Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025 ac i'r prosiectau a gyrhaeddodd y rhestr fer!
Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu llwyddiannau rhagorol ac ymroddiad staff iechyd a gofal ledled Cymru. Ni yw’r prif noddwyr, ac rydyn ni'n falch o gefnogi digwyddiad sy'n rhoi llwyfan i’r holl waith gwella ansawdd amrywiol sy'n cael ei wneud ledled Cymru. Mae pob prosiect sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn dangos ymroddiad y timau sy'n gweithio'n ddiflino i drawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl Cymru.
Roedd sylwadau agoriadol Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn crisialu ysbryd y digwyddiad, wrth iddo dynnu sylw at y ffaith bod y gwobrau’n gyfle i gydnabod llwyddiannau eithriadol, ond hefyd yn gyfle i fyfyrio ar yr ymdrechion parhaus sy'n cael eu gwneud bob dydd i wella bywydau ledled y wlad. Pwysleisiodd Jeremy Miles y ffaith bod sicrhau ansawdd a diogelwch yn rhan greiddiol o’n huchelgais ar y cyd, a bod y prosiectau oedd yn cael eu dathlu yma yn enghreifftiau pwerus o'r uchelgais hwnnw ar waith.
Eleni, cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Jacqueline Totterdell, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar. Bu Jacqueline yn anrhydeddu’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r enillwyr am eu cyfraniadau ysbrydoledig, gan danlinellu’r ffaith bod gan Gymru gymaint i'w gynnig, a bod y 36 o dimau a phrosiectau a gyrhaeddodd y rhestr fer ac a oedd yn cael eu cynrychioli yn yr ystafell yn rhan wych o hynny.
Enillwyr y gwobrau
Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
Canolfan Ganser Felindre, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre - Gwasanaeth Gwenwyndra Imiwnotherapi De Ddwyrain Cymru
Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Un Atgyfeiriad, Un Ymweliad: Gofal Integredig Prydlon ar gyfer Llyncu, Maeth a Rheoli Meddyginiaeth mewn Cartrefi Gofal
Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Cychwyn Offerynnau Diagnostig Asesu Cartref ar gyfer Profi yn y Man lle y Rhoddir Gofal mewn Cleifion Gofal Cefnogol a Lliniarol Cymunedol i Hwyluso Gofal Gartref mewn Cyflyrau Diwedd Oes sy’n Cyfyngu ar Fywyd
Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Sefydlu Rhestrau Theatr Trosiant Dwysedd Uchel ac felly Rhestrau Theatr Nifer Uchel o Achosion Cymhlethdod Isel yn Uned Llawfeddygaeth Ddydd Nevill Hall
Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru - Hunan-samplu Cymunedol ar gyfer Clamydia, Gonoroea, Syffilis, HIV, Hepatitis B a Hepatitis C yng Nghymru
Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Gwerthusiad o’r Gwasanaeth Cyswllt Alcohol a Chwmpasu i Ddatblygu Gwasanaeth wedi’i Gyd-gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn i Fodloni Anghenion y Boblogaeth yn y Ffordd Orau
Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Boed i'r Torasgwrn Breuder Cyntaf fod yr Olaf!
Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Mewnwelediadau Cydweithredol ar gyfer Atebion Staffio Cynaliadwy
Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
Tîm PERIPrem Cymru Gyfan - Rhagoriaeth Amenedigol i Leihau Anafiadau mewn Genedigaethau Cynamserol Cymru: Lleihau Amrywiadau mewn Optimeiddio Amenedigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru ar gyfer 'Pob Babi Bob Tro'
Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Data wedi'i Ddatgloi: Mewnwelediadau Amser Real sy’n Grymuso Pob Nyrs
Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - GO Wales:Emboleiddio Rhydwelïau’r Ben-glin ar gyfer Trin Poen Osteoarthritis y Pen-glin yng Nghymru
Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Ymateb i Gwympiadau: Lleihau Niwed drwy Rymuso Staff Cartrefi Gofal a Staff Gofal yn y Cartref
Rydyn ni'n arbennig o falch o weld y prosiect Hyfforddiant Realiti Rhithwir rydyn ni’n ei gefnogi, sef Gofal Integredig Prydlon ar gyfer Llyncu, Maeth a Rheoli Meddyginiaeth mewn Cartrefi Gofal, yn ennill Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru. Mae'r llwyddiant hwn yn dangos sut gall dulliau arloesol wneud gwelliannau mesuradwy o ran darparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Mae'r modiwl Hyfforddiant Realiti Rhithwir yn rhoi senarios realiti rhithwir sy’n defnyddio technoleg ymgolli i staff gofal cymdeithasol er mwyn gwella eu sgiliau wrth reoli anawsterau llyncu. Mae'r dull ymarferol hwn yn un sy'n ennyn diddordeb y staff, ac mae’n eu galluogi i fagu hyder wrth ymateb i argyfyngau, heb risg i gleifion, gan wella diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal yn y pen draw. Erbyn hyn, yn sgil llwyddiant y prosiect, mae’n cael ei gyflwyno’n ehangach ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan osod safon newydd ar gyfer datblygu'r gweithlu ym maes gofal cymdeithasol.
Dywedodd Azize Naji, Prif Swyddog Gweithredol Goggleminds:
“Mae cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, a gweithlu’r dyfodol, yn anrhydedd fawr inni, a dim ond yn sgil y bobl a'r partneriaid o'n cwmpas y mae’n bosibl inni wneud hyn. Rydyn ni’n arloeswyr blaenllaw yn y maes hwn, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi cael ein cydnabod gan y gwobrau hyn, ond hoffem gyflwyno’r wobr i'r holl weithwyr proffesiynol rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n ddiflino, gyda thrugaredd ac ymroddiad, i roi’r gofal gorau posibl yn ein hysbytai a'n cymunedau. Nhw yw'r rhai sy'n gwneud y byd o'n cwmpas yn lle gwell. Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi mwy a mwy o gefnogaeth i ofal cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt, ac at rannu cyhoeddiadau cyffrous yn y flwyddyn newydd.”
Dywedodd Louise Baker, Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae ennill Gwobr GIG Cymru am Ofal Amserol yn fwy na dim ond cydnabyddiaeth, mae'n ddathliad o'r hyn sy'n bosibl. Mae’n cadarnhau bod asesiadau rhithwir ac efelychiadau ymgolli yn ffordd rymus o ailgynllunio a thrawsnewid hyfforddiant ar gyfer staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan ysbrydoli’r diwydiant i ystyried ffyrdd newydd o arloesi, a chreu gwell canlyniadau i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.”
Dywedodd Jodie Miller, Ymarferydd Cyswllt Therapi Iaith a Lleferydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae wedi bod yn fraint darparu hyfforddiant amlddisgyblaethol drwy gynnwys technoleg yn ein gwaith ac annog staff i ddefnyddio offer digidol sy'n gwella’r dysgu ac yn magu hyder. Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o dîm mor gydweithredol, ac o gael ein cydnabod gan Wobrau GIG Cymru. Drwy hwyluso amgylchedd dysgu sy’n defnyddio technoleg ymgolli, rydyn ni’n galluogi staff i roi damcaniaethau dysgu ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol yn y byd go iawn; rydyn ni’n cryfhau ein perthnasoedd gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y diwydiant; ac, yn y pen draw, rydyn ni’n gwella’r canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n agored i niwed. Wrth edrych i'r dyfodol, rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i sbarduno arloesi digidol ac integreiddio technoleg wrth ddarparu gwasanaethau arferol.”
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae Gwobrau GIG Cymru yn parhau i roi llwyfan i’r gwaith ysbrydoledig a dylanwadol sy’n gwella gwasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau ledled Cymru. Fel prif noddwr, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o gefnogi’r gwobrau, sy’n dathlu rhagoriaeth ac arloesedd. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr ac i’r rhai a enwebwyd eleni am eu cyfraniadau rhagorol."
Mae rhagor o wybodaeth am bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a’r enillwyr ar gael yma.