Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ers lansio map llwybr Statws Carbon Sero Net yn 2021, mae sector cyhoeddus Cymru wedi bod yn unedig yn ei ymdrechion i gyrraedd nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2030. Ond pa mor agos ydym ni at y nod hwnnw? A pha gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma? Roedd y cwestiynau pwysig hyn yn flaenllaw yng Nghynhadledd Cynaliadwyedd GIG Cymru yn Abertawe eleni.

Cari-Anne Quinn speaking at the NHS Wales Sustainability Conference

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o noddi ail Gynhadledd Cynaliadwyedd flynyddol GIG Cymru ac roedd yn cynnwys sgyrsiau gan AstraZeneca, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Microsoft a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i enwi dim ond rhai. Dyma uchafbwyntiau’r digwyddiad.

Anghydraddoldebau iechyd ac effaith yr argyfwng hinsawdd

Mae’r angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn fater brys, gydag un siaradwr yn dweud: “os byddwn yn parhau fel yr ydym, yna fe fydd hi’n rhy hwyr”. Mae ein hiechyd yn dibynnu ar iechyd y blaned. Ni ddylid ystyried yr argyfwng hinsawdd ar ei ben ei hun, mae'n rhan o broblem lawer mwy.

Dywedodd Dr Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd: 

“Mae yna thema gyffredin, sef anghydraddoldebau. Anghydraddoldebau o ran achos yr argyfwng hinsawdd, ac anghydraddoldebau o ran effaith yr argyfwng hinsawdd. Y tlotaf sy'n cyfrannu leiaf at yr argyfwng hinsawdd yn y DU. Dros flwyddyn, 15% o bobl sy’n gwneud 70% o’r teithiau sy'n cael eu gwneud mewn awyren. Fodd bynnag, dydy hanner y boblogaeth ddim yn hedfan o gwbl. Ac os edrychwch chi ar effeithiau’r argyfwng hinsawdd, mae’n disgyn ar y bobl dlotaf.”

Mae Cymru'n wynebu rhai o'r lefelau uchaf o dlodi a chanlyniadau iechyd gwael yn y DU. Yn ystod y degawdau nesaf, bydd ein poblogaeth yn delio â hafau poethach a gaeafau oerach, a hynny mewn tai a chyfleusterau'r GIG sydd heb gael eu hadeiladu i ymdopi â'r naill begwn na'r llall. Gyda phoblogaeth sydd eisoes yn fregus, mae methu â gweithredu nawr yn peryglu llethu ein GIG gyda galw na allwn ymdopi ag ef.

Eglurodd aelod o'r Panel, Keith Reid, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol – Iechyd y Cyhoedd, Llywodraeth Cymru: 

“Y ffordd o fynd i'r afael â hyn yw edrych ar sut y gallwn sicrhau poblogaeth iachach, fel bod y galw cyffredinol am ofal iechyd yn gostwng. Y ffordd o wneud y bobl fwyaf bregus yn llai agored i niwed yw drwy fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.”

Arweinyddiaeth systemau a galluogi newid

Roedd thema a gododd dro ar ôl tro drwy gydol y sesiynau yn glir: mae angen ymgysylltu ar y lefel uchaf o fewn y byrddau a’r ymddiriedolaethau iechyd i sbarduno newid systemig, parhaol. Mae'r ymgyrch i sicrhau bod Cymru yn iachach, yn wyrddach ac yn fwy ffyniannus yn gofyn am ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny ac o'r brig i lawr. Nid oes modd gwneud hyn mewn seilos. Nid yn unig mae cydweithio ar bob lefel yn fuddiol, mae'n hanfodol.

Haws dweud na gwneud, wrth gwrs, ond os nad yw'n digwydd, beth mae hynny'n ei olygu i Gymru? Ers lansio Y Rhaglen Genedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Daclo’r Argyfwng Hinsawdd yn 2021, gwelwyd gostyngiad o 12% mewn allyriadau adeiladau a gostyngiad o 7% mewn allyriadau trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae cyfanswm yr allyriadau ar gyfer GIG Cymru wedi codi o filiwn tunnell o CO2e yn 2019 i 1.16 miliwn yn 2024.

Mae cydweithio’n allweddol

Gyda chynlluniau uchelgeisiol y wlad, mae'n hanfodol bod sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni’r nodau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Er bod prosiectau a mentrau arloesol yn gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, mae angen i fwy ddigwydd ac yn gyflymach er mwyn cyflawni sector cyhoeddus sero net ar y cyd erbyn 2030.

Roedd un prosiect sy'n digwydd ym Myrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Aneurin Bevan ar hyn o bryd wedi sefyll allan i mi. Maent wedi ymuno ag AstraZeneca ar brosiect Asthma SENTINEL sy'n ceisio mynd i'r afael ag effaith amgylcheddol asthma a'r driniaeth ar ei gyfer. Mae anadlyddion yn cynrychioli 3% o gyfanswm allyriadau'r GIG yn sgil yr anadlyddion SABA (Short-Acting Beta2-Agonist) sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae prosiect SENTINEL yn gweld cleifion yn symud o'u hen anadlyddion i rai newydd sydd 99.9% yn is o ran potensial cynhesu byd-eang. Mae canlyniadau prosiectau yn Lloegr wedi dangos bod 44,275 yn llai o anadlyddion SABA mewn cylchrediad, sy'n cyfateb i arbed 1,200 o CO2e.

Fel rhan o'r digwyddiad, cadeiriodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn, sesiwn ar bwysigrwydd arloesi ym maes gofal iechyd a'i rôl o ran darparu gofal iechyd cynaliadwy. Rhannodd aelod o’r panel, Dr Rachel Drayton, brosiectau nodedig sy'n digwydd yn Adran Iechyd Rhywiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. O blith y rhain, mae'r tîm wedi disodli sbecwla plastig untro gyda dewisiadau metel amldro ar gyfer archwiliadau o’r wain. Disgwylir i hyn arbed dwy dunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn. Maent hefyd wedi dechrau glanhau ac ailddefnyddio bagiau sbesimen a ddefnyddir i anfon samplau i'r labordy, gan leihau gwastraff ymhellach. Nid oes angen i bob prosiect fod yn fawr i wneud gwahaniaeth.

Beth nesaf?

Roedd Cynhadledd Cynaliadwyedd GIG Cymru 2025 wedi gwneud un peth yn glir. Mae'r llwybr tuag at Gymru wyrddach, iachach a ffyniannus yn genhadaeth ar y cyd sy'n gofyn am arweinyddiaeth, arloesedd a chydweithio. Drwy gydweithio ar draws sectorau, sefydliadau ac  arbenigeddau gallwn fanteisio ar y syniadau bach a mawr i greu dyfodol sy’n fwy gwydn, teg a chynaliadwy i Gymru.

Os na chawsom ni gyfle i gael sgwrs yn ystod y gynhadledd ond yr hoffech ddysgu mwy am sut gallwn ni weithio gyda’i gilydd a helpu i sbarduno arloesedd ar reng flaen gofal, cysylltwch â ni yn hello@lshubwales.com.