Pwrpas Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw sicrhau mai Cymru sy’n cael ei ddewis ar gyfer arloesi ym maes iechyd, gofal a llesiant. Rydym yn dod â diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a'r llywodraeth ynghyd i rannu syniadau, nodi anghenion, a sbarduno’r broses o fabwysiadu atebion sy’n gallu trawsnewid bywydau pobl.

Rydym ym chwilio am Gydlynydd Partneriaethau llawn cymhelliant a threfnus i ymuno â’n tîm. Bydd yn atebol i’r Pennaeth Partneriaethau. Mae hon yn rôl sy’n ganolog i gefnogi ein gweithgareddau ymgysylltu ar draws Cymru a’r DU, a helpu i gysylltu pobl, syniadau a chyfleoedd sy’n sbarduno arloesedd ym maes iechyd a gofal yn rhyngwladol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o feithrin a chynnal cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid, cefnogi’r gwaith o gyflawni ein cynlluniau partneriaeth a sicrhau bod ein digwyddiadau a’n gweithgareddau’n rhedeg yn esmwyth ac yn cael effaith go iawn.

O ddydd i ddydd, byddwch yn ymwneud â chydlynu a chefnogi gweithgareddau ymgysylltu, yn cynnwys cynllunio cyfarfodydd a pharatoi adroddiadau a helpu arloeswyr i lywio drwy'r system iechyd a gofal. Byddwch hefyd yn rheoli ac yn cyflwyno rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynadleddau, arddangosfeydd, trafodaethau bwrdd crwn a gweminarau, gan sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei gynllunio'n dda, yn cael ei ddarparu'n broffesiynol, ac yn cyfrannu at ein strategaeth ymgysylltu ehangach. Bydd y rôl yn cynnwys cydweithio agos ar draws y sefydliad, gyda'n timau marchnata, gwybodaeth a chyflawni, a chyswllt uniongyrchol â phartneriaid allanol ar draws iechyd, gofal, y byd academaidd a diwydiant.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd â sgiliau trefnu cryf, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion ac sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau. Dylai fod gennych brofiad o gefnogi’r broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparu digwyddiadau llwyddiannus, a bod yn hyderus wrth weithio gyda systemau fel adnoddau CRM ac offer cynllunio digwyddiadau. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i weithio'n annibynnol, meithrin perthnasoedd proffesiynol, ac addasu i flaenoriaethau sy'n newid.

I weld holl fanylion y swydd hon, darllenwch y disgrifiad o’r swydd.

Pam dewis gweithio i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru?

  • Ymunwch â ni er mwyn bod yn aelod o dîm bach a chyfeillgar  
  • Diwylliant gwaith cynhwysol a hyblyg  
  • Sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd
  • Cefnogol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gyda hawl gwyliau hael - 30 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus yn ychwanegol  
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniad o 11% gan y cyflogwr 

Gwnewch gais nawr!

Anfonwch e-bost atom yn careers@lshubwales.com gyda ffurflen cyfle cyfartal wedi’i llenwi, eich CV diweddaraf a datganiad ategol (dim mwy na dwy dudalen A4 o hyd) yn egluro sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon, a pham eich bod yn credu mai chi yw’r person gorau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn.

Rhaid i’ch cais cyflawn ein cyrraedd ni erbyn 5pm ar 22 Medi 2025.

Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ein swyddfa ym Mae Caerdydd ar 8 Hydref 2025.

Os hoffech chi gael sgwrs gychwynnol anffurfiol i ddysgu rhagor am y swydd hon, cysylltwch â Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau, drwy anfon e-bost at naomi.joyce@lshubwales.com.