Trydydd parti

Fel Prif Swyddog Gweithredol Goggleminds, rwy’n falch o rannu sut mae ein taith yn ailddiffinio addysg gofal iechyd drwy hyfforddiant Realiti Rhithwir (VR) ymgolli. Yn y blog hwn, byddaf yn sôn am ein cerrig milltir, o gydweithio arloesol â phartneriaid yn y GIG, i fynd i'r afael â heriau ym maes gofal cymdeithasol. 

An example of how the VR system looks to a user

Lle dechreuodd y cyfan 

Mae fy ngyrfa ym maes gofal iechyd wedi fy arwain ar draws Cymru a Lloegr, gan gwmpasu rolau mewn cartrefi gofal, ysbytai cymunedol ac mewn sefydliadau mawr ar draws nifer o safleoedd, sy’n darparu gofal iechyd yn y GIG. Yn benodol, gweithiais ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, lle roeddwn yn rheoli diogelwch cleifion a staff ac yn gweithredu rhaglenni hyfforddi. O’r cychwyn cyntaf, fe wnes i weld her a oedd yn codi dro ar ôl tro: Sut ydyn ni’n darparu hyfforddiant cyson o ansawdd uchel ar raddfa fawr, yn enwedig wrth i dimau rheng flaen fynd i’r afael â llwyth gwaith cynyddol a chanllawiau clinigol sy’n esblygu drwy’r amser? 

Roeddwn yn benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn felly, astudiais radd meistr, gan ymchwilio i sut gallai technoleg ymgolli ddod ag addysg gofal iechyd i'r byd digidol modern. Roedd yr ymchwil hwnnw wedi arwain at ffurfio Goggleminds. Yn fuan ar ôl lansio Goggleminds, buom yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbytai Prifysgol Rhydychen i greu pecyn hyfforddiant realiti rhithwir llwybr anadlu cyntaf o’i fath, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn sefydliadau ar draws y DU. Roedd y garreg filltir hon yn dangos potensial trawsnewidiol realiti rhithwir pan gaiff ei wneud yn iawn, gan ein hysgogi i ymestyn i feysydd pwysig eraill o ymarfer clinigol, o atal niwed y gellir ei osgoi mewn lleoliadau gofal acíwt, i fireinio sgiliau rheng flaen ar gyfer gofal tymor hir.

Pwysau ar Ofal Cymdeithasol 

Er ein bod wedi canolbwyntio i ddechrau ar arbenigedd nyrsio a meddygol, rydyn ni bob amser wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd gofal cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd. Ar hyd a lled Cymru—ac yn wir yn fyd-eang—mae gofal cymdeithasol yn wynebu mwy a mwy o bwysau: prinder staff, poblogaethau sy’n heneiddio, a chymhlethdod cynyddol cleifion. Ac eto, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn parhau i fod yn anhepgor. Y craidd yw sut mae darparu hyfforddiant ymarferol ac effeithiol pan fydd adnoddau’n brin. Mae realiti rhithwir yn cynnig ateb difyr. Mae’n caniatáu i glinigwyr ddysgu drwy senarios realistig sy’n cael eu hailadrodd heb fod angen labordai efelychu na gorfod teithio’n ychwanegol. Mae’r math gweithredol hwn o ddysgu yn meithrin gwneud penderfyniadau mewn amser real, arbenigedd triniaethau, a chyfathrebu – sgiliau sy’n hanfodol i’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Hyfforddiant Teleofal Realiti Rhithwir i Gyflawni yn y Byd Go Iawn

Gan ehangu ar ein llyfrgell modiwlau gofal cymdeithasol, rydyn ni wedi datblygu ein senario teleofal ar gyfer gofal cymdeithasol. Datrysiad hyfforddiant dysffagia Tîm Amlddisgyblaethol integredig sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd gyda staff cartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Modiwl Asesiad Llwnc Realiti Rhithwir hwn yn dod â deietegwyr, fferyllwyr, therapyddion iaith a lleferydd, nyrsys a staff cartrefi gofal at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau cyffredin mewn gofal dysffagia. Drwy ddod â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, mae’n pontio’r bwlch rhwng dysgu damcaniaethol ac ymarfer yn y byd go iawn, ac yn meithrin empathi a dealltwriaeth ymysg rolau gwahanol, gan arwain at ddull mwy cyfannol o gefnogi cleifion. 

Un o nodweddion mwyaf nodedig y profiad realiti rhithwir hwn yw sut mae’n ymgolli dysgwyr mewn amgylchedd cartref gofal realistig. Maen nhw’n cael eu cyflwyno i breswylydd ffuglennol o’r enw Hue, sy’n dangos anawsterau llyncu posibl yn dilyn atgyfeiriad. Drwy’r modiwl, mae dysgwyr yn ymgysylltu â nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol—fel deietegwyr, fferyllwyr a therapyddion iaith a lleferydd—drwy liniadur rhithwir, sy’n adlewyrchu cyfarfodydd ar-lein y byd go iawn. Mae hyn yn helpu’r dysgwyr i sylwi ar arwyddion cynnil o ddysffagia mewn lle diogel sy’n cael ei reoli, ac mae’n meithrin cydweithio go iawn drwy eu galluogi i drafod achos Hue â chydweithwyr, rhannu syniadau, a chael adborth ar unwaith ar eu penderfyniadau. 

Drwy gyfuno dysgu ar sail tîm â dyluniad rhyngweithiol sy’n seiliedig ar senario, mae’r modiwl hyfforddi’n cynnig llwyfan cynaliadwy y gellir ei ehangu a’i ddefnyddio ledled Cymru—a thu hwnt—i wella cymhwysedd clinigol a gwaith tîm amlddisgyblaethol. Yn y pen draw, mae’r dull hwn yn grymuso gweithwyr proffesiynol i ddarparu gofal mwy diogel a mwy effeithlon, gan gryfhau’r cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella canlyniadau i gleifion. 

Goggleminds' VR training demonstration

Edrych i’r Dyfodol 

Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni hefyd yn datblygu datrysiadau hyfforddiant realiti rhithwir ymgolli ar gyfer triniaethau endosgopig ac atal cwympo. Nod y datrysiadau hyn yw gwella hygyrchedd hyfforddiant, gwella sgiliau clinigol, a chefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ar y rheng flaen i fodloni gofynion cynyddol eu rolau, ac yn y pen draw gwella’r gofal i gleifion.  

Drwy gydweithio’n agos â Byrddau Iechyd Cymru, sefydliadau academaidd, a phartneriaid fel Ymddiriedolaeth Sepsis y DU a’r Brifysgol Agored, byddwn yn parhau i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect realiti rhithwir ar gael yma. Neu, i weld sut gall hyfforddiant realiti rhithwir gefnogi eich tîm neu’ch myfyrwyr, cysylltwch yma.