Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) yn dwyn ynghyd ddiwydiant, clinigwyr, llunwyr polisi, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr i greu amgylchedd o arloesi digidol ym maes gofal iechyd Cymru. Rydym am ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach mabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol yng Nghymru.
Mae'r Ecosystem yn bartneriaeth rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
- Rydym yn agor systemau a data GIG Cymru i ddatblygwyr drwy blatfform o APIs, yn lleihau amser datblygu ac yn sicrhau bod cynnyrch yn fwy addas i anghenion GIG Cymru
- Rydym yn dod â rhanddeiliaid o bob cwr o'r gymuned iechyd digidol at ei gilydd i fynd i'r afael â'r rhwystrau a'r heriau o fabwysiadu a chyflwyno, gan gysylltu prosiectau â phartneriaid a ffynonellau cymorth
- Rydym yn cynnull y gymuned iechyd digidol trwy ddigwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein i arddangos arfer gorau, treialu dulliau a systemau newydd, gwerthuso'n wrthrychol lle gellir cael yr effaith fwyaf a rhannu'r wybodaeth honno ledled Cymru
Darganfyddwch sut gallwn eich helpu chi, o gyngor i gyllid, o ymchwil i ddatblygu.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial, safonau fframwaith tystiolaeth, sefydliadau allweddol a mwy, ewch i'n tudalen wybodaeth.
Os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi’n chwilio amdano, beth am fynd i'n tudalen cwrdd â'r tîm a chysylltu â ni.