Ymunwch â ni yn nigwyddiad ein Rhaglen Traws-Sector am arddangosiad ar sut gall datblygiadau digidol a data effeithio ar ganlyniadau canser.
Croeso i Ddigwyddiad y Rhaglen Traws-Sector: Canser - Digidol a Data a gynhelir gan Academi’r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Mae'r cysylltiad rhwng gofal canser â thechnolegau digidol a gwyddor data yn faes sy'n esblygu'n gyflym ac yn hanfodol bwysig. Ymunwch â ni a chymryd rhan mewn trafodaethau llawn gwybodaeth, rhwydweithio â chymheiriaid, ac edrych ar brosiectau arloesol. Cewch wybodaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant, rhannu eich profiadau, a darganfod adnoddau digidol arloesol ac arloesi yn ymwneud â data sy’n trawsnewid gofal canser.
Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig llwyfan unigryw ar gyfer cydweithio ar draws gyrfaoedd a chyfnewid gwybodaeth. Rydym yn croesawu unigolion ar bob cam o’u gyrfaoedd i ddod. Rydym yn eich annog i wahodd cydweithwyr a chymheiriaid, yn enwedig y rheini sy’n cymryd y camau cyntaf yn eu gyrfaoedd ymchwil. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i fod yn rhan o’r sgwrs!