Trydydd parti

Mae Aimee Twinberrow, Arweinydd Arloesi Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru, yn archwilio realiti allgáu digidol ledled Cymru. Mae hi’n archwilio beth sydd angen digwydd i wneud yn siŵr y gall pobl yng Nghymru elwa ar dechnolegau digidol arloesol, gan nodi’r heriau unigryw y mae gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a’r prosiectau cyffrous sy’n cael eu cynnal i adeiladu cydraddoldeb digidol.

Decorative Graphic

Mae arloesedd digidol yn magu momentwm o fewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ar ôl gweithio ar reng flaen gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig Covid-19, fe welais yn uniongyrchol y twf cyflym yn y defnydd o dechnolegau ac apiau digidol i gefnogi pobl gyda’u hiechyd a’u lles. Er enghraifft, dosbarthodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dechnoleg seinyddion clyfar i helpu pobl i droi’r teledu ymlaen a thasgau eraill sy'n gysylltiedig â systemau clyfar. Efallai y bydd nifer ohonom yn cymryd technoleg o’r fath yn ganiataol ond, i’r rhai sydd heb lawer o brofiad gyda thechnolegau digidol, gall newid bywydau. 

Does dim dwywaith bod dyfodol digidol yn dod i’r amlwg. Serch hynny, i integreiddio technolegau newydd yn effeithiol, rhaid i ni yn gyntaf sefydlu sylfaen gref i adeiladu arni. Mae’n bwysig trafod yr ystyriaethau allweddol y mae angen i ni eu cadw mewn cof er mwyn helpu i greu system gynhwysol ar gyfer arloesedd digidol mewn gofal cymdeithasol ac i ddangos beth rydyn ni eisoes yn ei wneud i wireddu hynny. 

Mae'r dyfodol digidol rydw i’n ei ddychmygu yn un sy'n grymuso staff i ddarparu'r gofal gorau ac ategu’r arbenigedd cyfredol a chefnogi dinasyddion i gael mynediad at y gofal iawn ar yr amser iawn. 

Ar-lein neu all-lein? Realiti tirlun digidol Cymru 

Mae’n hawdd cymryd ein mynediad â’r rhyngrwyd yn ganiataol, p'un a ydym yn defnyddio ffôn clyfar, llechen neu liniadur. Serch hynny, nid yw hyn yn realiti sy’n cael ei rannu gan bawb ar draws Cymru. Amcangyfrifir nad yw 7% o oedolion ar-lein, ac mae nifer yr unigolion nad ydynt yn gysylltiedig â’r rhyngrwyd yng Nghymru ar hyn o bryd ymhlith yr uchaf yn y DU. Yn 2019 – 2020, mae 40% o aelwydydd un pensiynwr heb fynediad i’r rhyngrwyd.   

Serch hynny, yn groes i’r gred boblogaidd, nid oedolion hŷn yn unig sy’n parhau wedi’u datgysylltu. Mae pobl sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor, pobl sy’n ddi-waith neu ar incwm is, pobl y mae eu cyrhaeddiad addysgol yn is na'r cyfartaledd a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, ymhlith y rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae angen i’r drafodaeth am arloesedd mewn iechyd digidol ystyried yr argyfwng costau byw presennol hefyd sy'n rhoi straen ychwanegol ar deuluoedd a chymunedau, gan greu risg o gynyddu nifer y bobl sy’n cael eu datgysylltu’n ddigidol. Waeth beth fo'u statws economaidd-gymdeithasol, iechyd, oedran, neu anabledd, mae pawb yn haeddu'r cyfle i gael eu cynnwys yn ddigidol er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau iawn ar yr amser iawn, pe bai angen iddyn nhw wneud hynny. 

Yr heriau unigryw sy’n wynebu gofal cymdeithasol yng Nghymru 

Mae ein staff gofal cymdeithasol yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod pobl ar draws Cymru yn cael eu cynrychioli, yn derbyn gofal ac yn cael eu grymuso i fyw eu bywydau hyd eithaf eu gallu. Serch hynny, gall gweithredu technolegau newydd ddod â heriau unigryw. Does dim un ateb yn mynd i weithio ym mhobman ym maes Gofal Cymdeithasol. Gall yr hyn sy'n gweithio'n dda mewn un maes fod yn fwy heriol i'w weithredu mewn meysydd eraill, hyd yn oed gyda phethau y byddai rhai yn ei ystyried fel technolegau sylfaenol fel WiFi. 

Er enghraifft, mae cartrefi gofal mewn ardaloedd gwledig yn debygol o fod dan anfantais oherwydd cyflymder cysylltedd arafach, gan greu rhwystrau i fabwysiadu arloesedd sy'n dibynnu ar gysylltiad â’r rhyngrwyd i gyflenwi data yn effeithlon. Yn ffodus, mae cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal yn gwella, ac mae dogfen Llywodraeth Cymru ar Safonau Digidol mewn Cartrefi Gofal yn amlinellu’r  safonau cysylltedd disgwyliedig ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru. 

Serch hynny, mae angen i ni ystyried heriau eraill sy’n anoddach i’w mesur. Gall sgiliau staff, y gallu i integreiddio technolegau newydd yn gyflym a chyfyngiadau amser ei gwneud yn anodd integreiddio technolegau newydd. 

Dyma lle mae'n hollbwysig cynnal deialog agored gyda staff gofal cymdeithasol, gan gydweithio â nhw - o fabwysiadu arloesedd i weithredu, a thu hwnt. Mae eu mewnwelediad yn amhrisiadwy i'r llwybr arloesi wrth iddyn nhw brofi'n uniongyrchol yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan bobl sy'n rhyngweithio â gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae gwrando arnyn nhw yn golygu y gallwn lywio arloesedd i’r mannau lle mae ei angen fwyaf, gan sicrhau canlyniadau, a sicrhau ei fod yn help go iawn i’n gwasanaethau rheng flaen. 

Heriau yw sylfaen cyfle, cydweithio a llwyddiant

Mae heriau yn dir ffrwythlon i gyfleoedd ffynnu. Er gwaethaf y materion cymhleth sy’n ein hwynebu, mae nifer o sefydliadau yn gweithio mewn partneriaeth i ddod o hyd i atebion. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n darganfod ffyrdd newydd o gydweithio i adeiladu Cymru sy’n gynhwysol yn ddigidol. 

I greu cenedl sy’n gynhwysol yn ddigidol, mae angen dull integredig sy'n rhoi'r sgiliau a'r mynediad sydd eu hangen ar bobl i ymgysylltu â'r byd digidol, ac o ganlyniad, unrhyw arloesedd mewn gofal cymdeithasol. Caiff hyn ei wneud yng Nghymru drwy Cymunedau Digidol Cymru, rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Cwmpas, sy’n rhan o strategaeth cynhwysiant digidol ehangach. 

Mae'n gweithio gyda sefydliadau i'w helpu i ymwreiddio cynhwysiant digidol ac i rymuso pobl drwy gynyddu sgiliau digidol. Rhwng 2019 – 2022, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi: 

  • Cefnogi 76,986 o bobl i wella sgiliau digidol sylfaenol
  • Helpu 4377 o staff iechyd a gofal cymdeithasol (cyhoeddus, preifat a thrydydd sector) i ddod yn hyderus yn ddigidol 
  • Ymgysylltu â 1648 o sefydliadau 
  • Hyfforddi 2160 o wirfoddolwyr i ddarparu cymorth digidol i bobl yng Nghymru.  

 

Rydyn ni’n gwybod bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn awyddus i ddefnyddio data ac arloesedd yn effeithiol i wella gofal, cynllunio, dyrannu adnoddau a chydweithio rhwng timau. Amlygir yr uchelgais hon yn ‘Cynllun Darparu Cymru iachach: strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol 2022 i 2023’ gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. 

Bwriad y polisi yw sicrhau y gall arloesedd digidol ffynnu mewn gofal cymdeithasol. Mae’n gam amhrisiadwy i uwchsgilio ein staff ac i ofalu am y bobl ledled Cymru a fyddai’n elwa fwyaf o dechnolegau newydd. 

Un cam ar y tro: Ffurfio'r llwybr i ddyfodol digidol cynhwysol gyda’n gilydd 

Mae fy ngwaith gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys asesu lle gallwn fynd nesaf gydag arloesedd digidol. Rydyn ni’n edrych ar strwythurau cyfoes sy’n cefnogi arloesedd digidol yng Nghymru a lle bo angen cymorth pellach i helpu staff i fabwysiadu technolegau newydd. Rydyn ni eisiau meithrin diwylliant sy'n annog ac yn cefnogi’r defnydd o arloesedd digidol, yn ogystal â darparu cyfrwng iddyn nhw ddefnyddio'r arloesedd (cysylltiad â’r rhyngrwyd, mynediad at offer, etc.)  

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn dechrau gweithio gyda phartneriaid i symud yr agenda arloesedd digidol yn ei blaen, gyntaf oll drwy gynhyrchu asesiad sylfaenol o gynhwysiant digidol yn y sector, ac yna rhaglen waith i gefnogi cynhwysiant. Bydd gweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn hanfodol i roi cymorth i ofal cymdeithasol yng Nghymru gan nodi arloesedd digidol deinamig a helpu i fabwysiadu technolegau sydd wedi’u profi yn ehangach. 

Fel rhan o’m rôl, bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartner allweddol gyda’u hymrwymiad diwyro at lywio arloesedd at reng flaen gofal cymdeithasol, sydd eisoes yn amlwg drwy gefnogi prosiectau digidol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chartrefi gofal Gwent, gyda’u profiad a'u harbenigedd sylweddol i arwain y daith o'r dechrau i'r diwedd. 

Bydd arloesedd yn parhau, ac mae’n gyfnod cyffrous i gymryd rhan ac i weld yr effaith sy’n newid bywydau. Serch hynny, rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod angen cael y pethau sylfaenol yn iawn er mwyn i gynhwysiant digidol ddod yn llinyn euraidd sydd wedi’i wreiddio mewn dealltwriaeth gref o anghenion, ac sydd wedi’i blethu drwy’r holl wasanaethau a ddarparwn ar gyfer pobl Cymru. 

Rydyn ni'n dechrau adeiladu'r sylfaen gref hon, a does gen i ddim amheuaeth bod dyfodol digidol ffyniannus ar y gweill i ofal cymdeithasol. Mae’r dyfodol nawr – gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i wneud iddo ddigwydd. 

Os ydych yn gweithio mewn gofal cymdeithasol ac wedi nodi her sy’n galw am ateb arloesol, gadewch i ni siarad. I ddechrau’r sgwrs, cwblhewch ein ffurflen ymholiad arloesi a gweld beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd. 

 


Ynglŷn ag Aimee: 

Gyda 15 mlynedd o brofiad mewn swyddi gofal cymdeithasol gwahanol, mae Aimee wedi wynebu profiadau trawsnewidiol sydd wedi ehangu ei phersbectif ar fywyd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwys, mae hi wedi cael cipolwg gwerthfawr o’r angen am ddulliau arloesol i gefnogi pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu darparu. 

Fel Arweinydd Arloesedd Digidol Gofal Cymdeithasol Cymru, mae ganddi rôl hollbwysig o ran siapio agwedd y sefydliad tuag at arloesedd digidol. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys cynnig arbenigedd ac arweiniad, casglu a rhannu tystiolaeth ar ddulliau digidol a bwrw ati i chwilio am gyfleoedd i wella’r cymorth ar gyfer arloesedd digidol. Mae Aimee o’r farn y bydd dysgu o’r gorffennol, cydnabod y presennol ac ymdrechu'n barhaus am well canlyniadau yn y dyfodol yn allweddol i ddatgloi potensial llawn arloesedd digidol mewn gofal cymdeithasol.