Trydydd parti
,
-
,
Hospitality Suite, Cardiff Metropolitan University - Llandaff Campus

Archwiliwch lwybrau newydd a chysylltiadau ymchwil gyda’r gyfres gyffrous hon o ddigwyddiadau ‘Cychwyn Cydweithio’.

A woman applauding at a conference

Mae Dr Teksin Kopanoglu yn Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Dylunio Cynnyrch. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio pŵer dylunio i wella iechyd a lles. Mae'n defnyddio dulliau meddwl dan arweiniad dylunio, yn enwedig Dylunio Cyfranogol a Dylunio sy'n Canolbwyntio ar Bobl, i ymgysylltu â phobl/rhanddeiliaid i archwilio profiadau, technolegau a gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol.

Mae'r sesiwn hon yn rhan o gyfres a gynlluniwyd i feithrin cydweithrediadau ymchwil newydd trwy gysylltu mynychwyr ag academyddion sy'n weithgar ym maes ymchwil. Bydd Dr. Kopanoglu yn rhannu mewnwelediad i'w harbenigedd a'r prosiectau cydweithredol y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith. Mae'r digwyddiad yn cynnwys sgwrs 20 munud ac yna sesiwn Holi ac Ateb 40 munud, gyda chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a lluniaeth ar ôl hynny.

Yn agored i staff Met Caerdydd, ymchwilwyr, a busnesau sydd â diddordeb mewn archwilio cyfleoedd cydweithio. 

Diddordeb mewn mynychu?