Roeddem yn falch iawn o groesawu Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Robert Troy, Gweinidog Gwladol Iwerddon dros Hyrwyddo Masnach, i’n safle yng Nghaerdydd ddydd Gwener 22 Hydref 2021.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn croesawu Gweinidog yr Economi a Gweinidog Gwladol Iwerddon dros Hyrwyddo Masnach

Ymwelodd Vaughan Gething AS a Robert Troy TD â swyddfeydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd i drafod sut rydym yn helpu i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Croesawyd y ddau Weinidog, ynghyd â chynrychiolwyr o Enterprise Ireland, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon, gan Dr Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Dr Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, a Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr (a ymunodd dros y we).

Daeth y grŵp at ei gilydd i gwrdd â sefydliadau partner sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sbarduno trawsnewid, gan archwilio sut mae mentrau fel Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a Cyflymu yn cydweithio ag arloeswyr ar draws y diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol i wella iechyd a lles economaidd. Bu cwmnïau fel GoggleMinds hefyd yn trafod sut roedd eu prosiectau’n siapio dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

GoggleMinds discussed how their projects were shaping the future of our health and social care services
Trafododd Dr Chris Martin (chwith), Vaughan Gething AS (ail o'r chwith), a Robert Troy TD (ail o'r dde) sut yr oedd prosiectau GoggleMinds yn llunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

 

Fe wnaethon nhw hefyd gwrdd ag arweinwyr o brosiectau cydweithredol Gwyddelig-Cymreig fel CALIN i ddysgu am gryfder partneriaethau o’r fath a’r effaith maen nhw’n ei chael ar arloesi ym maes gwyddorau bywyd a’r trawsnewid ar draws y system.

Mae’r ymweliad yn cyd-daro â fforwm Gweinidogol cyntaf Cymru Iwerddon, sy’n dilyn lansio Datganiad a Rennir gan Gymru ac Iwerddon a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a lofnodwyd gan y ddwy wlad. Roedd hyn yn canolbwyntio ar nodi sawl maes cyffredin ar gyfer cydweithredu agosach.

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi croesawu’r ddau Weinidog i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddangos sut mae mentrau a chwmnïau o bob cwr o Gymru’n helpu i ddatblygu iechyd a budd economaidd ar y cyd. Mae’r ddwy wlad yn gartref i rai sefydliadau anhygoel sy’n datblygu ac yn mabwysiadu atebion arloesol, ac roedd hi’n wych trafod sut gallwn gyflymu cynnydd o’r fath drwy gryfhau partneriaethau Cymraeg-Gwyddelig."

Dywedodd Robert Troy TD, Gweinidog Gwladol Iwerddon dros Hyrwyddo Masnach:

“Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i ymweld â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i weld yn uniongyrchol y gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ar sail traws-sector ar draws diwydiant, gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi mewn gwyddorau bywyd a thechnoleg iechyd, a mentrau fel hyn sy'n meithrin mwy o gydweithredu a rhannu gwybodaeth ar ddwy ochr môr Iwerddon. Gobeithio y bydd mwy o gwmnïau o Iwerddon a Chymru yn parhau i wneud y cysylltiadau gwerthfawr a chydweithio i ddatblygu a gyrru arloesedd yn y sectorau hyn.”

Ydych chi'n fusnes sy'n chwilio am gefnogaeth?

Mae ein tîm arbenigol yn darparu cymorth pwrpasol i gyflymu pob taith arloesi, p’un ai ydym yn cefnogi clinigydd sydd â syniad gwych neu’n hwyluso partneriaethau â sefydliadau gwyddorau bywyd rhyngwladol.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cymorth Arloesi ar gael yma.