Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
,
-
,
Cardiff City Stadium

Mae Cymorth Canser Macmillan a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi creu partneriaeth i fynd i'r afael ag amrywiadau direswm mewn gofal canser ledled Cymru. Rydym yn cynnal tri gweithdy cyd-ddylunio i gasglu safbwyntiau ar y pwnc hwn o bob cwr o Gymru, i'n helpu i siapio prosiectau yn y dyfodol.

People talking in a group

Rydym yn cynnal tri gweithdy cyd-ddylunio i gasglu safbwyntiau ar y pwnc hwn o bob cwr o Gymru, i'n helpu i siapio prosiectau yn y dyfodol.

Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad?

  • Pobl sydd â phrofiad bywyd o ganser, gan gynnwys grwpiau cymunedol ac eiriolwyr cleifion
  • Cydweithwyr o sefydliadau GIG Cymru, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb clinigol mewn canser
  • Cydweithwyr o'r trydydd sector a mudiadau gwirfoddol
  • Cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, yn enwedig arweinwyr polisi ym meysydd canser, arloesedd ac anghydraddoldebau iechyd
  • Partneriaid academaidd, gan gynnwys prifysgolion a chanolfannau ymchwil iechyd
  • Arloeswyr a chyflenwyr, yn enwedig y rhai sy'n datblygu neu'n ehangu technolegau sy'n gysylltiedig â chanser
  • Cyrff buddsoddi a chyllido sydd â diddordeb mewn cefnogi prosiectau canser

Beth i'w ddisgwyl?

  • Trafodaeth am yr hyn mae'r data eisoes yn ei ddweud wrthym
  • Helpu i flaenoriaethu a dilysu meysydd o amrywiad diangen o fewn gofal a thriniaeth canser
  • Defnyddiwch eich profiad a'ch arbenigedd i gyfrannu at ddatblygu datganiadau o’r problemau

Sut mae cofrestru

Os hoffech chi ddod i un o’r gweithdai hyn, cysylltwch â: helo@hwbgbcymru.com.

Os byddech chi’n hoffi cymryd rhan ond nad ydych chi’n gallu dod ar unrhyw un o’r dyddiadau hyn, rhowch wybod i ni oherwydd rydym yn meddwl am gynnal sesiwn ar-lein.

Diddordeb mewn mynychu?