Nid gor-ddweud yw honni bod arloesi yn allweddol yn y diwydiant fferyllol. Mae’r sector yn gwbl ddibynnol arno, drwy’r holl gamau cynnar o ymchwil i drawsnewid prosesau cynhyrchu. Ond mae yna hefyd bwrpas i’r arloesi. Mae’n arloesi sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni i wella iechyd unigolion a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Yn wir, mae ein gwaith yng Nghymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) yn helpu’r sefydliadau sy’n aelodau i ddatblygu triniaethau newydd sy’n gwella ac yn achub bywydau miliynau o bobl. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae hynny wedi golygu darganfod triniaethau newydd a datblygu brechlynnau i frwydro yn erbyn pandemig COVID-19.
I gyflawni hyn, mae ein haelodau wedi bod yn arloesol o ran eu ffordd o feddwl a’u dulliau gweithredu. Heb hyn, ni fyddai ein diwydiant wedi gwneud y darganfyddiadau sydd wedi newid bywydau cleifion - drwy driniaethau, dyfeisiau neu wasanaethau blaengar. Gyda’r persbectif ehangach hwn o arloesi, credwn y gall y diwydiant a’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ehangach ddod at ei gilydd i hybu iechyd a lles economaidd yn fwy eto.
Y meddylfryd cywir
Ond beth all helpu i ddylanwadu ar hyn? Gall meddylfryd sefydliadau ac unigolion chwarae rôl bwysig, lle mae ffactorau fel arweinyddiaeth, y diwylliant gweithio a’r strwythur sefydliadol i gyd yn dylanwadu ar i ba raddau y caiff arloesedd ei fabwysiadu. Yn ddiweddar, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ‘Sicrhau Arloesedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: adolygiad naratif’, sy’n adolygu’r wybodaeth a’r gwaith ymchwil yn y meysydd hyn.
Yn ABPI rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain yr effaith y gall y meddylfryd hwnnw ei chael. Mae cael staff o amrywiaeth eang o gefndiroedd gydag arbenigeddau gwahanol yn gallu helpu i feithrin ffocws cydweithredol. Mae defnyddio dulliau gweithio traws-swyddogaethol a thraws-sector yn sicrhau bod y set ehangaf o safbwyntiau’n cael eu hystyried a bod seilos yn cael eu chwalu. Yma, mae gwerthoedd a diwylliant y sefydliad yn gallu chwarae rhan bwysig.
Mae bod yn agored a chynhwysol o ran sut mae arloesedd yn cael ei fabwysiadu yn bwysig, ac mae hefyd yn hanfodol er mwyn cael triniaethau i gleifion yn gyflymach. Gall meithrin hyder rhwng partneriaid helpu gyda hyn, gan gynnwys sut i ddilyn canllawiau a gweithdrefnau priodol. Mae enghreifftiau o ddatblygiadau gwirioneddol yn y maes hwn, ac mae’n bwysig bod y diwydiant fferyllol a’r system gofal iechyd yn cydweithio er budd cleifion.
Creu gweledigaeth feiddgar a strategol
Mae angen inni bob amser sicrhau ein bod yn cadw’r darlun mawr mewn cof wrth ddatblygu a mabwysiadu arloesedd. Mae hyn yn cynnwys dod â’r holl bartneriaid perthnasol at ei gilydd wrth drafod gwella iechyd a llesiant – gan gynnwys diwydiant, cleifion a gofal cymdeithasol. Yn sicr mae pethau’n symud i’r cyfeiriad hwn. Yn dilyn yr ‘Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru’, rydym wedi gweld cynnydd ac uchelgais o ran integreiddio gofal cymdeithasol i ddulliau iechyd a lles. Mae hyn yn sicr yn wir am y trafodaethau y mae ein haelodau’n eu cael yng Nghymru. Mae meddwl am iechyd a lles mewn ffordd gyfannol yn helpu i wireddu’r buddiannau triphlyg sydd mor allweddol: i’r system gofal iechyd, i’r cwmni dan sylw, ac yn bwysicaf oll, i gleifion.
Mae gweld y darlun mwy yn allweddol hefyd wrth geisio trawsnewid ar raddfa fawr. Er bod cynlluniau peilot yn gallu bod yn bwysig o ran dangos gwerth prosiectau ar raddfa fach, mae angen i ni hefyd ganolbwyntio ar gyflawni ar y raddfa a’r cyflymder sy’n ofynnol. Rhaid i weledigaeth flaengar ac uchelgeisiol annog y newid mawr hwn ar draws diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn o bwys arbennig ar y llwyfan byd-eang, lle mae gwledydd yn datblygu ffyrdd manwl tuag at eu hadferiad. Os yw Cymru am chwarae rhan flaenllaw yn hyn, yna rhaid gweithredu ar unwaith. I ailgodi’n gryfach – ac yn decach – mae angen i ni symud ymlaen, gan gynllunio’n gyflym a gydag uchelgais.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi datblygu adnodd ar-lein i’n helpu i arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadnodd Sicrhau Arloesedd.