Mae cefndir academaidd Tom wedi ei wreiddio yn astudiaethau gwyddoniaeth fiofeddygol, wedi iddo raddio o Brifysgol Lerpwl yn 2013. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth eang iddo o systemau ffisiolegol, ynghyd â sail greiddiol clefydau mewn poblogaethau dynol.

Yn dilyn hyn, treuliodd Tom amser yn y diwydiant Eiddo Deallusol (IP). Yn ychwanegol, cwblhaodd Tom PhD yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ddiweddar. Roedd hyn yn canolbwyntio ar gefnogi trosi a masnacheiddio arloesedd Gwyddor Bywyd ac Iechyd yng Nghymru. O ganlyniad i’w PhD, datblygodd Tom offeryn sy’n cefnogi prosiectau archwilio arloesedd. Mae’r offeryn yn caniatáu creu pecynnau cymorth arloesi unigryw, wedi’u teilwra ar gyfer gofynion datblygiadol unigryw prosiectau arloesi unigol.

Drwy gydol y cyfnod astudio hwn a’i brofiad ehangach o fewn meysydd Gwyddor Bywyd ac Iechyd, mae Tom hefyd wedi meithrin rhwydwaith proffesiynol gryf o randdeiliaid ar draws meysydd academaidd, diwydiannol a chlinigol (NHS).