Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mynd dan groen sut y gall ffordd o fyw a thueddiadau demograffig effeithio ar ofal canser a beth mae hyn yn ei olygu i wella triniaethau, y pwysau y mae ein GIG yn eu hwynebu ac ansawdd bywyd yn y pen draw.

Two women swimming in the sea.

Newidiadau ffordd o fyw a demograffig sy'n rhoi'r rhagfynegyddion cryfaf ar gyfer datblygu canser. Mae'r risg o ddatblygu canser yn cynyddu gydag oedran oherwydd newidiadau biolegol yn eich corff a'r siawns o ddod i gysylltiad â ffactorau risg. Mae agweddau fel gordewdra ac ysmygu yn gysylltiedig â sawl math o ganser, ac mae penderfynyddion cymdeithasol fel statws economaidd-gymdeithasol yn dylanwadu ar nifer yr achosion o ganser drwy effeithio ar gysylltiad â ffactorau risg a'r tebygolrwydd o ganfod canser yn gynnar.

Bydd newidiadau i bob un o'r uchod yn llywio dyfodol gofal canser. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio i'w hystyried a bydd ffactorau risg sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw yn parhau i esblygu. Gall monitro a deall y tueddiadau hyn ddarparu sylfaen gref ar gyfer rhagweld anghenion gofal canser yng Nghymru yn y dyfodol.

Fel rhan o gyfres o adroddiadau sy'n edrych ar ddyfodol gofal canser yng Nghymru, rydw i wedi gweithio fel rhan o dîm Gwybodaeth am y Sector yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i archwilio tueddiadau allweddol o ran ffordd o fyw a demograffeg. Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut y gallai'r tueddiadau hyn ddylanwadu ar nifer yr achosion o ganser, y galw am driniaeth a dyrannu adnoddau.

Rwyf wedi rhoi rhai o'r ystadegau a'r meddyliau allweddol pwysig mewn blog sy’n eu crynhoi. Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth.

Beth mae heneiddio yn ei olygu i ofal canser yng Nghymru

Yma yng Nghymru, rydym yn wynebu poblogaeth sy'n heneiddio. Disgwylir i'r boblogaeth gyffredinol sy'n 65 oed a hŷn yng Nghymru dyfu 19% o 706,000 yn 2025 i 841,000 yn 2035, sy'n llawer mwy na newidiadau eraill mewn grwpiau oedran eraill. Bydd hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd mwy gwledig fel Sir Fynwy a Phowys.

Bydd y boblogaeth hon sy'n heneiddio yn arwain at gynnydd yn yr achosion canser cyffredinol. Canlyniad hyn yw galw cynyddol am wasanaethau canser, boed hynny'n brofion diagnostig, yn driniaethau neu'n ofal dilynol. Mae buddsoddi mewn seilwaith, cyfleusterau newydd ac ehangu'r gweithlu yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â hyn. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gofal integredig , gan fod gan oedolion hŷn sydd â chanser yn aml gydafiachedd sydd angen cymorth ar draws gofal sylfaenol, gwasanaethau arbenigol a gofal cymdeithasol. Gall gofal integredig helpu i gydgysylltu hyn a chefnogi cleifion a lleihau'r pwysau ar systemau.

Beth mae amddifadedd cymdeithasol yn ei olygu i ofal canser yng Nghymru

Canfu'r adroddiad fod gan awdurdodau lleol yng Nghymru lefelau amrywiol o amddifadedd cymdeithasol, sy'n edrych ar ffactorau fel cyflogaeth, addysg, iechyd ac anabledd, a thai. Mae lefelau amrywiol o amddifadedd yng Nghymru – gyda gwahanol ystadegau'n tynnu Blaenau Gwent i fyny fel yr uchaf a Sir Fynwy fel yr isaf.

Gellir tynnu rhai tueddiadau yn y dyfodol allan ar amddifadedd cymdeithasol, sy'n cynnwys gostyngiad parhaus mewn lefelau amddifadedd a gwahaniaethau rhanbarthol parhaus. O ran yr effaith ar ofal canser yng Nghymru, mae amddifadedd cymdeithasol yn gysylltiedig ag oedi cyn cael diagnosis cynnar o ganser a chyfranogiad is mewn rhaglenni sgrinio.

Os na roddir sylw iddynt, gall heriau a achosir gan amddifadedd cymdeithasol waethygu gwahaniaethau mewn gofal canser. Gall hyn arwain at fwy o achosion, diagnosis hwyr a chyfraddau goroesi gwaeth. Dylid ystyried strategaethau wedi'u targedu sy'n adlewyrchu gwahaniaethau rhanbarthol i liniaru'r effeithiau hyn. Ar ben hynny, dylai polisi sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol amddifadedd, fel anghydraddoldebau economaidd, gwahaniaethau iechyd a heriau o ran seilwaith chwarae rhan hollbwysig.

Beth mae mynychder ysmygu yn ei olygu i ofal canser yng Nghymru

Rydym wedi gweld cyfraddau ysmygu yn gostwng yn sylweddol yng Nghymru, o 22.3% yn 2011 i 12.6% yn 2023. Rhagwelir y bydd hyn yn parhau wrth i agweddau cymdeithas newid, ac wrth i ymwybyddiaeth o risgiau iechyd gynyddu.

Bydd y gostyngiad hwn yn cael dylanwad mawr ar leihau nifer yr achosion o ganserau fel canser yr ysgyfaint, y gwddf a'r geg, gan achosi newid yn y galw am wasanaethau gofal canser. Yn enwedig gan mai ysmygu tybaco yw prif achos canser yn y DU, y gellir ei briodoli i 15% o’r holl achosion o ganser. Fodd bynnag, am beth amser bydd parhad o ran y canserau sy'n gysylltiedig ag ysmygu yn y tymor byr i ganolig, yn enwedig ymysg oedolion hŷn sydd wedi ysmygu am y rhan fwyaf o'u bywydau.   

Dydyn ni ddim chwaith yn gwybod yn iawn beth yw effaith hirdymor e-sigaréts a fepio ar y risg o ganser a phryderon eraill ynghylch iechyd y cyhoedd.

Beth y mae gordewdra yn ei olygu i ofal canser yng Nghymru

Gordewdra yw un o'r heriau mwyaf i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae ymchwil wedi'i gysylltu ag o leiaf 13 math gwahanol o ganser, gan gynnwys canser y fron, canser y colon a'r rhefr, canser endometriaidd, canser yr ofari, canser yr arennau, canser yr iau, canser y goden fustl a chanser y pancreas. Rydyn ni’n gweld cyfraddau gordewdra yn codi yng Nghymru - i fyny o 17.8% yn 2023/4 i 26% yn 2022/3 – a rhagwelir y bydd yn parhau i godi.

Mae cyfraddau gordewdra gwahanol hefyd yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yng Nghymru, sydd unwaith eto'n tynnu sylw at ddylanwad ffactorau economaidd-gymdeithasol lleol; mae ardaloedd sydd â'r cyfraddau gordewdra uchaf fel Blaenau Gwent hefyd ymysg y rhai mwyaf difreintiedig. O ran gofal, mae'r gwahaniaethau rhanbarthol hyn yn golygu y gallai rhai ardaloedd wynebu cyfran anghymesur o bobl yn defnyddio gwasanaethau canser.

Nid dim ond y risg o ganser y mae angen i ni feddwl amdani; mae triniaeth yn bwysig hefyd. Gall gofal fod yn fwy cymhleth, a bod angen mwy o adnoddau, offer arbenigol a hyfforddiant. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd cost gordewdra ar GIG Cymru yn £73 miliwn yn 2011, a rhagwelir y bydd yn codi i £465 miliwn yn 2050. Bydd gofal canser, sy'n rhan enfawr o wariant gofal iechyd, yn rhan fawr o'r costau cynyddol hyn.

Mae angen ymyriadau iechyd cyhoeddus i atal canser drwy fynd i'r afael â gordewdra. Boed hynny'n rhaglenni yn y gymuned, addysg iechyd neu bolisi ehangach. Enghraifft allweddol yw ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’.

Mae'r cysylltiad achosol clir rhwng y ffactorau demograffig a ffordd o fyw hyn a chanser nid yn unig yn her ond mae hefyd yn gyfle gwirioneddol i ymyrryd i helpu i leihau nifer yr achosion o ganser a marwolaethau. Gall hyn ein helpu i wneud diagnosis a thrin canser yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

I edrych yn fanylach ar y tueddiadau a dadansoddiad o’r data, darllenwch grynodeb gweithredol yr adroddiad.