Trydydd parti

Cafodd CanSense gyllid gan y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod, sef cynllun cydweithredol sy'n cael ei redeg gan Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae hyn wedi darparu cyllid sbarduno a chymorth i ddatblygu datrysiadau arloesol sy'n gwella canlyniadau a phrofiad menywod y mae canser yn effeithio arnynt. 

A photo of the CanSense team

Yn CanSense, rydyn ni i gyd yn frwd iawn dros ail-lunio’r ffordd mae cael diagnosis o ganserau menywod, gan ddechrau gyda chanfod yn gynharach, profion sy'n ymyrryd cyn lleied â phosibl, a chynnwys cleifion go iawn.

Diolch i gyllid gan y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod, rydyn ni wedi lansio prosiect uchelgeisiol i gynnwys y cyhoedd a chleifion, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu prawf gwaed newydd (biopsi hylif) ar gyfer canfod canserau ofarïaidd ac endometriaidd yn gynnar.

Mae ein gwaith yn ymwneud â mwy na dim ond arloesi ym maes diagnosteg. Mae hefyd yn ymwneud â grymuso cleifion, gan gynnwys eu llais mewn ymchwil, ymgysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a sicrhau bod ein datrysiadau’n wirioneddol addas ar gyfer defnydd clinigol yn y byd go iawn.

Cydnabyddir bod grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn wynebu nifer o anghydraddoldebau o ran canfod a gwneud diagnosis o ganser, gan arwain at fwy o siawns o gael diagnosis hwyr. Credwn ei bod yn hanfodol deall a dileu rhwystrau i ganfod yn gynnar mewn grwpiau difreintiedig er mwyn sicrhau tegwch o ran canlyniadau.

Rydyn ni'n falch o rannu'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud hyd yma ac amlinellu beth sydd nesaf ar ein taith tuag at wella canlyniadau mewn gofal canser menywod; rhywbeth rydyn ni'n teimlo sy'n cael ei anwybyddu ym maes gofal iechyd.

A member of the CanSense team using their lab equipment

Pam mae canfod canser menywod yn gynnar yn bwysig i ni

Mae diagnosis o ganserau ofarïaidd ac endometriaidd yn aml yn cael ei wneud yn rhy hwyr. Mae symptomau’r canserau hyn yn aml yn amwys, ac mae'r adnoddau sgrinio presennol yn gyfyngedig neu nad ydynt yn bodoli o gwbl. Mae'r canlyniadau'n ddinistriol; mae diagnosis hwyr yn gostwng cyfraddau goroesi'n sylweddol ac yn cyfyngu ar opsiynau triniaeth.

Yn dilyn ein llwyddiannau presennol gyda phrawf gwaed biopsi hylif ar gyfer canser y colon a'r rhefr, rydyn ni bellach yn troi ein sylw at ganser gynaecolegol gan ddefnyddio'r un dechnoleg arbennig. Fel ein dyluniad canser y colon a’r rhefr, bydd adborth gan gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn siapio dyluniad a darpariaeth y prawf hwn o’r cychwyn cyntaf.

Dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n cael ei ariannu gan arloesedd

Mae'r cymorth gan y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod wedi rhoi cyfle i ni ddylunio prosiect sy'n canolbwyntio ar gynnwys y cyhoedd a’r cleifion wedi'i strwythuro o amgylch chwe phecyn gwaith craidd, a gyflwynir dros gyfnod o chwe mis.

Ers ennill y wobr, rydyn ni wedi cael cymeradwyaeth foesegol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Abertawe ac rydyn ni wrthi’n recriwtio cleifion ar gyfer y grwpiau cynnwys y cyhoedd a’r cleifion a grwpiau ffocws gyda chymorth gan fudiadau'r trydydd sector sy'n gweithio gyda grwpiau difreintiedig a grwpiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml.

Beth nesaf?

Wrth i ni symud i gam olaf y prosiect, rydyn ni'n canolbwyntio'n bennaf ar y canlynol:

  • Cwblhau cyfweliadau a dadansoddi data
  • Cwblhau ein hadroddiad effaith ar gynnwys y cyhoedd a’r cleifion
  • Drafftio ein cyhoeddiad cyntaf sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid
  • Cyflwyno canfyddiadau mewn cynhadledd gofal iechyd genedlaethol

Rydyn ni’n gobeithio ac yn rhagweld y bydd y cerrig milltir hyn yn ein paratoi ar gyfer y cam nesaf: treialon clinigol, gyda dyluniad prawf yn seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar gleifion a gweithwyr proffesiynol mewn gwirionedd.

Cwrdd â'r tîm sy'n gwireddu’r genhadaeth hon

Mae ein prosiect yn dod â thîm amlddisgyblaethol o'r byd academaidd, gofal iechyd a diwydiant at ei gilydd:

  • Clinigwyr y GIG fel yr Athro Dean Harris, ein Prif Gyfarwyddwr Clinigol, sy'n rhoi cipolwg ar lwybrau diagnostig a gweithredu o fewn modelau gofal presennol.
  • Nerissa Thomas, gwyddonydd ac ymchwilydd PhD CanSense - wedi’i gwreiddio ym Mhrifysgol Abertawe, gan arwain y gwaith o gasglu, dadansoddi a chydlynu data.
  • Dr Ashra Khanom, academydd o Brifysgol Abertawe, sy’n dod â phrofiad a gwybodaeth mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol, ac effaith polisi.

Gyda'i gilydd, mae ein tîm yn sicrhau bod ein prawf yn glinigol berthnasol, yn wyddonol gadarn, ac yn cael ei lywio'n llawn gan brofiad uniongyrchol - rydyn ni'n teimlo bod pobl wrth galon yr hyn rydyn ni'n ei wneud, felly mae profiadau bywyd go iawn yn arbennig o bwysig i ni yn CanSense.

The CanSense team at the Wales Technology Awards

Ein dull cydweithredol o arloesi ym maes diagnosteg canser

Mae ein gwaith yn cael ei bweru gan rwydwaith helaeth o gydweithwyr a phartneriaid strategol sy'n cynnwys y canlynol:

  • Rhwydwaith Canser Cymru – Cefnogi’r dull o integreiddio profion ar draws GIG Cymru, gyda Llythyr o Fwriad wedi'i sicrhau.
  • Nonacus – Partner prosesu a dilysu labordy clinigol.
  • CEDAR (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro / Prifysgol Caerdydd) - Cefnogi’r broses o asesu ar sail tystiolaeth ac arfarnu technoleg iechyd.
  • Renishaw - Darparu offer peirianneg manwl ar gyfer perfformiad labordai a phrofion.

Dim ond rhai o'r cydweithwyr sy'n rhoi cryfder a hygrededd anhygoel i genhadaeth CanSense yw'r partneriaethau balch hyn.

Sicrhau effaith wirioneddol ar iechyd menywod

Mae ein prosiect wedi'i lunio i gyflawni nifer o allbynnau ystyrlon:

  • Argymhellion i lywio treialon clinigol yn y dyfodol yn seiliedig ar adborth gwirioneddol gan gleifion.
  • Gwybodaeth am weithredu i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu'r GIG a defnydd ymarferol mewn lleoliadau clinigol.
  • Data ar amrywiaeth a mynediad i helpu i leihau gwahaniaethau mewn diagnosis canser a'r canlyniadau

Yn y pen draw, y nod yw cyflymu effaith ein prawf canfod yn gynnar, drwy ddilysu clinigol a thrwy ddefnyddioldeb a derbyn yn y byd go iawn.

Ein cynlluniau ar gyfer eleni 

Mae ein taith i’n sefyllfa bresennol yn dangos pŵer trawsnewidiol cyllid cydweithredol sydd wedi'i dargedu'n dda. Fe wnaeth y Gronfa Cyflymydd Arloesedd mewn Canser Menywod ein helpu i ddechrau'n gryf, parhau i ganolbwyntio, a gweithio'n gynhwysol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at botensial cynlluniau tebyg yn 2025/26.

Rydyn ni’n annog arloeswyr, timau ymchwil a chlinigwyr eraill i ystyried gwneud cais! Mae ymchwil sy'n cael ei harwain gan gleifion yn fwy moesegol ac yn fwy effeithiol.

Ymunwch â ni i lunio dyfodol canfod canser 

Yn CanSense, rydyn ni'n frwd dros ganfod yn gynnar gan ei fod yn achub bywydau, ac rydyn ni'n credu bod yn rhaid i arloesedd fod yn seiliedig ar brofiadau'r rheini sy’n cael eu gwasanaethu. Rydyn ni'n ddiolchgar i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi'r Gwyddorau Meddygol am ein helpu ni i gymryd camau ystyrlon at drawsnewid sut mae cael diagnosis o ganserau ofarïaidd ac endometriaidd yn y DU.

I ddysgu mwy am ein gwaith neu i gymryd rhan, ewch i CanSense – Arloesedd ym maes diognosteg canser neu dilynwch ni ar LinkedIn.

Mae Demi wedi bod yn Gynorthwyydd Gweithrediadau yn CanSense ers mis Medi 2023, gan weithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredol a'r Tîm Craidd i reoli llif gwaith cyffredinol a sicrhau bod yr holl weithrediadau'n rhedeg yn esmwyth. Mae hi hefyd yn arwain ar eu cyfryngau cymdeithasol, marchnata a'u gwefan, ac mae hi’n angerddol yn ceisio cynrychioli'r gwerthoedd craidd sy'n diffinio CanSense.