Mae'r sector deinamig hwn yn datblygu'n barhaus ac mae amryw o dueddiadau yn y diwydiant gwyddorau bywyd. Ein rôl fel tîm gwybodaeth sector yw eich helpu chi i gadw golwg ar hyn. Edrychwch ar fy mlog sy'n crynhoi rhai o'r prif dueddiadau rydyn ni'n eu gweld drwy ein hymchwil a'n dadansoddiad.

Beth yw gwyddorau bywyd?
Cyn i ni drafod y tueddiadau, gall trosolwg cyflym o ystyr gwyddorau bywyd ein helpu i roi ffocws ar y tueddiadau perthnasol. Mae gwyddorau bywyd yn faes eang ac yn cyfeirio at astudio unrhyw organebau byw. Gallai hyn fod yn unrhyw beth o anatomeg i sŵoleg.
I ni sy'n gweithio ac yn arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae'r diwydiant gwyddorau bywyd yn cyfeirio at feysydd fel ffarmacoleg, biotechnoleg, niwrowyddoniaeth, biocemeg a geneteg. Yn gryno, rhoi ar waith y meysydd hyn i wella iechyd a lles.
Yma yng Nghymru, mae gennym ecosystem arloesol gymhleth, ond deinamig ym maes gwyddorau bywyd. Rydym yn aml yn cymharu hyn â thi o gonglfeini: diwydiant, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a'r byd academaidd. Mae'r tri hyn yn cynnwys rhwydwaith cymhleth o fudiadau, sefydliadau, grwpiau ac adnoddau.
Fel rhan o’n gwaith fel tîm rydym yn dadansoddi ac yn ymchwilio i wybodaeth sy'n berthnasol i arloesi ym maes gwyddorau bywyd ar draws pob un o'r rhain. Dyma rai o'r tueddiadau rydyn ni'n eu gweld yn gyson yng Nghymru.
1. Mae twf ym maes gwyddorau bywyd yng Nghymru
Mae'n ymddangos bod twf hirdymor am fod yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS) yn dangos bod trosiant wedi bod yn tueddu i gynyddu ers 2014 i’w lefel uchaf erioed o £2.85 biliwn yn 2022, cynnydd o 8.6% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yng Nghymru mae pwyslais cryf o hyd ar Dechnoleg Feddygol ond mae'r sector Biofferyllol hefyd wedi dangos cyfraddau twf cryfach nag o'r blaen.
Nodwedd nodedig arall sy'n dangos gweithgarwch y diwydiant gwyddorau bywyd yng Nghymru yw ei dwf parhaus mewn busnesau a swyddi gwyddorau bywyd. Yn 2022, gwelsom gynnydd o 2.9% mewn busnesau o'r flwyddyn flaenorol i 319. Cafwyd cynnydd o 5.5% hefyd yn nifer y bobl a gyflogwyd ym maes gwyddorau bywyd yn 2022 i 13,385.
2. Mae Cymru yn dod i'r amlwg yn rhyngwladol fel model ar gyfer datblygu seilwaith cymorth
Mae Cymru wedi llwyddo’n arbennig i ddatblygu parciau gwyddoniaeth a arweinir gan brifysgolion, sydd yn ei dro’n hwyluso'r broses o drosglwyddo gwybodaeth rhwng y byd academaidd a diwydiant.
Mae’r parciau gwyddoniaeth dan arweiniad prifysgolion yn adlewyrchu'r gydnabyddiaeth gynyddol o arwyddocâd lleoliad o fewn strategaethau ymchwil ac arloesi, fel y dangosir gan y rôl ganolog sy'n cael ei chwarae gan M-SParc (Prifysgol Bangor), ArloesiAber (Prifysgol Aberystwyth), a Champws Arloesedd Caerdydd (Prifysgol Caerdydd).
Tanlinellwyd potensial Cymru i ddisgleirio hyd yn oed ymhellach yn y maes hwn mewn gwerthusiad a wnaed yn 2022 gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a nododd y gallai Cymru fanteisio ar ei photensial i gynnig ansawdd bywyd uchel a chydbwysedd rhwng gwaith a bywyd fel mantais unigryw, o'i gymharu â pharciau gwyddoniaeth mwy yn y DU.
3. Mae gwyddorau bywyd yn ffocws sylweddol i'r byd academaidd yng Nghymru
Mae Cymru’n helpu i baratoi'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ym maes gwyddorau bywyd. Yn ogystal â bod yn gartref i nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, mae ffocws sylweddol ar addysgu gwyddorau bywyd ym mhrifysgolion Cymru.
Dangosodd data a ddadansoddwyd gennym gan HESA a Stats Cymru fod dros 20% o fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ym mhrifysgolion Cymru yn astudio cyrsiau sy'n gysylltiedig â gwyddorau bywyd. Yn unol â hyn, mae dros 30% o staff sy'n addysgu ym mhrifysgolion Cymru yn addysgu cyrsiau sy'n gysylltiedig â gwyddorau bywyd. Mae Caerdydd yn sefyll allan, gyda bron i 40% o academyddion ym maes gwyddorau bywyd wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ogystal â pharatoi'r genhedlaeth nesaf, mae prifysgolion Cymru hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil ac arloesi ym maes gwyddorau bywyd. Mae canlyniadau diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) – sy'n gwerthuso ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU – yn dangos bod prifysgolion Cymru yn y safleoedd uchaf ar gyfer gwyddorau bywyd.
Mae Prifysgol Abertawe ymhlith y deg uchaf (6ed) o sefydliadau'r DU yn gyffredinol ar gyfer ymchwil mewn 'Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth', tra bod Prifysgol Caerdydd ymhlith y deg uchaf (10fed) yn gyffredinol ar gyfer 'Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth'. Sicrhaodd y ddwy brifysgol hyn ragoriaeth yn eu hymchwil yn y meysydd hyn, gyda mwy na 50% o'u hymchwil yn cyrraedd safonau 4* (y sgôr uchaf a ddyfernir yn y REF). Roedd 'Proffesiynau Iechyd Perthynol, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth' yn faes o gryfder amlwg ledled Cymru, gyda phump o'r wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn cynnal ymchwil o ansawdd uchel yn y maes hwn.
Gan gyfrannu at ragoriaeth Abertawe mewn ymchwil, un o'r adnoddau allweddol a ddefnyddir ar gyfer ymchwil sy'n ymwneud â data mawr yw’r banc data ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), banc data poblogaeth sy'n cynnwys data iechyd a gweinyddol gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol dienw o bob cwr o Gymru. Mae wedi'i disgrifio fel un o'r setiau data poblogaeth helaethaf yn y byd.
Yn y cyfamser, mae safle cryf Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth i’w weld yn y canolfannau a’r sefydliadau niferus, gan gynnwys y Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl sydd newydd agor, y Sefydliad Ymchwil Dementia, Canolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd a'r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol. Un o'r cynlluniau arloesol y mae'r arbenigedd hwn wedi arwain ato yw cydweithrediad â chwmni fferyllol amlwg Takeda i nodi dulliau newydd o drin sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig eraill.
4. Mae Cymru’n ffynnu fel lle ar gyfer lansio datblygiadau arloesol newydd ym maes gwyddorau bywyd
Nid datblygiad newydd o reidrwydd yw ein henghraifft olaf o addewid yng Nghymru, ond rydyn ni wedi gweld tystiolaeth o gryfder Cymru fel hwb ar gyfer lansio datblygiadau arloesol newydd.
Mewn adroddiad yn 2023 gan Octopus Ventures, nodwyd bod Prifysgol Caerdydd yn perfformio’n gryf o ran y cwmnïau sy’n deillio o’r brifysgol, gan ddod yn 4ydd yn y DU o ran 'sgôr effaith entrepreneuraidd'. Mae'r sgôr yn cael ei gyfrifo yn ôl y dangosyddion mwyaf hanfodol sy'n dylanwadu ar y cwmnïau sy’n deillio o brifysgolion: y syniadau a gyflwynir, patentau, y cwmnïau deillio a grëwyd, a thrafodion ariannol dilynol sy'n gysylltiedig â’r cwmnïau deillio.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn hwb amlwg lle mae cwmniau’n deillio o’r brifysgol. Yn 2025 roedd yn nawfed yn y DU am nifer y cwmnïau a ffurfiwyd ers 2011, ac roedd ar y brig yng Nghymru. Gyda 58 o gwmnïau wedi'u creu, roedd Prifysgol Abertawe’n unig yn gyfrifol am 55% o'r holl gwmnïau deillio yng Nghymru.
Fel y mae'r blog hwn yn ei ddangos, mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn ddeinamig ac yn llawn cyfleoedd i sicrhau twf-uchel. Gall ein tîm gwybodaeth sector gefnogi'ch sefydliad trwy ein hymchwil a'n canllawiau i roi'r wybodaeth gywir i chi am y datblygiadau arloesol ym maes gwyddorau bywyd ac iechyd a gofal cymdeithasol. Rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi.