Dewch i gofrestru ar gyfer Fforwm Diwydiant Canser Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gyda’r opsiwn o ymuno wyneb yn wyneb neu’n rhithiol. Dewiswch y dull sydd orau gennych chi wrth gofrestru.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cynnwys diweddariad ar y Fenter Mynd i’r Afael â Chanser, y rhaglen sy’n datblygu i gynyddu gweithgarwch treialon masnachol, a VPAG yng Nghymru, y cam nesaf ar gyfer QuicDNA: QuicDNA Max, cynnig ar gyfer AI i optimeiddio penderfyniadau’r Tîm Amlddisgyblaethol a nodi treialon ar gyfer cleifion, a grwpiau trafod ar wahân. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
Sefydlwyd Fforwm Diwydiant Canser Cymru i gynyddu cynhwysiant, cynrychiolaeth a chydweithrediad rhanddeiliaid y diwydiant, ac i roi cyfle i’r sefydliadau hynny roi mewnbwn ar ganlyniadau canser yng Nghymru.
Mae’r Fforwm Diwydiant yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng diwydiant, Rhwydwaith Canser Cymru a’i grwpiau rhanddeiliaid ehangach. Prif bwrpas y Fforwm Diwydiant yw darparu dull ychwanegol o ymgysylltu rhwng y sefydliadau fferyllol, biodechnoleg a chyrff masnachol eraill a’r GIG yng Nghymru. Mae’n ffordd o gyfathrebu a chynrychioli’n dryloyw ar draws y sector, ac o gydlynu nodau ac adnoddau strategol y sector drwy bartneriaeth a chydweithio.