechyd? Cwestiwn da. Gadewch i ni ei ddadansoddi!

 

GWEITHLU

Mae’r categori gwastraff hwn yn cynnwys materion fel aneffeithlonrwydd o ran staffio, defnyddio sgiliau a chynhyrchiant mewn lleoliadau gofal iechyd. Gall y rhain ddeillio o ddiffyg cyfatebiaeth rhwng lefelau staffio a’r galw gan gleifion, yn ogystal â rhaglenni hyfforddi a datblygu annigonol. Drwy wneud y gorau o ddarparu gwasanaethau a meithrin newid ymddygiad ymysg staff a chleifion drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a chymhellion, gall cyfleusterau gofal iechyd wella cynhyrchiant ar yr un pryd â chyd-fynd â nodau cynaliadwyedd. Er enghraifft, gall sicrhau’r lefelau staffio gorau posibl a lleihau gwastraff amser drwy alinio â’r galw gan gleifion leihau gwastraff gweithlu yn sylweddol.

GWEINYDDIAETH

Mae gwastraff gweinyddol yn deillio o brosesau diangen, gwaith papur a rheoli llif gwaith aneffeithlon. Gall hyn arwain at oedi, gwallau a chostau uwch. Gall rhoi protocolau, llifoedd gwaith a systemau rheoli uwch safonol ar waith, fel systemau rheoli gwelyau ar gyfer llif cleifion wedi’i symleiddio, leihau gwastraff gweinyddol yn sylweddol. Safoni gweithdrefnau a rhoi systemau rheoli uwch ar waith i symleiddio gweithrediadau a lleihau camgymeriadau, gan wella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff yn y pen draw.

GWASANAETHAU

Mae gwastraff gwasanaeth yn cwmpasu materion fel lleihau gwastraff bwyd a rheoli gwastraff yn ddarbodus. Gall cyfleusterau gofal iechyd weithredu systemau olrhain gwastraff a hyrwyddo arferion cynaliadwy i leihau gwastraff bwyd a lliniaru effaith amgylcheddol. Yn yr un modd, mae mabwysiadu egwyddorion rheoli gwastraff darbodus yn annog ailddefnyddio eitemau ac yn archwilio ffyrdd arloesol o leihau neu amnewid eitemau untro, fel menig heb eu diheintio. Drwy weithredu’r strategaethau hyn, gall cyfleusterau wella effeithlonrwydd adnoddau a chynaliadwyedd amgylcheddol.

TRINIAETH

Mae gwastraff triniaeth yn cynnwys aneffeithlonrwydd wrth reoli meddyginiaethau a thriniaethau meddygol, gan arwain at gostau diangen ac effaith amgylcheddol. Gall hyrwyddo arferion defnyddio cyffuriau rhesymegol a mabwysiadu dewisiadau amgen ecogyfeillgar, fel systemau ailgylchu nwy ar gyfer rheoli anesthetig, leihau gwastraff triniaeth yn sylweddol. Mae arferion defnyddio cyffuriau rhesymegol yn lleihau gwastraff meddyginiaethau ac yn lleihau presgripsiynau diangen, tra bod dewisiadau ecogyfeillgar yn lliniaru effaith amgylcheddol yn ystod triniaethau meddygol.

YNNI

Mae gwastraff ynni ychydig yn fwy greddfol ac mae’n deillio o ddefnyddio ynni yn aneffeithlon a diangen, a dibyniaeth ar ffynonellau anadnewyddadwy mewn cyfleusterau gofal iechyd. Drwy fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy a rhoi mentrau darbodusrwydd ar waith, fel goleuadau awtomataidd, gall cyfleusterau leihau gwastraff ynni a lleihau eu hôl troed carbon. Yn bwysig, mae mabwysiadu ynni adnewyddadwy yn lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac mae mentrau darbodusrwydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o ynni, gan hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol yn y pen draw.

SYSTEMAU

Efallai mai gwastraff systemig yw un o’r mwyaf a’r anoddaf i’w ganfod a mynd i’r afael ag ef, o ystyried ei fod yn cwmpasu eitemau cymhleth fel rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg trafnidiaeth. Gall datblygu cadwyni cyflenwi lleol a blaenoriaethu arferion trafnidiaeth a chaffael cynaliadwy leihau gwastraff systemig yn sylweddol. Drwy ddod o hyd i ddeunyddiau’n lleol a blaenoriaethu opsiynau trafnidiaeth ecogyfeillgar, gall cyfleusterau wella cydnerthedd a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

 

Dim ond crafu’r wyneb mae'r enghreifftiau hyn. Dim ond drwy ddod at ein gilydd y byddwn yn gallu cronni’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall a datrys y problemau brys hyn. Mae’r mater hwn yn cael ei archwilio ymhellach yn ein cyhoeddiad ‘What a Waste’ yn 2023, sy’n amlinellu’r rhaglen ‘Let’s Not Waste’. 

Gallwch ddarllen y papur hwn, ac ymuno â’r rhaglen i wneud gwahaniaeth yma.