Dr Chris Martin yw cadeirydd newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’n olynu’r Athro Syr Mansel Aylward sy’n camu i lawr o rôl y cadeirydd ond yn parhau i fod yn gyfarwyddwr anweithredol ar y bwrdd.

Dr Chris Martin

Mae Dr Martin wedi bod yn is-gadeirydd y sefydliad ers 2017 ac mae wedi bod yn gadeirydd dros dro am y 18 mis diwethaf. Mae hefyd yn ddirprwy gadeirydd Comisiwn Bevan, sef melin drafod iechyd a gofal yng Nghymru gydag enw da yn rhyngwladol.

Croesawodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y penodiad gan ddweud:

“Rwyf wrth fy modd bod Dr Martin yn ymgymryd â rôl barhaol cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae ganddo brofiad sylweddol o’r sectorau iechyd ac economaidd ac mae wedi hyrwyddo rôl hollbwysig y diwydiant o ran cefnogi ymateb GIG Cymru i Covid-19. Bydd penodiad Dr Martin yn galluogi Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i barhau i sicrhau bod arloesi yn rhan allweddol o’r gwaith o adfer a thrawsnewid ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i estyn fy niolch a’m gwerthfawrogiad i’r Athro Syr Mansel Aylward sydd wedi gwneud cyfraniad allweddol yn y gwaith o helpu i sbarduno arloesedd yng Nghymru.”

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gorff hyd braich o Lywodraeth Cymru, sy’n gweithio i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd, gofal a lles – gan feithrin partneriaethau strategol rhwng diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, y Prif Swyddog Gweithredol:

“Rydyn ni eisoes yn elwa o arweinyddiaeth Dr Martin yn rhinwedd ei rôl fel is-gadeirydd ac, yn fwyaf diweddar, fel cadeirydd dros dro. Mae’n cyfrannu dealltwriaeth ddofn, nid yn unig o’r sefydliad ond y sector gwyddorau bywyd drwyddi draw hefyd, a law yn llaw â’r bwrdd, bydd yn parhau i ddarparu cyfeiriad strategol a llywodraethiant i ni. Rydw i a’r tîm yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y rôl newydd hon.”

Dywedodd Dr Martin, sy’n fferyllydd yn ôl ei alwedigaeth ac yn gyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae wedi bod yn wych gweld Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tyfu ac yn creu argraff dros y pedair blynedd diwethaf. Rwy’n falch iawn o’r sefydliad a’r tîm sy’n credu’n frwd mewn parhau i wneud gwahaniaeth go iawn i iechyd ac economi Cymru. Dwi hefyd yn falch o’r cyfle i ymgymryd â’r rôl hon a byddwn fel bwrdd yn arwain y sefydliad i allu creu mwy o effaith fyth.

“Hoffwn hefyd gydnabod fy nghyd-aelod a’m ffrind, yr Athro Syr Mansel Aylward, am arwain y sefydliad fel cadeirydd. Bellach, mae’r sefydliad yn cael ei ystyried fel adnodd a phartner allweddol ym maes arloesedd yn GIG Cymru. Rwy’n falch iawn y byddwn yn dal i allu manteisio ar ei egni a’i arbenigedd gan y bydd yn aros gyda ni fel aelod ar y bwrdd.”

Dewch o hyd i fwy

Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, lles a’r economi. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i wneud i hyn ddigwydd. I ddod o hyd i fwy am y gefnogaeth sydd ar gael, ewch i ein tudalen Cefnogi Arloesi