Trydydd parti

Fe wnaeth Cymru arwain y ffordd yn y DU ar gyfer mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial ar raddfa fawr, pan gymeradwywyd cyflwyno cenedlaethol i wella gofal strôc. Yma, rydyn ni'n rhoi gwybodaeth i chi am Brainomix a sut mae'n cefnogi newid cenedlaethol mewn canlyniadau i gleifion strôc.

A scan of a brain

Yr her gyda strôc

Mae dwy her fawr yn y llwybr strôc: cyflymder a chywirdeb. Ar ôl strôc, mae claf yn colli bron i 2 filiwn o gelloedd ymennydd bob munud. Mae cael diagnosis ar frys yn hanfodol ac yn ganolog i'r canlyniad i gleifion. Ar yr un pryd, gall rhai o arwyddion strôc fod yn gynnil iawn ac mae'n dibynnu ar y sgil a'r amser sydd gan glinigwr i ddarllen sgan o'r ymennydd.

Yn 2015, roedd newid radical wedi digwydd yn y ffordd yr ymdrinnir â strociau. Cyn 2015, y driniaeth gyntaf oedd thrombolysis – pigiad o gyffur chwalu clotiau. Ar ôl hyn, fe wnaeth cyfres o astudiaethau argymell thrombectomi – llawdriniaeth i dynnu clot – fel ail driniaeth i gleifion cymwys.

Mae thrombectomi yn driniaeth effeithiol iawn – bydd un o bob 2–3 claf yn cael canlyniad ffafriol (sef gwella'n gyflym a dychwelyd i allu byw’n annibynnol), o'i gymharu ag un o bob saith claf sy'n cael triniaeth thrombolysis. Yn ogystal â'r manteision i gleifion, mae thrombectomi llwyddiannus yn arbed tua £45,000 i'r GIG dros gyfnod o bum mlynedd.

Ond, mae'r 'angen am gyflymder' yn fwy amlwg fyth. Fel arfer, dim ond o fewn cyfnod o chwe awr ar ôl i'r symptomau ddechrau y mae thrombectomi yn addas. 

Brainomix

Dyma lle gall Brainomix helpu. Cafodd y cwmni o'r DU ei sefydlu yn 2010 fel cwmni deillio o Brifysgol Rhydychen, gyda'r weledigaeth o drawsnewid gofal strôc. Yn 2016, lansiodd Brainomix ddatrysiad Deallusrwydd Artiffisial cyntaf y byd ar gyfer strôc, mewn pryd i gefnogi cyflwyno thrombectomi fel opsiwn triniaeth.

Effaith Deallusrwydd Artiffisial ar driniaeth strôc

Mae llwyfan Brainomix 360 ar gyfer strôc yn gweithredu fel adnodd cefnogi penderfyniadau clinigol sy’n gallu gwella a chyflymu'r broses o wneud penderfyniadau. O fewn munudau ar ôl i glaf yr amheuir ei fod wedi cael strôc gael sgan ar ei ymennydd, gall yr adnodd sy'n cael ei bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial ddadansoddi'r ddelwedd a thynnu sylw'r tîm clinigol at y canlyniadau.

Pan fydd strôc yn cael ei ganfod, gellir blaenoriaethu'r claf a pharatoi'r timau perthnasol er mwyn gweithredu. 

A scan of a brain

Allbwn enghreifftiol o lwyfan Brainomix, lle canfuwyd achludiad pibell fawr (LVO) (clot gwaed).

Mae tua 10% o gleifion fel arfer yn gymwys i gael thrombectomi os bydd y diagnosis yn cael ei wneud mewn pryd. Fodd bynnag, hyd yma, mae'r cyfraddau triniaeth wedi bod yn llawer is na'r ffigur hwnnw, gyda chyfartaleddau o 2-4% ledled y DU. Mae cael gwared ar yr oedi yn y llwybr gofal yn ffactor allweddol i newid y cyfartaledd hwn.

Yn y gwerthusiad mwyaf erioed o ddelweddu strôc deallusrwydd artiffisial yn y byd go iawn (sy'n cynnwys dros 450,000 o gleifion ar draws 26 safle yn Lloegr), roedd adnodd Brainomix yn gysylltiedig â chynnydd o 50% yn nifer y cleifion sy'n cael thrombectomi. Yn wir, yn rhanbarth Orebro yn Sweden, mae eu cyfradd thrombectomi wedi cynyddu i 23% o gleifion!

Yr effaith yng Nghymru

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU (ac un o dair yn unig yn fyd-eang) i fabwysiadu'r dechnoleg hon yn genedlaethol. Ar y cyd â chynllun cyflawni cenedlaethol i greu rhwydwaith o ganolfannau strôc ledled Cymru, mae pob strôc a amheuir yng Nghymru bellach yn elwa o lwybr gwell sy'n gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisial strôc.

Ers dechrau ei gyflwyno yn 2023, mae dros 17,000 o achosion wedi cael eu sgrinio yng Nghymru, gan arwain at ddiagnosis a thriniaeth gyflymach i'r boblogaeth gyfan.

Yn ymarferol, mae system rybuddio Brainomix yn golygu, mewn rhai achosion, y gall y tîm llawfeddygol ymgysylltu'n rhagweithiol ag ysbytai ymylol, hyd yn oed cyn i'r llwybr triniaeth gael ei roi ar waith.

O ganlyniad, mae mwy o strociau'n cael eu canfod mewn pryd ar gyfer triniaeth effeithiol. Yn 2022–23, 1.8% oedd y gyfradd thrombectomi yng Nghymru. Ar ôl cyflwyno Brainomix fel adnodd cymorth, roedd hyn bron wedi dyblu yn 2023–24 (i 3.1%). Yng Nghaerdydd a'r Fro, mae'r gwelliant yn fwy amlwg ac mae cyfraddau thrombectomi wedi codi i 8–9%. Yn y cyfamser, fe wnaeth cyfraddau thrombolysis hefyd godi o 6–7% i dros 20% (gyda 20% yn gyfradd safonol aur ar gyfer y driniaeth hon). Yn y pen draw, y nod yw bod Cymru gyfan hefyd yn cyrraedd safon aur thrombectomi o 10%, a fyddai'n dangos bod y mwyafrif helaeth o'r rhai sy'n gymwys i gael thromboectomi yn cael un.

Mabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial

Fel un o'r datrysiadau Deallusrwydd Artiffisial cyntaf i gael ei fabwysiadu yng Nghymru, roedd mabwysiadu'n genedlaethol wedi cyflwyno heriau. Roedd rhai o'r gwersi a ddysgwyd yn cynnwys y canlynol:

  • Fe wnaeth syniadau mawr dalu ar ei ganfed yn y diwedd. Roedd hi wedi bod yn heriol yn y tymor byr i'w gyflwyno’n genedlaethol, ond ar ôl llwyddo i wneud hyn, mae'n golygu tegwch ledled Cymru gyfan. Ynghyd â chanolfan thrombectomi newydd yng Nghaerdydd, mae hwn yn gam enfawr ymlaen i gleifion strôc yng Nghymru.
  • Roedd rheoli'r prosiect yn hollbwysig. Roedd un rheolwr prosiect canolog yn allweddol i gydlynu'r holl fyrddau iechyd, ar draws yr amrywiol randdeiliaid gan gynnwys arweinwyr llywodraethol, clinigol a TG.
  • Mae sicrhau ymrwymiad o'r gwaelod i fyny yn hanfodol. Mae Deallusrwydd Artiffisial yn dechnoleg gymharol newydd ac mae rhywfaint o amheuaeth o hyd. Ond, rydyn ni wedi canfod bod clinigwyr yn barod iawn i ymuno, pan fydd y data, y dystiolaeth, a'r astudiaethau achos bywyd go iawn yn dangos bod adnodd yn dod â gwerth i'r system.
  • Bod yn frocer gonest. Nid oes unrhyw adnodd yn hollol ddibynadwy ac mae'n bwysig nodi y gall cael canlyniadau ffug (a chynnwys hyn yn yr hyfforddiant). Rydyn ni’n glir mai bwriad Brainomix bob amser yw bod yn adnodd cefnogi penderfyniadau i glinigwyr, sy'n defnyddio llawer mwy na delweddau i lywio eu penderfyniadau.

Beth sydd nesaf ar gyfer Brainomix a gofal strôc yng Nghymru?

Mae adnodd Brainomix ar gyfer strôc yn cael ei ddefnyddio ar draws 35 o wledydd a 400 o ysbytai erbyn hyn, gyda dros 2.2 miliwn o gleifion yn cael eu trin gyda'r dechnoleg hyd yma. Mae gofal strôc wedi'i wreiddio'n ddwfn yn nharddiad y cwmni, ond mae cynnyrch newydd ar gyfer clefyd yr ysgyfaint newydd gael ei lansio hefyd.

O ran strôc, y cam mawr nesaf fydd ehangu o'r pibellau mawr, canolog yn yr ymennydd, i allu mynd i'r afael â'r pibellau bach, pellach. Ar hyn o bryd, mae Brainomix yn treialu technoleg newydd i gyflawni hyn, felly, dros y blynyddoedd nesaf, rydyn ni’n disgwyl gallu canfod clotiau mewn mwy o ardaloedd ac, yn y pen draw, sicrhau bod modd gweld pob rhan o’r ymennydd.

Yng Nghymru, mae digideiddio'r llwybr strôc cyfan hefyd yn nod. Mae adnodd brysbennu cyn mynd i’r ysbyty ar ffurf fideo wrthi’n cael ei dreialu ar draws pum bwrdd iechyd, drwy bartneriaeth â chwmni arall yn y DU o'r enw Visionable. Cymru yw'r unig le sy’n defnyddio adnoddau Visionable a Brainomix i geisio olrhain a gwella profiad claf strôc yn syth yn ôl i'r daith yn yr ambiwlans, sydd unwaith eto’n dangos yr uchelgais ar gyfer symud ymlaen yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am yr atebion arloesol a gynigir gan Brainomix ar gael yma.

Awdurau blog:

Riaz Rahman Cyfarwyddwr Gwerthu, EMEA, Brainomix, a Dr Shakeel Ahmad, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc