Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae ein blog diweddaraf yn edrych ar yr ystadegau a'r tueddiadau y tu ôl i ganser yng Nghymru a beth mae hyn yn ei olygu i ofal.

Woman and man sitting at a table in a lab, speaking.

Canser yw un o'r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy'n wynebu Cymru, ac mae'n cael effaith fawr ar bobl a systemau iechyd a gofal. Ac mae nifer y rhai sy’n cael diagnosis yn parhau i godi. Rhwng 2002 a 2019, cynyddodd nifer yr achosion canser yng Nghymru 27% o 16,055 i 20,392.

Mae bod â dealltwriaeth lawn o’r ystadegau a'r tueddiadau sy'n sail i ganser yng Nghymru yn golygu y gallwn wella'r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gwneud penderfyniadau strategol a gwella'r broses o ganfod a thrin canser yn gynnar.

Fel rhan o'n cyfres o adroddiadau ar ofal canser yng Nghymru, rydw i wedi gweithio fel rhan o'n tîm Gwybodaeth am y Sector i roi dadansoddiad manwl o dueddiadau canser yng Nghymru. Mae'r blog hwn yn crynhoi rhywfaint o'r gwaith hwn ac yn rhoi cipolwg i chi ar rai o'r ystadegau ac yn crynhoi chwech o'm syniadau ar ffactorau fel math o ganser, marwolaeth, canfod yn gynnar, cynnydd mewn triniaeth a chapasiti'r GIG.

1. Mae ein poblogaeth sy'n heneiddio yn sbarduno'r cynnydd mewn achosion o ganser

Fel y soniwyd ar ddechrau'r blog, mae nifer yr achosion o ganser wedi cynyddu 27% mewn ychydig dan 20 mlynedd. Fodd bynnag, os byddwch yn addasu'r ffigurau hyn ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, mae cynnydd cymharol fach o 2.2%. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r risg wirioneddol o ganser yn cynyddu'n sylweddol, ond yn hytrach mae proffil demograffig Cymru yn symud tuag at grwpiau oedran hŷn.

Mae cysylltiad agos rhwng canser a heneiddio oherwydd mwtaniadau yn ein genynnau sy’n digwydd dros amser a chysylltiad dos gyfnod hir â charsinogenau. Gall newidiadau yn ein corff wrth i ni heneiddio fel newid i hormonau, celloedd yn heneiddio a newidiadau yn y system imiwnedd hefyd ddylanwadu ar ddatblygiad canser.

Heb ymyrraeth sylweddol, bydd ein poblogaeth sy'n heneiddio yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

2. Rydyn ni'n gweld cyfraddau gwahanol fathau o ganser yn codi ac yn gostwng

Mae newid ffordd o fyw, ymddygiad a ffactorau demograffig, yn ogystal â chanfod ac atal canserau penodol yn gynnar yn well, yn arwain at newid yn nifer yr achosion.

Mae'r data'n dangos bod melanoma a chanser yr iau yn ddau fath sydd wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion. Mae ffactorau ffordd o fyw wedi cael dylanwad enfawr yng nghyswllt y ddau.

Gwelwyd naid ym Melanoma'r croen o 466 achos yn 2002 i 1,020 erbyn 2019. Mae arferion annigonol o ran amddiffyn rhag yr haul mewn cenedlaethau hŷn oedd â llai o ymwybyddiaeth o risgiau uwchfioled yn ystod eu hieuenctid wedi cael ei awgrymu fel rhywbeth sy’n cyfrannu’n sylweddol at gyfraddau melanoma uwch. Fodd bynnag, mae cyfraddau wedi bod yn sefydlogi ymysg pobl iau, sy’n awgrymu bod ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd yn gweithio.

Gyda chanser yr iau, bu cynnydd o 151 o achosion yn 2002 i 335 yn 2019. Mae ffactorau fel yfed gormod o alcohol, gordewdra ac ysmygu i gyd yn cael effaith fawr, ac mae modd atal bron i hanner yr achosion o ganser yr iau.

Rydyn ni wedi gweld gostyngiad mewn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser y stumog, a gwympodd 30% o 549 o achosion i 387. Gellir priodoli hyn i ddatblygu economaidd a chadw bwyd yn well, gyda defnyddio oergelloedd ar gyfer storio bwyd a thrafnidiaeth yn chwarae rhan fawr. Mae cyfraddau sy’n gostwng o haint Helicobacter pylori hefyd wedi sbarduno'r duedd hon ar i lawr.

3. Mae cysylltiad mawr rhwng amddifadedd a risg o ganser

Mae cyfraddau canser 25% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffactorau fel cyfraddau ysmygu, deiet, amlygiad i'r amgylchedd a mynediad at ofal iechyd yn ddylanwadol iawn.

Roedd pandemig Covid-19 wedi gwaethygu'r gwahaniaethau hyn. Roedd pobl mewn ardaloedd llai difreintiedig yn gwella'n gyflymach wrth gael diagnosis o ganser, sy'n awgrymu bod y rhai mewn ardaloedd difreintiedig wedi wynebu mwy o rwystrau i gael gafael ar ofal iechyd yn ystod y pandemig, fel ymweliadau â meddygon teulu a sgrinio rheolaidd. Ar ben hynny, gall gwahaniaethau mewn addysg ac ymwybyddiaeth iechyd gyfrannu at oedi wrth adnabod symptomau ac ymddygiad ceisio cymorth meddygol.

4. Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod o ran cyfraddau marwolaethau canser

Mae'r ystadegau'n dangos gostyngiad cyffredinol o 16.3% mewn marwolaethau oherwydd canser ers 2002. Mae hyn yn dangos sut mae gofal canser wedi datblygu dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae diagnosis cynnar drwy sgrinio ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ac atal drwy gynlluniau fel y brechlyn HPV wedi bod yn hanfodol yn hyn o beth.

Fodd bynnag, rydym yn gweld bwlch marwolaethau yn ehangu rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol. Mae marwolaethau o ganser yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bellach 53.8% yn uwch na'r ardaloedd lleiaf difreintiedig, gan dynnu sylw at yr angen brys am ymyriadau wedi'u targedu.

Mae gan rai canserau gyfraddau marwolaethau parhaus hefyd. Canser yr ysgyfaint yw'r canser mwyaf angheuol, sy'n amlygu'r angen am well sgrinio ac ymyrraeth gynnar. Rydym yn gweld rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth, megis gweithred Rhaglen Genedlaethol Cymru ar gyfer Sgrinio’r Ysgyfaint.

5. Mae her gynyddol o ran beth sy'n dod ar ôl goroesi canser

Yn gyffredinol, mae cyfraddau goroesi canser yn cynyddu. Mae cyfraddau goroesi am bum mlynedd wedi cynyddu o 51.7% yn 2002 i 63% yn 2019. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar y math o ganser a'r cam diagnosis, sy'n pwysleisio pwysigrwydd rhaglenni sgrinio gwell a llwybrau atgyfeirio cyflymach.

Mae'r cynnydd yn y cyfraddau goroesi hefyd yn golygu y dylem ystyried y boblogaeth gynyddol o oroeswyr canser yng Nghymru, sy'n gallu wynebu amrywiaeth o heriau o ran gofal iechyd. Gall problemau iechyd parhaus gan gynnwys dychweliad, canser eilaidd, sgil effeithiau triniaeth hirdymor a heriau iechyd meddwl gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd pobl ac adnoddau'r GIG. Felly, mae'n bwysig gwella'r cymorth ar ôl triniaeth er mwyn ystyried hyn.

6. Mae amseroedd aros a chapasiti'r GIG yn dal yn broblem enfawr ac yn flaenoriaeth i'w datrys

Mae targed triniaeth 62 diwrnod ar gyfer canser y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at fodloni 75% o gydymffurfiaeth ar ei gyfer, ond nid yw'r targed hwn yn cael ei gyrraedd ar hyn o bryd. Mae methu â chyrraedd y targed hwn yn tynnu sylw at y galw cynyddol am wasanaethau canser a’r straen ar y system gofal iechyd yng Nghymru.

Mae buddsoddi yn ein capasiti diagnosteg a thriniaeth yn hanfodol. Fel arall, bydd targedau amseroedd aros yn dal i gael eu methu a bydd y canlyniadau'n gwaethygu. Gall arweinwyr fynd i'r afael â'r her hon drwy symleiddio prosesau atgyfeirio a chynyddu'r gweithlu sy'n gysylltiedig â chanser, sydd wedi cael ei amlygu gan Ymchwil y Senedd.

Mae'r holl ystadegau hyn o'r adroddiad yn rhoi cipolwg cryf ar sut beth yw'r dirwedd canser yng Nghymru. Gallwn gael ein calonogi gan rai o'r ffigurau, sy'n dangos cynnydd cyffredinol o ran goroesi a marwoldeb. Fodd bynnag, mae rhai o'r niferoedd hyn yn tynnu sylw at y pwysau enfawr ar y system y mae ein GIG yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am dirwedd canser Cymru, darllenwch grynodeb gweithredol yr adroddiad.