Yn wir, mae argyfwng y coronafeirws wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau, gan ddangos pwy ohonom sy’n dilyn y rheolau i gyd yn ochelgar a phwy sy’n eu trin nhw fel awgrymiadau cwrtais, i’w hanwybyddu fel y mynnwn. Yn y postiad blog hwn, ceisiaf adfer enw da’r rhai sy’n cymryd risgiau a rhannu fy ngobaith y bydd Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn annog y rhai sy’n cymryd risgiau a’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau weithio gyda’i gilydd mewn cytgord.
Yn ddiamau, mae’r GIG yn sefydliad sy’n amharod i gymryd risgiau. Mae’n debyg y gallwch chi ystyried mai dyna yw ei Bwynt Gwerthu Unigryw, oherwydd pwy sydd eisiau cymryd risgiau lle mae iechyd cyhoeddus yn y cwestiwn? Fodd bynnag, mae’r argyfwng presennol yn un o’r adegau hynny lle gwneud dim o gwbl yw’r risg fwyaf. Felly, mae sefydliadau’r GIG wedi cael eu gorfodi i fentro’n ofalus a gwneud hynny yn gyflym ac yn benderfynol.
Ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (GGGC), mae mentro gofalus wedi golygu gwneud pethau fel gweithio o bell, integreiddio yn gyflym â phartneriaid newydd ac ehangu’r sylfaen defnyddwyr ar gyfer rhai cymwysiadau clinigol penodol. Bu’n rhyfeddol gwylio wrth i gymaint o brosiectau gael eu gwthio ymlaen ar gyflymdra a fyddai o’r blaen wedi cael ei deimlo fel un cwbl ddiofal.
Pan mae’r rhai sy’n amharod i gymryd risgiau yn cael eu gorfodi i gymryd risgiau, bydd un o ddau ganlyniad yn debygol. Y cyntaf yw panig llwyr a dinistr sicr, a’r ail yw anadl ddofn, dawel wrth iddyn nhw alw ar eu rebel mewnol, yr arwr sy’n cymryd risgiau y buon nhw’n ei feithrin ar gyfer sefyllfaoedd yn union fel hyn. Ond sut ydych chi’n meithrin arwr o’r fath mewn amgylchedd “diogelwch yn gyntaf” lle mae’n rhaid i brosiectau gael eu cytuno gan laweroedd o randdeiliaid cyn pasio nifer dirifedi o adolygiadau, ymarferion cwblhau ffurflenni a gweithdrefnau cymeradwyo? Drwy wthio ffiniau, dyna sut.
Sicrhewch bob amser fod gennych chi rebeliaid yn gwthio’r ffiniau, gan ddechrau gyda ffiniau ymarferoldeb. Y rheswm yw bod unrhyw beth sy’n newydd ac yn anhysbys yn ei hanfod yn llawn risg, a bydd rebel yn croesawu’r risg honno gydag ysbryd arloesol, gan ddysgu mwy drwy wthio’r ffiniau ymhellach. Yn amlwg, mae’n rhaid bod cyfyngiadau yn parhau ynglŷn â risg, ond gallwn ni wneud y “cyllidebau risg” hyn yn llawer mwy hael nag yr ydym yn ei wneud ar gyfer ymarferoldeb presennol “diogelwch yn gyntaf”.
Yr ail ffin yr ydym yn dymuno i rebeliaid ei gwthio yw rheolau a biwrocratiaeth, a all fygu llawer o brosiectau yn dawel. Bydd rebel yn gweiddi am help, gan ddibrisio’r gwallgofrwydd o lenwi 10 tudalen o “Ffurflen A” pan mae hi yn union yr un fath â “Ffurflen B”. Os yw pethau’n edrych yn enbyd, ni fydd gan rebel ofn torri trwy’r fiwrocratiaeth yn ofalus, gan greu timau datblygu answyddogol a meddiannu gweinydd er mwyn sicrhau bod eu ap newydd yn cael ei gyflawni mewn amser ar gyfer cynllun peilot.
Credaf fod llawer o’r ymddygiad rebel hwn eisoes yn digwydd yn y GIG, ond yn anffurfiol, heb ei gynllunio a heb ei gydnabod. Hebddo, rydw i’n sicr y byddai ymateb y GIG i COVID-19 wedi bod yn llawer mwy fel panig llwyr a dinistr sicr. Fodd bynnag, y broblem gyda gwthio’r ffiniau yn anffurfiol yw bod yr enillion wedyn yn aml yn cael eu colli, eu hanghofio neu’n waeth ambell waith – yn cael eu gadael a dod yn faich yn y dyfodol.
Mae llawer o gwmnïau technolegol yn cydnabod ac yn ffurfioli’r math hwn o wthio ffiniau gyda llif gwaith sionc. Mae symud yn gyflym a chyllidebau gwallau yn arddull peirianneg dibynadwyedd safleoedd (SRE) yn darparu lle diogel ar gyfer rebeliaid i arbrofi gydag ymarferoldeb newydd. Mae edrych yn ôl ar bethau yn rheolaidd, adleoli a’r defnydd o biblinellau CI/CD yn helpu i leihau’r fiwrocratiaeth yn sylweddol. Y rhain yw’r union ddulliau yr ydym wedi’u hanelu i’w mabwysiadu gyda’n gwaith ar raglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru.
Ein nodau ar gyfer yr Ecosystem yw gosod y sylfeini ar gyfer integreiddio symlach gyda GIG Cymru ac o fewn GIG Cymru, gan ddechrau gyda Phorthol ar gyfer Datblygwyr a phlatfform RhRhC. Mae hyd yn oed dechrau gyda’r gwaith hwnnw yn unig wedi golygu cryn dipyn o wthio ffiniau, ailddiffinio swyddogaethau a strwythurau timau i gydweddu yn well â phroses ddatblygu fwy sionc, gan arbrofi gyda modelau newydd o gydweithredu a chyfathrebu rhwng diwydiant a’r GIG a manteisio ar y cwmwl ar gyfer datblygu a defnyddio cymwysiadau. Mae rhai o’r pethau hyn yn parhau ychydig yn newydd i EIDC, ac yn benbleth wirioneddol o ran sicrwydd ffurfiol.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, fy ngobaith yw y byddwn yn edrych yn ôl ar y ffiniau cynnar hyn fel tiriogaeth gyfarwydd a gweld rebeliaid GIG Cymru fel aelodau allweddol o dimau sionc, arloeswyr sydd â darpariaeth dda i archwilio a mapio ffyrdd y gallwn ni wella gofal iechyd gyda thechnoleg. Cymaint ag yr ydym yn mwynhau diogelwch y cartref, ni ydym byth yn gwybod pryd y byddwn ni’n cael ein gorfodi i edrych y tu hwnt iddo, efallai yn gadael y map yn gyfan gwbl a mentro i’r anhysbys.
Enghreifftiau o Wthio Ffiniau COVID-19
Siaradais â rhai pobl sy’n gweithio ar brosiectau mewn ymateb i COVID-19 a gofynnais iddyn nhw pa ffiniau y maen nhw wedi’u gweld yn cael eu gwthio er mwyn cyflymu eu gwaith.
Phill Cann – Taflen Dogfen Farwolaethau COVID-19
Bu Phil yn helpu i ddatblygu’r e-ffurflen a ddefnyddir i gofnodi marwolaethau o COVID-19, offeryn pwysig ar gyfer darparu niferoedd beunyddiol i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, roedd yn amlwg eu bod angen cael eu rhyddhau cyn gynted ag oedd yn bosibl. Roedd diogelwch cleifion yn parhau o’r pwys mwyaf, ond dywedodd Phill eu bod yn fodlon derbyn mân broblemau ynglŷn â chywirdeb data ar gyfer y cyflwyniad cyntaf. Gwnaethon nhw ei drin fel CHLl, sef Cynnyrch Hyfyw Lleiaf, ac yna gwnaethon nhw ei gwella a’i rhyddhau yn aml ar ôl hynny, gan ychwanegu dilysrwydd a chyfnewid meysydd testun rhydd am gwymplenni a ddiffiniwyd yn flaenorol.
Mae CHLlau yn bodoli yn GIG Cymru, ond mae’r safon yn aml yn cael ei gosod mor uchel fel y gall fod yn Gynnyrch Hyfyw Mwyaf. Mae enghraifft Phill yn dangos gwerth asesu buddion o dargedau dibynadwyedd is yn erbyn y gofid posibl. Gall problemau gyda data fod yn ofidus, ond ni allwn osgoi bob un ohonyn nhw; yr hyn a allwn ni ei wneud yw gosod targedau a’u hadolygu nhw yn rheolaidd yn erbyn y gost o’u cyflawni.