Trydydd parti
-
Ledled Cymru

Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd Chwaraeon ac Iechyd, gydag ARCH, yn cynnal pump Gweithdy Mewnwelediadau Iechyd am ddim i sefydliadau trydydd sector a chwmnïau sy’n gweithio yn y sector iechyd.

A group of people talking

Mae'r gweithdai yn dilyn cyhoeddiad y Asesiad Anghenion Iechydlleol, sy'n rhoi eglurder ar gyflwr iechyd a lles ymhlith poblogaeth benodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Nod yr asesiad oedd darparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer ymchwil ac arloesi ym maes iechyd a lles ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, gan ganolbwyntio ar wella profiadau a chanlyniadau cleifion.

Mae’r gweithdai yn gyfle i gael dealltwriaeth werthfawr o anghenion iechyd a lles eich cymuned. Bydd y digwyddiadau yn cynnwys diweddariadau ar:

Proffil y Boblogaeth: Gwybodaeth am y bobl sy'n byw yn y rhanbarth a thueddiadau poblogaeth y dyfodol

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Data ar yr ardaloedd sy'n wynebu'r heriau mwyaf

Byddwn hefyd yn trafod y materion iechyd mwyaf toreithiog sy’n wynebu’r poblogaethau hyn, megis:

  • Cyflyrau cardiofasgwlaidd
  • Canserau
  • Salwch tymor hir sy'n cyfyngu ar weithgareddau dyddiol
  • Cyflyrau cronig
  • Marwolaeth gynamserol
  • Ffactorau risg ffordd o fyw, fel ysmygu a diet

Dyma amserlen y gweithdai:

4 Chwefror: Canolfan Ddinesig Port Talbot

7 Chwefror: Campws Singleton Prifysgol Abertawe

10 Chwefror: Parc Dewi Sant, Caerfyrddin

11 Chwefror: Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro

20 Chwefror: Meddygfa Padarn Aberystwyth, Ceredigion

Diddordeb mewn mynychu gweithdy?