Bydd Canolfan Pentre Awel yn agor yng Ngwanwyn 2025, a bydd yn gonglfaen arloesi, iechyd a thwf economaidd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli.
Bydd Canolfan Pentre Awel yn agor yng Ngwanwyn 2025, a bydd yn gonglfaen arloesi, iechyd a thwf economaidd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli. Bydd cam cyntaf y datblygiad 83 erw hwn yn dod â busnesau, ymchwilwyr a'r gymuned at ei gilydd mewn amgylchedd deinamig sy'n canolbwyntio ar iechyd, hamdden ac arloesedd blaengar.
Cyfleusterau Integredig ar gyfer Ymchwil, Busnes ac Arloesedd
Bydd Canolfan Pentre Awel yn cynnwys pum adeilad cydgysylltiedig sydd wedi’u dylunio i gefnogi busnesau a sefydliadau o bob maint. Mae’r ganolfan fusnes yn cynnig swyddfeydd hyblyg sy’n dechrau o 200 troedfedd sgwâr, gyda WiFi cyflym, ystafelloedd cyfarfod, a chyfle i gael mynediad 24 awr. Bydd yr ail lawr yn cynnwys mannau deori sydd wedi’u dylunio i gefnogi cydweithio ac arloesi, yn enwedig yn y sectorau gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cynlluniau hefyd i ddarparu labordai ar y llawr gwaelod, yn amodol ar y galw yn y farchnad. Bydd camau yn y dyfodol yn darparu amrywiaeth o lety preswyl â chymorth, gan sefydlu man profi i dreialu gwasanaethau a dyfeisiau technoleg feddygol.
Iechyd a Llesiant yn Ganolog
Bydd y datblygiad hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd a llesiant, gan gynnwys cyfleusterau adsefydlu, canolfan hamdden gyda phyllau nofio, a champfa. Bydd yn gartref i wasanaethau gofal iechyd sy’n cael eu rhedeg gan bartneriaid allweddol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe, gan atgyfnerthu ei hymrwymiad i lesiant ac arloesedd meddygol.
Partneriaethau Datblygu Addysg a Sgiliau
Mewn cydweithrediad â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach academaidd o’r radd flaenaf, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, bydd Pentre Awel yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, prentisiaethau ac ymchwil. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau yn y dyfodol.
Effaith Economaidd a Thwf Rhanbarthol
Mae Canolfan Pentre Awel wedi rhagweld y bydd yn creu 1,800 a mwy o swyddi ac yn cyfrannu £467 miliwn at yr economi leol dros y 15 mlynedd nesaf. Mae ei leoliad strategol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ag Abertawe, Caerdydd a’r tu hwnt, yn sicrhau y bydd yn chwarae rhan allweddol o ran sbarduno twf economaidd rhanbarthol.
Ymrwymiad i Gynaliadwyedd ac Ansawdd Bywyd
Ochr yn ochr â Llwybr Arfordir y Mileniwm, mae Pentre Awel yn blaenoriaethu cynaliadwyedd gyda mannau gwyrdd, gerddi synhwyraidd, llwybrau cerdded a beicio, a golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr. Mae’r integreiddiad meddylgar hwn o natur yn gwella ansawdd bywyd y preswylwyr a’r gweithwyr. Gan ystyried ei heffaith amgylcheddol, bydd Canolfan Pentre Awel yn lleihau ei hôl troed carbon drwy ddefnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar ffotofoltäig, gwefru cerbydau trydan ac awyru naturiol a golau dydd. Bydd gan y ganolfan statws BREEAM rhagorol.
Ymuno â Chymuned sy’n Ffynnu
Mae Pentre Awel yn cynnig cyfle unigryw i bartneriaid yn y diwydiant gydweithio â sefydliadau iechyd ac academaidd, gan sbarduno arloesedd a thwf ym maes gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sicrhau eich lle ym Mhentre Awel i weithio mewn partneriaeth â’r maes iechyd a’r byd academaidd, cysylltwch â’r tîm busnes ac arloesi yn Pentreawel@carmarthenshire.gov.uk
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
“Mae Canolfan Pentre Awel yn cynnig y cyfle unigryw i fusnesau ymuno â chwmnïau o’r un anian mewn adeilad o’r radd flaenaf, sy’n gartref i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Byddwn yn annog unrhyw fusnesau i gofrestru eu diddordeb a gweld beth sydd gan Ganolfan Pentre Awel i’w gynnig”.