Mewn blog gwadd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o faterion Gwrthficrobaidd y Byd, mae Julie Harris, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn archwilio effaith ymwrthedd gwrthficrobaidd, sut mae gofal sylfaenol a gofal eilaidd yng Nghymru yn mynd i’r afael â'r mater, a beth y gall arloeswyr ei wneud i ategu gofal iechyd.
Ymwrthedd gwrthficrobaidd yw un o’r heriau mwyaf mae ein poblogaeth fyd-eang yn ei hwynebu’r ganrif hon. Pan fydd pathogenau’n addasu i’r cyffuriau a ddefnyddir i drin heintiau, maent yn dod yn gynyddol anodd - neu hyd yn oed yn amhosibl - eu trin.
Nid oes dosbarth newydd o wrthfiotigau wedi cael ei ryddhau i’r farchnad er 1987, ac mae nifer y pathogenau sy’n gallu ymwrthod gwrthfiotigau yn dal i godi, gan gynnwys mewn ysbytai yng Nghymru.
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar ofal cleifion. Mae’r effaith eisoes yn ddifrifol: mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau byd-eang a achosir yn uniongyrchol gan ymwrthedd gwrthficrobaidd yn 1.27 miliwn y flwyddyn, gyda 4.95 miliwn yn marw o afiechydon lle’r oedd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn rhan o'r darlun.
Effaith ymwrthedd gwrthficrobaidd ar ofal iechyd yng Nghymru
Y tu hwnt i effeithiau uniongyrchol pobl sy’n mynd yn sâl oherwydd heintiau sy’n gwrthsefyll triniaethau, gall hefyd roi straen sylweddol ar ofal iechyd – gan effeithio ar ddarparu gwasanaethau ac adnoddau. Os bydd claf yn cael ei heintio â haint sy’n gwrthsefyll triniaethau gwrthficrobaidd, mae’n bosibl y bydd angen gohirio neu ganslo llawdriniaethau neu driniaeth.
Yn aml, bydd angen i gleifion sydd wedi eu heintio â math sy’n ymwrthod triniaethau gwrthficrobaidd gael mewnbwn gan dimau arbenigol sy’n gorfod rheoli heintiau’n llym a hynny heb lawer o ddewisiadau o ran triniaethau. Gan hynny, mae cael eu heintio â heintiau sy’n ymwrthod hefyd yn newid ansawdd bywyd a’r gofal mae cleifion yn ei gael.
Mae’n bosibl na fydd modd trin heintiau cyffredin, a gall llawdriniaethau arferol fel toriadau Cesaraidd fod yn rhy beryglus i gael eu cynnal yn rheolaidd. Mae cleifion sy’n fwy tebygol o gael heintiau mewn perygl penodol, fel y rhai sy’n cael therapi canser neu bobl sydd â phroblemau cydafiachedd.
Mae Dr Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yn crynhoi pwysigrwydd tynnu sylw at ymwrthedd gwrthficrobaidd:
“Mae angen i fygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd gyrraedd yr un lefel o ymwybyddiaeth â newid yn yr hinsawdd. Nid yw’r bygythiad o organebau sy’n gwrthsefyll sawl cyffur yn broblem ddamcaniaethol – mae’n real iawn ac mae’n debygol o ddod yn broblem gynyddol. Er ein bod ni’n aml yn trafod ymwrthedd gwrthficrobaidd a phwysigrwydd llywodraethu gwrthficrobaidd da mewn cyd-destun lleol, gan geisio lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd yn ein hysbytai a’n cymunedau, mae’n hanfodol cofio bod hyn hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn her fyd-eang.”
Mae’r byd wedi mynd yn fychan a gall heintiau o wledydd eraill sy’n gwrthsefyll triniaethau ledaenu’n gyflym. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld ymchwilwyr yn mynegi pryderon ynghylch sut gallai’r cyd-destunau dyngarol yn Wcráin arwain at ddatblygu ymwrthedd.
Wrth gwrs, gall defnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd yn lleol hefyd sbarduno ymwrthedd: rydym wedi gweld nifer yr heintiau sy’n ymwrthod triniaethau ar gynnydd yn ein hysbytai yng Nghymru. Gan hynny, mae angen i atebion lleol a byd-eang gael eu datblygu ar y cyd.
Beth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd?
Mae sefydliadau a llywodraethau yn gweithio ar lefel ranbarthol, Cymru gyfan ac yn fyd-eang, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (2015). Mae hyn wedi canolbwyntio ar feysydd fel darparu buddsoddiad cynaliadwy mewn ymchwil a datblygu meddyginiaethau ac offer diagnostig newydd, lleihau’r risg o haint drwy fesurau atal a hylendid gwell, a gwneud y defnydd gorau posibl o feddyginiaethau gwrthficrobaidd ym maes iechyd anifeiliaid a phobl.
Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Pum Mlynedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig (2019) yn tynnu sylw at sut byddwn yn cyfrannu at yr ymdrech fyd-eang drwy leihau baich heintiau, gwneud y defnydd gorau posibl o gyffuriau gwrthficrobaidd a darparu stiwardiaeth effeithiol, ynghyd â sbarduno ymchwil ar gyfer diagnosteg, therapïau ac ymyriadau newydd.
Safbwynt gofal iechyd yng Nghymru
Mae nifer o fentrau yng Nghymru i helpu i gyflawni rhai o’r nodau hyn, gan gynnwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
Un enghraifft yw symudiad i ffurfweddu systemau meddyg teulu lleol i alinio gosodiadau presgripsiwn diofyn â’r dos a hyd y cwrs a argymhellir yn y canllawiau gwrthfiotig. Mae hyn yn ein helpu i symud tuag at gyrsiau byrrach sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n gallu gwella ymlyniad cleifion a lleihau’r risg o ddatblygu heintiau sy’n gwrthsefyll triniaeth.
Er mwyn helpu i wneud y defnydd gorau posibl o gyffuriau gwrthficrobaidd, rydym hefyd yn archwilio gwrthfiotigau sydd ar bresgripsiwn amlroddadwy ar draws pob practis. Bydd y data archwilio hwn yn cael ei fwydo’n ôl i bresgripsiynwyr gyda chyngor ar arferion gorau i helpu ymarferwyr i fonitro a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gwrthfiotigau hyn yn effeithiol pan nad oes eu hangen mwyach.
Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar wella’r gwaith o reoli heintiau’r llwybr wrinol mewn gofal sylfaenol drwy wneud y defnydd gorau posibl o driniaeth gwrthficrobaidd, drwy archwilio, adborth ac addysg. Rydym hefyd wrthi’n datblygu templed electronig ar gyfer systemau meddygon teulu er mwyn cofnodi ac arwain ymgyngoriadau ar gyfer heintiau’r llwybr wrinol yn gywir.
Mewn gofal eilaidd, rydym yn defnyddio’r ‘Pecyn Adolygu Dulliau Gwrthfiotig ar gyfer Ysbytai’ (ARK) ar draws pob safle acíwt ar gyfer siartiau meddyginiaeth ar bapur ac e-bresgripsiynu. Nod hyn yw lleihau’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd drwy adolygu’r holl wrthfiotigau’n rheolaidd, wedi ei ategu gan astudiaeth a gyhoeddwyd yn The Lancet ar afiechydon heintus.
Sut gall diwydiant helpu GIG Cymru?
Mae modd gwella’r ymdrech anhygoel ar draws ein systemau gofal iechyd i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhellach gyda chymorth gan gwmnïau sy’n gweithio ym maes gwyddorau bywyd ac arloesi digidol. Mae ein gwaith yn aml yn cael ei gyfyngu gan systemau digidol nad ydynt wedi eu ffurfweddu i gynorthwyo stiwardiaeth gwrthficrobaidd yn llawn.
Bydd datblygu ein profion pwynt gofal a’n gwasanaethau diagnostig yn llawn hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd. Un enghraifft yw defnyddio profion protein C-adweithiol (CRP) mewn achosion cyfwerth i ategu diagnosis o heintiau anadlol bacterol actif ac atal rhagnodi gwrthfiotigau’n ddiangen.
Mae’n hanfodol bod atebion yn hygyrch i’n GIG – mae angen i ni daro ar gydbwysedd rhwng defnyddio adnoddau’n effeithiol a gwneud ein gwasanaethau’n fwy darbodus ac effeithlon.
Os oes gennych chi gynnyrch neu wasanaeth arloesol a allai, yn eich barn chi, helpu ein systemau gofal iechyd i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost: helo@hwbgbcymru.com.