Mae gan Dr Arif Anwary dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phrosiectau Ymchwil a Datblygu a phedair blynedd o brofiad addysgu. Mae Arif yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd gan dynnu ar bortffolio mawr o brosiectau amlddisgyblaethol. Mae’r rhain yn brosiectau sy’n cynnwys: Synhwyrau (Gwisgadwy, Amgylchol a Gweladwy), Prosesu Signalau, IoT/Cwmwl, Dadansoddeg Data Mawr, Dysgu Peiriant, Dadansoddi Gait, Dadansoddi Siapiau Ystadegol, System Niwlog, Technoleg Gynorthwyol, Creu Prototeipiau Cyflym.

Cwblhaodd Arif PhD ym Mhrifysgol Bournemouth lle archwiliodd amrywiaethau osgo ar draws wahanol grwpiau oed. Datblygodd aml-synhwyrydd di-wifr personol i’w wisgo i adnabod newidiadau a monitro anghymuseredd, dosbarthu abnormalrwydd ac asesu’r risg o gwympo. Mae’n rhoi’r cyfle i gefnogi’r gwaith o werthuso a gwella cleifion sydd ag abnormalrwydd osgo a symudedd gwael yn eu cartrefi. Mae ei brosiectau arloesol wedi ennill amryw o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Datblygodd Jontre Bangla Bornomalar Hatekhori (Braille Digidol), a ddaeth yn ail yn IUPS, Gŵyl CSE-2011. Bu i’w Robot: Bangla-Manob clyfar ennill yr ail wobr yn SOFTEC2005, 1af yng Nghystadleuaeth Asia Gyfan a 10fed yng Nghystadleuaeth Feddalwedd Oacistan gyfan. Enillodd y Wobr gyntaf am y Robot a Llais a Reolir a arddangoswyd yn yr NSU Softfair 2004, Prifysgol North South. Datblygodd amryw o brosiectau eraill: caffael data Earth- Quake, Braille hunan-ddysg, Arddangosfa Braille Ddigidol Refreshable, Wromedr â Synhwyrydd Integredig, Monitro Ystum Eistedd yn Ddeallus a Chyfrif Pwff E-sigaret etc.