Mae’r rhaglenni Adnodd Data Cenedlaethol ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cynnal Digwyddiad Data Mawr - y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn rhoi arddangosiadau craff o sut mae data’n gallu cael ei ddefnyddio, a sut mae wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu gwelliannau a datrysiadau gweithredol i heriau cymhleth.
Yn ystod y prynhawn, bydd dwy sesiwn yn cael eu cynnal ar yr un pryd:
- Bydd arweinwyr yng Nghymru yn dod at ei gilydd i dynnu sylw at y prif heriau gweithredol sy’n eu hwynebu, ac i edrych ar sut gall data mawr - fel deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth - helpu hynny.
- Sesiwn hyfforddiant o safon fyd-eang ar uwch ddadansoddeg i ddadansoddwyr data, sy’n cael ei chynnal mewn partneriaeth â Google. Bydd yn gyfle i gael gweld rhai o swyddogaethau dadansoddi Google Cloud Platform ar waith, ac i gael dysgu amdanynt, drwy Cloud Hero - sesiwn sydd â nodweddion gêm. Bydd angen gliniadur wedi’i wefru’n llawn er mwyn cymryd rhan.
Os ydych chi eisiau cofrestru eich lle i ymuno â’r trafodaethau bord gron yn y prynhawn fel uwch arweinydd yng Nghymru, cliciwch y ddolen hon.
Os ydych chi eisiau cofrestru eich lle i ymuno â’r sesiwn Cloud Hero yn y prynhawn fel dadansoddwr data, cliciwch y ddolen hon.
Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad?
Gweithredwyr, cyfarwyddwyr a dadansoddwyr data. Mae’r digwyddiad hefyd yn addas ar gyfer arweinwyr swyddogaethau gweithredol ym maes iechyd yng Nghymru, fel cynllunio, cyllid, perfformiad a’r gweithlu.