Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, yn trafod y pwysigrwydd o gael dull integredig o arloesi rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae pethau sy’n gyffredin a phethau sy’n wahanol yn yr holl sefydliadau sydd mewn rhwydwaith, ac mae ymwybyddiaeth o’r rhain yn helpu partneriaid i gyrraedd nodau a rennir. Wedi’r cyfan, byddwn bob amser yn gweithio ar ein gorau os oes gennym gyd-ddealltwriaeth da o gryfderau, arferion gorau a diwylliant gweithio ein partneriaid.
Mae hyn yn sicr yn wir am sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n ymdrechu i arloesi – boed hynny drwy newid arferion neu drawsnewid ar lefel y tîm neu’r gwasanaeth. Trafodir hyn yn adroddiad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar Cyflawni Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lle mae adran gan Juliette Malley sy’n edrych ar yr elfennau tebyg a gwahanol.
Rwyf wedi gweithio am ddegawdau yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, felly mae gen i bersbectif defnyddiol ar beth maent yn gallu ei ddysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’r ddau sector yn rhannu’r nod o sicrhau newid systematig ar raddfa fawr sy’n dod â budd i ddefnyddwyr gwasanaethau, staff, a’r economi ehangach. Mae tebygrwydd yn aml rhwng y rheini sy’n darparu gwasanaethau, rhwng gwerthoedd eu sefydliadau a hefyd o ran y pwysau cymdeithasol ac economaidd ehangach sy’n effeithio ar eu gwaith.
Er nad yw arloesi mewn gofal cymdeithasol yn gorgyffwrdd â gofal iechyd mewn meysydd fel meddygaeth, mae’n chwarae rhan bwysig drwy hyrwyddo lles a byw’n annibynnol, drwy addasu i fywyd ar ôl salwch neu anabledd, a thrwy welliannau mewn technoleg rithwir sy’n gallu gwella cyfathrebu, cyngor, asesiadau, a dulliau cofnodi achosion a rheoli gofal. Mae ffactorau o’r fath yn bwysig wrth arloesi mewn gofal iechyd. Fodd bynnag, mae’r gweinyddu ar wasanaethau a chynhyrchion o’r fath yn cael ei adael yn aml i staff rheng flaen, sy’n dangos y cysylltiad clir sydd rhyngddynt.
Bydd staff gofal cymdeithasol yn aml yn gweithio gydag unigolion sydd ag anghenion clinigol mawr. Drwy ddeall y cyflyrau clinigol a phrognosisau sydd ganddynt, byddant mewn lle gwell i’w helpu i aros yn annibynnol a gwella eu lles. Ac wrth feddwl am ffyrdd arloesol i’w helpu i wneud hyn, bydd timau amlasiantaethol ym mhob rhan o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu sicrhau bod yr holl anghenion wedi’u diwallu, os byddant yn parhau i ddeall a defnyddio gwybodaeth a sgiliau ei gilydd.
Creu diwylliant cyffredin
Mae’n hollbwysig bod timau amlddisgyblaethol o’r fath yn dod o hyd i iaith gyffredin. Mae hyn yn wir am yr holl gydweithio rhwng y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng nghyd-destun arloesi. Bydd yn haws trosglwyddo prosiectau gwella rhwng timau os ydynt yn deall ffyrdd o weithio ei gilydd.
Gall diffyg iaith gyffredin fod yn rhwystr mawr i’r rheini sy’n gweithio yn yr holl feysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, ychydig o gyfleoedd a geir i feithrin iaith gyffredin ar ddechrau eu gyrfa: bydd gweithwyr cymdeithasol yn hyfforddi gyda gweithwyr cymdeithasol, nyrsys gyda nyrsys, a meddygon gyda meddygon. Byddant wedyn yn gweithio fel arfer mewn swyddi is o fewn rhwydweithiau sy’n berthnasol gan mwyaf i’w rolau. Mae’n bosibl mai dim ond wedi iddynt setlo yn eu gyrfa y byddant yn cael eu bod wedi’u “taflu i mewn” i weithio mewn timau amlddisgyblaethol.
Drwy roi cychwyn iddynt gyda’i gilydd, yn ystod eu datblygiad proffesiynol, gallai fod yn haws i ni arloesi’n well ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol drwy rannu ffyrdd o weithio, yr arferion gorau a methodolegau. Fodd bynnag, nid yw diwylliant o’r fath yn bod eto, a bydd yn anodd ei greu mewn sefydliadau sy’n amharod i fentro. Yn aml, bydd pobl yn ofni arbrofi, a gellir gweld hyn ymysg swyddogion gweithredol yn ogystal â’r gweithlu ar lefel is. Drwy greu diwylliant arloesi o’r brig i lawr, gellir helpu i ddelio â hyn drwy rymuso’r staff yn y rheng flaen i arbrofi’n amlach a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae ar bobl angen teimlo’n ddiogel wrth roi cynnig ar bethau newydd a ffyrdd newydd o weithio.
Deall ac elwa o wahaniaethau
Byddai’r iaith gyffredin hon hefyd yn gallu hybu ymwybyddiaeth yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol o’r gwahaniaethau defnyddiol sydd rhyngddynt. Un enghraifft yw ymchwil a setiau data a’r defnydd ohonynt yn y ddau sector. Maen nhw’n hybu arloesi wrth ymarfer drwy eich helpu i ddeall beth sy’n digwydd a sut i gael y canlyniadau gorau i’ch defnyddwyr gwasanaethau a’ch staff. Fodd bynnag, o’i gymharu â’r buddsoddi mewn ymchwil a data yn y GIG, mae’r dystiolaeth sydd ar gael mewn gofal cymdeithasol yn fwy cyfyngedig, a bydd hyn yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu prosiectau arloesi amlddisgyblaethol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu strategaethau ymchwil a data ar gyfer gofal cymdeithasol er mwyn gwella’r sefyllfa bresennol dros amser.
Mae gwahaniaeth sylweddol hefyd rhwng y seilwaith gofal cymdeithasol a’r seilwaith gofal iechyd, a gallai hyn ddylanwadu ar y gallu i arloesi ar y cyd. Mae’r GIG a’r Byrddau Iechyd yn strwythurau mawr, cymhleth, fel bod cryn bellter yn aml rhwng y cyfarwyddwyr gweithredol a’r rheng flaen. Gallant ddibynnu ar fframwaith llywodraethu cenedlaethol o dan arweiniad Prif Weithredwr GIG Cymru.
Mewn cyferbyniad â hyn, mae gofal cymdeithasol yn rhan o seilwaith llywodraeth leol lle mae staff ar lefel weithredol yn agosach i’r rheini sy’n darparu gwasanaethau i’w poblogaethau lleol. Pan oeddwn yn gyfarwyddwr statudol Gwasanaethau Cymdeithasol, roedd y Pennaeth gwasanaethau oedolion a rhai o’i thimau yn gweithio yn yr ystafell nesaf ac roedd y Pennaeth gwasanaethau plant a rhai o’i thimau yn gweithio yn yr un adeilad, felly roedd yn haws cael sgyrsiau yn y fan a’r lle â gweithwyr y rheng flaen am heriau, arloesi, a gwella.
Mae aelodau cabinet sy’n gyfrifol am les dinasyddion hefyd yn gallu dod ag anghenion y boblogaeth a barn eu hetholwyr yn syth i sylw’r gwasanaeth. Mae llywodraethu lleol o’r fath yn sicrhau bod mwy o allu gan bawb sy’n gweithio mewn Cynghorau i ymateb i anghenion eu poblogaethau, gan gydweithio â Chynghorau cyfagos os oes mantais mewn gweithredu ar lefel ranbarthol.
Golwg tua’r dyfodol
Mae’r pandemig COVID-19 wedi dangos yr effaith o weithio drwy ddull system gyfan a rhannu iaith ac ymdrech gyffredin. Mae hyn wedi galluogi pobl sy’n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i chwalu rhwystrau sefydliadol a phroffesiynol ac wedi amlygu’r pŵer mewn cydweithio rhwng y sectorau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant.
Wrth hyrwyddo’r model integredig hwn ymhellach, byddai cyllid arloesi hirdymor ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu helpu i sicrhau trawsnewid yn y ddau sector. Byddai hyn yn gallu rhoi modd i sefydliadau rannu risgiau a rhedeg prosiectau cyfochrog, er mwyn trawsnewid i fodelau gwasanaeth newydd ar sail gynaliadwy. Mae cyllido tymor byr yn llai tebygol o sicrhau’r effaith arfaethedig.
Bydd arloesi yn y ddau sector yn sicr o gael ei sbarduno yn y dyfodol gan yr unigolion rhyfeddol sy’n gweithio ym mhob maes, a bydd barn dinasyddion yn cyfrannu at y newid sydd ei angen. Y bobl sy’n peri i bethau ddigwydd, wrth gwrs. Fodd bynnag, bydd iaith gyffredin a dull mwy integredig o weithredu yn hanfodol wrth gyflawni hyn.