Mae Leanne yn Ffisiotherapydd Siartredig, gyda chefndir amlddisgyblaethol ym maes gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff, addysgu/darlithio, ymchwil a datblygu, rheoli prosiectau ac ymchwil clinigol. Mae ei hymchwil clinigol yn rhan o faes datblygiadau newydd orthotig a rheoli poen cronig mewn athletwyr, ac mae ei chefndir mewn ymarfer clinigol yn canolbwyntio ar adsefydlu mewn athletau yn bennaf.

Yn dilyn gyrfa gynnar ym myd addysg, symudodd Leanne i faes darlithio clinigol a goruchwylio ymchwil. Treuliodd sawl blwyddyn hefyd fel yr arweinydd ymchwil a datblygu a’r prif glinigwr chwaraeon mewn cwmni orthoteg, gan weithio’n agos gyda phrifysgolion, partneriaid diwydiannol a chleientiaid perfformiad uchel. Roedd hyn yn cynnwys arwain a rheoli prosiectau arloesol yn glinigol, goruchwylio cymdeithion ymchwil yn ogystal â datrys problemau o ran rheoli cleifion orthoteg gydag anhwylderau yn amrywio o anabledd niwrolegol i boen cronig.

Cyn ymuno â Cyflymu Arloesi Clinigol, bu Leanne hefyd yn gweithio yn Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, gan gydlynu’r Rhwydwaith OATech+ amlddisgyblaethol ledled y Deyrnas Unedig, a Chyfleuster Ymchwil Biomecaneg Cyhyrysgerbydol. Mae Leanne ar hyn o bryd yn aelod o banel Cyfeirio Effaith a Mabwysiadu NICE.