Mae Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn rhan o uchelgais ehangach i wella canlyniadau i gleifion canser ledled Cymru. Mewn blog gwadd, mae James Ansell, Llawfeddyg y Colon a’r Rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn egluro pam fod y dull deinamig hwn mor gyffrous a sut mae llawdriniaethau â chymorth roboteg yn newid bywydau ac yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl.
Canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru ond mae llwybrau diagnostig arloesol yn gwneud cynnydd i wella amseroedd triniaeth. Fel rhan o uchelgais genedlaethol i wella canlyniadau i gleifion canser, lansiodd Llywodraeth Cymru Raglen Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn 2022.
Mae’r dull chwyldroadol hwn yn galluogi llawdriniaethau i gael eu cynnal gydag offer llawfeddygol robotig hynod ddatblygedig a reolir gan y llawfeddyg gan ddefnyddio rheolyddion consol. Yn y cyfamser, bydd y llawfeddyg yn edrych ar y llawdriniaeth ar sgrin manylder uchel. Dyma’r rhaglen lawfeddygol robotig genedlaethol gyntaf yng Nghymru, ac mae’n bartneriaeth rhwng CMR Surgical a byrddau iechyd Cymru.
Fel llawfeddyg y colon a’r rhefr ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’n fraint bod ar flaen y gad o ran arloesi ym maes roboteg ac mae’n gyffrous gweld ffiniau’n cael eu gwthio. Diolch i’r dechnoleg hon, rydym yn gallu cynnal llawdriniaethau ar diwmorau nad oeddem yn gallu cynnal llawdriniaethau arnynt o’r blaen, sy’n newid bywydau cleifion, eu teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn golygu ein bod yn camu’n hyderus tuag at ffyrdd newydd o weithio gyda’n gilydd ar raddfa genedlaethol i wella gwasanaethau.
Dechreuodd fy mhrofiad gyda roboteg ym Minnesota yn 2018 lle cefais gyfle i ddysgu sut i gynnal llawdriniaeth roboteg yn y Mayo Clinic. Jared Torkington (Arweinydd Clinigol y Rhaglen Genedlaethol Llawdriniaeth â Chymorth Robot) a gychwynnodd y sgwrs am gyflwyno roboteg yng Nghymru, wedi’i hysbrydoli gan y llawdriniaethau â chymorth roboteg yn y Mayo Clinic. Yr uchelgais oedd cysylltu byrddau iechyd Cymru ar raglen genedlaethol, gan alluogi ffordd newydd o weithio drwy gymharu canlyniadau llawfeddygol a rhannu arferion gorau. Dyma’r cyntaf yn y byd; rydym yn awyddus i fanteisio ar seilwaith a maint unigryw Cymru er mwyn gwireddu hyn.
Pethau i’w cyflawni, data, canlyniadau a manteision
Prif fwriad Rhaglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yw gwella canlyniadau canser i bobl ledled Cymru. Mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan, ac yn cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd cleifion. Mae llawdriniaeth robotig yn llawer llai ymwthiol, sy’n golygu bod cleifion yn treulio llai o ddiwrnodau yn yr ysbyty yn gwella ar ôl llawdriniaeth, ac yn gallu dychwelyd adref yn gynt at deulu a ffrindiau. Mae breichiau’r robot yn ei gwneud yn haws o lawer i weithio ar y corff dynol, gan leihau’r risg o hernia, poen a thrawma i feinweoedd cyfagos wrth gael dyraniad o’r coluddyn.
Mae cynnydd yn digwydd y tu allan i’r theatr llawdriniaethau hefyd. Mae dulliau casglu data yn newid ac rydym yn croesawu digidoleiddio fel ffordd o wella. Yn draddodiadol, byddai cofnodion llawfeddygol yn cael eu hysgrifennu â llaw a’u mewnbynnu â llaw i systemau TG. Mae robotiaid Versius, sy’n cael ei ddarparu gan CMR Surgical, yn newid hyn.
Mae cod QR unigryw ar bob robot yn cael ei sganio drwy ap cyn cynnal llawdriniaeth, sy’n llwytho data llawfeddygol allweddol i fyny’n awtomatig i ddangosfwrdd sy’n cofnodi gwybodaeth am y claf, amser cyrraedd a gadael y theatr, a recordiad fideo o’r llawdriniaeth. I mi, dyma’r rhan fwyaf cyffrous wrth i ni ei defnyddio ar gyfer hyfforddi, datblygu a gwella ansawdd. Bydd rhannu arferion gorau drwy recordiadau fideo o bosibl o fudd i gleifion yn y dyfodol ac yn gwella ein datblygiad llawfeddygol hefyd.
Arwain y ffordd yng Nghymru
Yng Nghymru, rydym yn bwrw ymlaen yn ddewr i fynd i’r afael â phethau mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, mae CMR Surgical yn cyflenwi ein robotiaid ond maen nhw hefyd yn bartner i ni – rhywbeth sydd heb ddigwydd yn unman arall. Rydym yn helpu i ddatblygu eu systemau, gan eu cynghori ar yr arferion gorau ar gyfer casglu data.
Bydd gallu cysylltu pob bwrdd iechyd â’i gilydd yng Nghymru yn fantais enfawr, gan ein galluogi i safoni’r dull gweithredu ar gyfer llawdriniaethau â chymorth roboteg. Mae’r dangosfwrdd data hefyd yn galluogi byrddau iechyd i weld beth sy’n digwydd mewn mannau eraill yn y wlad, gan gynhyrchu gwybodaeth amser real.
Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i ddatblygu un system ac rwy’n gobeithio y bydd yn darparu mynediad haws at ddatblygiad proffesiynol parhaus. Er enghraifft, gall cofrestrydd sy’n teithio i safle yng Nghymru fanteisio ar y cyfle i gyflawni gwaith yn hytrach na disgwyl am gyfle yn ei leoliad presennol.
Heriau, dysgu, ac ymchwil
Gall cyflwyno technolegau newydd fod yn frawychus. Mae ein dulliau arferol yn gyfarwydd i ni, a gall fod yn anodd dysgu ffordd newydd o wneud pethau. Mae eu hintegreiddio i’r ffordd rydym yn gweithio nawr yn cymryd amser ond, yn fy mhrofiad i, mae’n gwbl werth chweil.
Rydym yn dal i ddysgu beth yw’r manteision gyda roboteg, a bydd angen monitro rhai canlyniadau yn y tymor hir. Mae mabwysiadu technolegau newydd yn arwain at ganlyniadau newydd yn cael eu mesur, pethau nad oeddent efallai mor amlwg o’r blaen. Er enghraifft, mae llawdriniaeth robotig yn rhoi gwell gwelededd o nerfau a all, o gael trawma, effeithio ar weithrediad y bledren a’r gallu i gael codiad. Nawr, gallwn amddiffyn y nerfau hynny’n fwy effeithiol na gyda llawdriniaethau eraill. Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn mesur y canlyniadau hyn ond, dros amser, rwy’n credu y bydd hyn yn newid wrth i sgyrsiau ennill momentwm.
Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous i GIG Cymru yw’r dechnoleg ymgolli. Mae CMR Surgical yn datblygu penset realiti rhithwir i helpu gyda hyfforddiant. Mae sefydlu’r robot yn cymryd ychydig ddyddiau o hyfforddiant, felly rydym yn treialu profiad trochi gyda myfyrwyr meddygol i benderfynu a ydyn nhw’n gallu dysgu sut mae paratoi robot ar gyfer llawdriniaeth mewn amgylchedd rhithwir.
Wrth edrych ymlaen, rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o bethau’n dod yn robotig, gyda llawdriniaethau laparosgopig yn cael eu disodli’n llwyr.
Mae llawdriniaeth robotig yn torri ffiniau’r hyn y gallwn ei wneud. Wrth i’r dechnoleg wella ein rheolaeth a’n golwg ar y corff dynol, rydym yn gallu mynd yn nes at diwmorau heriol ger nerfau a phibellau gwaed mawr a allai fod wedi achosi problemau yn y gorffennol. Does dim terfyn ar yr arloesedd, ac rwy’n meddwl ei fod yn amser gwych i fod yn cynnal llawdriniaethau ar hyn o bryd. Bydd y maes yn newid cryn dipyn, ac mae wedi dechrau’n barod.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Raglen Genedlaethol Cymru Gyfan - Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg a dilyn y cynnydd ar ein tudalen prosiectau.