Yn ddiweddar, lansiodd y Polisi Tramor gyhoeddiad a oedd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i weithio yng Nghymru a chryfderau ein heconomi yng Nghymru. Rhoddwyd sylw i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru hefyd, lle’r oeddwn wrth fy modd yn cael ysgrifennu darn yn archwilio enw da Cymru am arloesi ym maes gofal iechyd.
Roedd ein herthygl yn edrych ar y dirwedd gofal iechyd sy’n newid, gan nodi sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig a sut mae’r diwydiant yn gweithio’n agos gyda gofal iechyd i gyflawni trawsnewid systematig drwy arloesi. Hefyd, fe wnes i drafod pam y dylai arloeswyr byd-eang weithio yng Nghymru, gan sôn am fanteision gweithio yma fel ein system gofal iechyd integredig, maint y boblogaeth a chryfder yr ymchwil.
Roeddem yn falch o gael ein cynnwys ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac awduron sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a Phrifysgolion Cymru. Roedd yr erthyglau hyn yn cyfleu rhai negeseuon pwysig iawn am Gymru – gan dynnu sylw at ein cyfalaf economaidd ar draws gwahanol ddiwydiannau a sectorau a sut rydym yn dod yn gystadleuydd byd-eang pwerus ar gyfer arloesi.
Mae Cymru ar flaen y gad drwy’r diwydiannau technoleg, ynni a gwyddorau bywyd
Bu Gweinidog yr Economi ac Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Masnach a Buddsoddi Cymru, yn trafod cyfleoedd diwydiannau technoleg, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy Cymru a sut y maen nhw’n gyfleoedd buddsoddi cryf.
Roeddent yn tynnu sylw at Airbus, sydd â ffatri fawr arloesol yn y gogledd, fel enghraifft o sut y gall sefydliadau wneud Cymru’n gartref i ymchwil a datblygiadau. Roedd yr erthygl hefyd yn sôn am sut mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi amser, arian ac adnoddau mewn cymorth i gwmnïau llai er mwyn rhoi hwb i nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr.
Mae hyn yn cyd-fynd â chryfder cyfleoedd ymchwil a datblygu arloesol Cymru. Ar ben hynny, rydym yn gwybod o’n profiad mewn arloesi ym maes gofal iechyd y bydd diwydiannau sy’n cael eu hysgogi gan ymchwil yn tyfu wrth i wyddorau bywyd barhau i feithrin cysylltiadau rhwng academia a diwydiant.
Mae cyfleoedd masnach helaeth gyda Chymru yn parhau i dyfu'n gryfach
Bu Gweinidog yr Economi ac Andrew Gwatkin hefyd yn trafod effaith cyfleoedd a chysylltiadau masnach presennol Cymru, a’r dyfodol. Mae data swyddogol yn dangos sut roedd Cymru wedi allforio gwerth £14.3 biliwn o nwyddau tua diwedd 2021. Rydym yn lle cyffrous i fuddsoddi ynddo ac i wneud busnes gyda ni, ac mae gennym gysylltiadau masnach cryf gyda’r Unol Daleithiau. Mae 270 o fusnesau eraill o'r UDA yn weithredol yng Nghymru, gyda 15% o’n hallforion yn mynd i ogledd America. Mae ein cysylltiadau hanesyddol mewn diwylliant ac economi wedi meithrin perthynas economaidd gref ag America, gan greu deinameg allweddol o ran buddsoddwyr a phartneriaid masnachu.
Enghraifft arall o allu allforio cryf Cymru ym maes gwyddorau bywyd yw Cytiva o’r UDA, sy’n agor cyfleuster gweithgynhyrchu newydd yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn gweld yr arweinydd gwyddor bywyd byd-eang yn gweithgynhyrchu cydrannau a geir mewn brechlynnau a chynnyrch biofferyllol ar gyfer cwsmeriaid byd-eang.
Mae Cymru ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn manylu ar y polisïau a’r cynlluniau sy’n helpu i gadw cynaliadwyedd yng Nghymru ar flaen yr agenda. Amlinellodd Giles Thorley, o Fanc Datblygu Cymru, sut mae eu Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd yn darparu llai o gostau benthyca ar gyfer cynlluniau tai. Mae hyn yn galluogi datblygwyr i sefydlu cartrefi carbon isel ac effeithlon thermol ledled Cymru.
Trafododd Giles hefyd sut mae Cronfa Ynni Lleol Llywodraeth Cymru, ar lefel gymunedol, yn cefnogi atebion ynni yn y gymuned. Mae’r rhain yn amrywio o baneli solar i dyrbinau gwynt. O ganlyniad, gall pawb mewn trefi bach elwa o ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella safonau byw i bawb. Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn cysylltu cynaliadwyedd, iechyd a llesiant. Mae’n ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hirdymor penderfyniadau busnes i fynd i’r afael â heriau cynyddol mewn meysydd fel newid yn yr hinsawdd, tlodi, iechyd, llesiant a chyfleoedd swyddi. I ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan hanfodol o’n dull gweithredu cydweithredol wrth i ni fanteisio ar y berthynas rhwng gofal iechyd, llesiant, yr amgylchedd a diwydiant.
Mae Cymru’n gystadleuydd byd-eang cryf o ran cyflawni rhagoriaeth ym maes ymchwil
Roedd y Polisi Tramor hefyd yn tynnu sylw at gryfder academaidd Cymru. Trafododd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, sut mae prifysgolion yng Nghymru yn creu newid drwy ymchwil sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd.
Mae effaith ein hymchwil yn cael ei dangos yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), gyda Chymru yn arwain y DU ar gyfer cyfran yr ymchwil sy’n cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol neu sy’n arwain y byd
Gyda phartneriaeth a chydweithio wrth galon llwyddiant ymchwil Cymru, mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru yn hyrwyddo cydweithio cryfach rhwng busnesau a chyrff cyhoeddus. Yn rhinwedd hynny, mae hyn yn denu mwy o bartneriaethau ymchwil rhyngwladol a rhannu gwybodaeth fyd-eang. Bydd canolbwyntio ar sero-net, iechyd a pharatoadau ar gyfer dyfodol digidol yn ganolog i’r cydweithio hyn.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio mewn arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac os hoffech chi gael cymorth, anfonwch neges e-bost at hello@lshubwales.com