Mae hi’n amser cyffrous i fod yn gweithio ar arloesedd digidol yng Nghymru, pan rydyn ni’n ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y llywodraeth a’r byd academaidd. Awyddus i gael gwybod sut beth yw hyn? Mae ein blog diweddaraf yn rhoi mewnbwn ar gyfarfod diweddar a gynhaliwyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng arloeswyr yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae Iwerddon a Chymru yn debyg iawn i’w gilydd. Mae gan y ddwy wlad gysylltiadau ieithyddol cryf drwy ein hieithoedd Celtaidd byw, y ddwy’n rhy gyfarwydd â glaw ac yn llawn hanes barddoniaeth a chelf gyfoethog.
Ond rydyn ni hefyd yn ddwy genedl sydd wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â datblygu a mabwysiadu datrysiadau digidol arloesol i helpu i wella deilliannau iechyd a lles ar gyfer ein dinasyddion. Rydym hefyd yn wynebu’r un heriau cymhleth o ran iechyd a gofal cymdeithasol: poblogaeth sy’n heneiddio, yn aml ag anghenion cymhleth a drud, system dameidiog a all fod yn anodd gweithio drwyddi, a staff sy’n aml yn delio ag adnoddau prin.
Gall cydweithio fod o gymorth wrth greu datrysiadau digidol i’n helpu i oresgyn y rhwystrau hyn gyda thechnoleg megis monitro o bell, realiti rhithwir ac estynedig, roboteg a deallusrwydd artiffisial (AI). Gall y rhain drawsnewid darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol i staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, ochr yn ochr ag arwain at les economaidd gwell drwy refeniw a chreu swyddi.
Dod at ein gilydd i gryfhau ein cysylltiadau
Trefnwyd ein cyfarfod diweddaraf er mwyn helpu i gyflawni’r uchod; gyda’r rhai a oedd yn bresennol yn trafod cyfleoedd cydweithio posibl, rhannu arferion gorau, ac yn helpu i gysoni’r berthynas rhwng sefydliadau iechyd, digidol a gwyddorau bywyd ledled y ddwy genedl hon.
Roedd yn dilyn ymweliad gweinidogion masnach Cymru ac Iwerddon â’r Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Hydref 2021.
Y tro hwn, roeddem yn falch iawn o groesawu ystod o fynychwyr o Gymru ac Iwerddon i’n swyddfa yng Nghaerdydd. Roedd hyn yn cynnwys rhanddeiliaid o Enterprise Ireland, HSE Digital Transformation, ein cyfeillion draw yn Health Innovation Hub Ireland, SAIL Databank, Consyliaeth Iwerddon yng Nghaerdydd ac ystod o gwmnïau sy’n cynnig datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o Iwerddon a Chymru.
Beth a drafodwyd?
Cawsom nifer o gyflwyniadau yn trafod pynciau’n ymwneud â’r heriau a chyfleoedd o ran arloesedd digidol. Cafodd bawb a oedd yn bresennol amser i gyflwyno gwybodaeth fras am eu cwmni a’u datrysiadau digidol. Ac wrth gwrs, roedd llawer o amser wedi’i neilltuo ar gyfer rhwydweithio, fel bod modd i randdeiliaid ddeall eu profiadau a’u harbenigedd yn well.
Dechreuodd y sgyrsiau gyda chyflwyniad gan Gonsyliaeth Iwerddon, gyda Denise McQuade, Conswl Cyffredinol yng Nghaerdydd, a oedd yn ategu’r hyn a nodwyd yn Natganiad a Rennir Cymru-Iwerddon ar Gydgynllun Gweithredu (2021) am ein gwerthoedd ar y cyd a sut y gallwn ganolbwyntio ein masnach a’n gwaith yn y gofod gwyddorau bywyd, gofal iechyd a digidol.
Yna rhoddodd Dr Christian Stafford, Arweinydd y Sector Iechyd Digidol yn Enterprise Ireland, grynodeb o ecosystem arloesedd Iwerddon - yn enwedig cryfderau’r sector iechyd digidol newydd - a sut mae’r sefydliad yn cefnogi yn hyn o beth.
Rhoddodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn drosolwg tebyg o ecosystem Cymru, gan amlygu sut mae ffactorau fel maint ein poblogaeth, rhagoriaeth academaidd ac integreiddiad gofal iechyd yn helpu i’w wneud yn lle delfrydol ar gyfer arloesedd digidol. Buodd yn trafod hefyd sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cefnogi rhanddeiliaid sy’n gweithio mewn diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol i gyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu datrysiadau digidol o ran iechyd a lles.
Wedi hyn, clywsom gan yr Athro David Ford, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr SAIL Databank, am fanc data poblogaeth y sefydliad, sy’n cynnwys symiau sylweddol o ddata hollol ddienw a chryf am y boblogaeth, sy’n cydymffurfio â fframweithiau rheoliadol llym. Nododd fanylion am y gwerth y gall yr adnodd hwn ei gynnig i ymchwilwyr a sefydliadau gofal iechyd, gan ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol, ochr yn ochr ag amlygu peth o’r ymchwil diddorol y mae wedi’i gefnogi mewn cyfnodolion megis Nature Medicine a Public Health Scotland.
Rhoddodd Des O’Toole, Arweinydd Arloesedd Clinigol yn HSE, fewnwelediad difyr ar drawsnewid digidol yn system gofal iechyd Iwerddon, a ariennir yn gyhoeddus. Rhoddodd drosolwg o sut maen nhw’n defnyddio meddylfryd dylunio i greu datrysiadau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gyda’u hymdrechion i drawsnewid llwybrau clinigol cleifion â phroblemau anadlol yn Iwerddon fel enghraifft. Yma, amlygodd rai o’r heriau roedden nhw’n eu hwynebu yn ehangach, a graddfa pwysigrwydd dylanwadu diwylliant sefydliadol i gyflawni newid.
Cyflwynodd Dr Edward McDonnell ar CeADAR, sef hwb Iwerddon ar gyfer AI cymhwysol. Amlygodd Cyfarwyddwr y Ganolfan sut mae Iwerddon wedi sefydlu ei hun fel cynefin allweddol ar gyfer arloesedd technolegol. Trafododd y ffordd y mae CeADAR yn gweithredu fel pont gritigol ar gyfer gwaith AI rhwng ymchwilwyr academaidd a sefydliadau seiliedig ar fasnach, eu hymgysylltiad rhyngwladol gyda llunwyr polisïau a’r gwasanaethau maent yn eu cynnig i bob partner.
Trafododd Cyfarwyddwr Health Innovation Hub Ireland, Dr Tanya Mulcahy y sefydliad a sut maen nhw’n cefnogi arloeswyr drwy’r llwybrau datblygu ac yn llywio cydweithrediad rhwng gofal iechyd a diwydiant. Fel sefydliad gyda chylch gwaith tebyg i ni, roedd hi’n ddefnyddiol deall sut mae eu gwaith yn cyfateb â’n gwaith ni.
Wedyn, bu imi ddirwyn sgyrsiau’r cyfarfod i ben gyda mewnwelediad ar Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW). Cyflwynais y rhaglen, gan drafod sut y gallwn gefnogi arloeswyr digidol yng Nghymru.
Daeth y diwrnod i ben gydag ymweliad â Tramshed Tech, lle dysgom sut mae’r gofod deinamig hwn yng Nghaerdydd yn cefnogi busnesau digidol newydd drwy ddarparu gofod, adnoddau a dysgu, a sut mae’n ffitio yn y dirwedd ryngwladol ar gyfer meithrin arloesedd.
Beth nesaf?
Rydym yn falch iawn fod pawb a oedd yn bresennol o’r ddwy genedl yn gallu cysylltu â’i gilydd a chryfhau’r cysylltiadau hynny yn y cyfarfod. Roedd hefyd yn ddefnyddiol o ran ategu sut mae’r ddwy genedl yn meddu ar ystod eang o brofiadau a gwybodaeth ynghylch arloesedd digidol yn iechyd a gofal cymdeithasol, a all fod yn fuddiol bob parti.
Gwn fod y diwrnod wedi ennyn llawer o sgyrsiau cyffrous, ac edrychwn ymlaen at weld sut byddant yn dod yn eu blaenau ac yn parhau i gryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy genedl.
Os ydych chi’n gweithio ym maes arloesedd digidol ac yn awyddus i gael cefnogaeth i’w ddatblygu a’i fabwysiadu mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com i weld sut y gallwn helpu.