Pennaeth Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth
Mae Andrew yn weithiwr proffesiynol ym maes llywodraethu corfforaethol sydd wedi gweithio ar draws sectorau, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu systemau rheoli llywodraethu, risg a sicrwydd cadarn.
Yn flaenorol, roedd Andrew yn gweithio yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn gyntaf mewn llywodraethu corfforaethol cyn cyfnod mewn gweithrediadau busnes yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus, yn gyfrifol am wasanaethau microbioleg, diogelu iechyd a sgrinio yng Nghymru.
Mae Andrew wedi dal swyddi llywodraethu ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bryste, ac mae’n aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Cyhoeddus ac Ariannol.
Mae gan Andrew ddoethuriaeth mewn hanes o Brifysgol Caerdydd, lle bu’n addysgu ac yn ymgymryd ag ymchwil academaidd ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n aelod etholedig o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol.
Andrew sy’n gyfrifol am lywodraethu corfforaethol, rheoli risg, busnes y bwrdd a’r pwyllgor, seiberddiogelwch a rheoli gwybodaeth yn y sefydliad. Mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu modelau llywodraethu cydweithredol newydd sy’n galluogi gweithgareddau arloesi.