Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Cynhaliwyd Advanced Therapies UK am y pedwerydd tro ar bymtheg ar 18-19 Mawrth 2025 a hynny yn ExCeL Llundain. Daeth dros 2,500 o bobl yno o bedwar ban byd. Yn y blog hwn mae Oliver Brown a Rachel Savery yn sôn am uchafbwyntiau’r digwyddiad. 

A photo from the roundtable at Advanced Therapies 2025

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Therapïau Datblygedig Cymru yn falch o gynnal stondin ar y cyd yn y gynhadledd hon. Roedd y gynhadledd yn rhoi sylw i’r biblinell gyfan o Gynnyrch Meddyginiaethol Therapïau Datblygedig (ATMP) ac yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau panel, a thrafodaethau bwrdd crwn ar bob agwedd ar Therapïau Datblygedig o’r fainc i erchwyn y gwely a’r tu hwnt.

Cafodd y gynhadledd ei chynllunio i’r holl randdeiliaid sydd yn y sector therapïau datblygedig. Roedd yn edrych ar gyflwr presennol ymchwil, rheoleiddio, mynediad a phrisio, cyflawni clinigol a rhagor.

Yn ein stondin ar y cyd, gwnaethom arddangos ymrwymiad Cymru i feithrin maes therapïau datblygedig. Roeddem yn cyflwyno undod ar ran Cymru gyda chynrychiolwyr o Therapïau Datblygedig Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Chanolfan Driniaeth Therapïau Datblygedig Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr (MW-ATTC). Roedd y stondin yn cynnwys yr arweinydd clinigol o ATW/MW-ATTC, gan dynnu sylw at ein hymdrechion cydweithredol a’n harbenigedd yn y sector.

Bwrdd Crwn – ‘Mynediad Cyfartal, Cleifion sy’n Ymgysylltu: Canoli llais y claf wrth ddatblygu a darparu therapïau newydd'

Fe wnaethom gynnal cyfarfod bwrdd crwn, dan gadeiryddiaeth Dr Cheney Drew o Brifysgol Caerdydd, a roddodd lwyfan ar gyfer trafodaethau ystyrlon ar bwysigrwydd cynnwys cleifion a'r cyhoedd yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu therapïau datblygedig.

Roedd y cyfarfod bwrdd crwn hwn yn dangos bod angen cyfathrebu a chydweithio tryloyw i feithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ystod amrywiol o gleifion, yn enwedig ymysg poblogaethau nad ydynt yn ymddiried mewn meddyginiaeth, gwyddoniaeth a chwmnïau fferyllol. Ystyriwyd bod y broses hon yn ymdrech hirdymor a dylid datblygu strategaethau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd effeithiol i gefnogi hyn. 

Mae hi’n aml yn gallu bod yn anodd cael cleifion i gymryd rhan mewn treialon clinigol ATMP oherwydd y nifer isel o gyfranogwyr, sy’n golygu ei bod hi’n anodd cael golwg gynhwysfawr o safbwynt y cleifion. Trafodwyd hefyd bod anawsterau sylweddol o ran esbonio gwybodaeth dechnegol i gleifion mewn treialon clinigol, a bod geiriad cwestiynau’n bwysig i gael adborth o ansawdd da.

Bydd allbynnau’r cyfarfod bwrdd crwn yn cyfrannu at lunio a chyhoeddi adroddiad Treialon clinigol Mynediad Teg i ATMP sy’n cael ei arwain gan MW-ATTC drwy’r rhwydwaith ATTC ac ymgysylltu ATMP.

Ar ben hynny, roedd Dr Hannah Crocker a Dr Ibukunoluwa Oginni-Falajiki o Bwyllgor Cydgomisiynu GIG Cymru (NWJCC) ac sy’n rhan o grŵp Therapïau Datblygedig Cymru, wedi cyflwyno poster ar Raglen Canlyniadau ATMP. Roedd y poster hwn yn cynnwys manylion yr ymdrechion i olrhain ac i ddadansoddi canlyniadau cleifion yn dilyn triniaeth gydag ATMP, er mwyn deall yr effaith a’r gwerth yn y byd go iawn i’r claf, i’r system ac i gymdeithas ehangach. Mae'r rhaglen yn brawf o ymrwymiad Cymru i arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar y claf ym maes therapïau uwch.

Cydweithio yng Nghymru

Roedd cryn ddiddordeb yn ein stondin gyda llif cyson o fynychwyr yn gwerthfawrogi'r dull cydweithredol, ac eisiau gwybod rhagor am y dirwedd yng Nghymru a sut gallant gymryd rhan.

Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Therapïau Datblygedig yng Nghymru, y cyntaf yng ngwledydd y DU. Mae’r cynllun yn amlinellu strategaeth gynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar feithrin ecosystem ddeinamig, datblygu llwybrau cyflawni gofal iechyd, meithrin gallu ymchwil, a darparu mynediad canolog at wybodaeth ac ymgysylltu. Gyda chefnogaeth nifer o randdeiliaid ledled Cymru a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn ceisio harneisio triniaethau arloesol, gwella datblygiadau gwasanaethau, a sicrhau mynediad teg, gan drawsnewid gofal a thriniaeth yng Nghymru yn y pen draw.

Rydyn ni’n falch o fod wrth galon ecosystem mor fywiog, ac o chwarae ein rhan i’w helpu i ffynnu. Felly, os ydych chi’n rhan o fusnes gwyddorau bywyd arloesol sydd â diddordeb mewn therapïau datblygedig – yn fach neu’n fawr – byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. 


Cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com neu advancedtherapieswales@wales.nhs.com

Awduron: Oliver Brown, Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Rachel Savery, Pennaeth Rhaglen, Therapïau Datblygedig Cymru.