Yr Her 

Erbyn 2030, bydd un o bob pedwar unigolyn yng Nghymru dros 65 oed – amcangyfrifir bod hynny’n 700,000 o bobl. Mae’n bwysig ein bod yn mabwysiadu technoleg newydd a fydd yn helpu’r boblogaeth i gadw’n iach, yn hapus ac yn weithgar cyhyd â phosibl. Mae pwysigrwydd yr her yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau canlynol Llywodraeth Cymru ‘Cymru Iachach: ein cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ (2018)’, a'r ‘Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023' a ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).  

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â her heneiddio’n iach drwy arloesi wrth ddarparu gwasanaethau a mabwysiadu technoleg, fel monitro o bell, cynnal iechyd, a datblygu a defnyddio technolegau cynorthwyol 

 

Cyfle   

Mae gwaith Llywodraeth Cymru o ganolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yn ddigidol yn ymrwymiad pwysig a fydd yn rhoi’r seilwaith a’r adnoddau sylweddol ar waith sy’n ofynnol er mwyn i Gymru sicrhau bod manteision yn deillio o’r chwyldro digidol. 

Mae’r gwersi a ddysgwyd yn ystod pandemig Covid-19 wedi dangos sut gall system iechyd a gofal Cymru groesawu a defnyddio atebion digidol yn gyflym ac ar raddfa i sbarduno gwelliannau o ran darparu gwasanaethau. Roedd monitro o bell a wardiau rhithwir yn darparu’r posibilrwydd o leddfu’r pwysau ar y GIG a gofal sylfaenol.  Roedd y berthynas â’r diwydiant yn hollbwysig er mwyn cadw at yr un raddfa a’r cyflymder a fynnwyd gan yr argyfwng.  

Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i bartneriaethau gael eu ffurfio gyda’r diwydiant i ddarparu iechyd a gofal o werth uwch, gwella’n gyflym ac arloesi. Bydd mynediad wedi’i reoli’n dda a’i lywodraethu’n gadarn at ddata amlhaenog o safon (megis drwy’r Adnodd Data Cenedlaethol a’r storfeydd data presennol) yn denu diwydiant, gan arwain at gyfleoedd i bartneriaethau ddatblygu cynnyrch a busnesau newydd yng Nghymru. 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio tuag at nifer o ryngwynebau rhaglennu cymwysiadau, sef offer, diffiniadau a phrotocolau ar gyfer integreiddio meddalwedd a gwasanaethau rhaglenni i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

Mae dysgu peirianyddol yn cynnig addewid mawr i ddehongli cryn dipyn o ddata cyfunol y gellir ei ddefnyddio gyda diagnosteg, dadansoddi delweddu meddygol, cofnodion meddygol cleifion, logisteg a geneteg. Mae systemau deallusrwydd artiffisial yn gallu dehongli delweddau radioleg yn gyflym. Er na fydd byth yn disodli clinigwyr, bydd yn eu rhyddhau i ganolbwyntio ar achosion mwy cymhleth. Gallai’r dechnoleg hon gyfrannu’n helaeth at fynd i’r afael â phrinder radiolegwyr ar hyn o bryd, gan ategu mentrau fel Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru.  

Gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru gael mynediad at bartneriaid allweddol yn y diwydiant i gefnogi byrddau iechyd a sefydliadau gofal cymdeithasol i gyflawni'r prosiectau sy'n cefnogi’r trawsnewid hwn. Mae gennym gysylltiadau a rhwydweithiau cryf â busnesau gofal iechyd digidol bach a mawr, gan eu paru ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth rheoli prosiectau i hwyluso’r gwaith o fabwysiadu arloesedd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein Rhaglen Deallusrwydd Artiffisial, Digidol a Roboteg, cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com.